YMADRODD BEIBLAIDD
Defnyddio Dy ‘Rodd Ysbrydol’
Rydyn ni i gyd yn trysori’r anogaeth rydyn ni’n ei chael oddi wrth ein brodyr a’n chwiorydd Cristnogol. Ond mae gwir anogaeth yn golygu mwy na threulio amser gyda’n gilydd yn unig. Mae’r Beibl yn disgrifio ein gallu i gryfhau ein ffydd ein gilydd yn “rhodd ysbrydol.” (Rhuf. 1:11, 12) Sut gallwn ni ddefnyddio’r rhodd honno yn y ffordd orau?
Gad i dy eiriau fod yn rhodd. Er enghraifft, gallwn ni roi sylwadau yn y cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar Jehofa, ei Air, a’i bobl, yn hytrach nag ar ein hunain. Wrth sgwrsio â’n cyd-addolwyr, gallwn ni ddewis siarad am bethau calonogol.
Anoga eraill drwy dy benderfyniadau a dy weithredoedd. Er enghraifft, mae rhai wedi dewis parhau i wasanaethu’n llawn amser er eu bod nhw’n wynebu heriau personol. Mae eraill yn mynychu’r cyfarfodydd canol wythnos yn rheolaidd er gwaethaf amserlen waith brysur neu salwch hir dymor.
A ydy dy eiriau a dy weithredoedd ffyddlon yn annog dy frodyr a dy chwiorydd? A wyt ti’n effro i dderbyn eu rhoddion ysbrydol?