Dydd Gwener, Medi 12
[Mae] golygfa’r byd hwn yn newid.—1 Cor. 7:31.
Gwna enw i ti dy hun o fod yn rhesymol. Gofynna i ti dy hun: ‘A ydy pobl yn fy ngweld i’n rhesymol, yn barod i ildio, ac yn oddefgar? Neu a ydyn nhw’n fy ngweld i’n berson ddi-ildio, llym, neu bengaled? A ydw i’n gwrando ar eraill ac yn ildio i’w gofynion pan fydd hynny’n briodol?’ Y mwyaf rhesymol ydyn ni, y mwyaf rydyn ni’n efelychu Jehofa ac Iesu. Mae bod yn rhesymol yn cynnwys bod yn hyblyg pan fydd ein hamgylchiadau yn newid. Gall y fath newidiadau greu caledi annisgwyl inni. Gallwn wynebu argyfwng iechyd. Neu gall newidiadau yn yr economi neu yn y byd gwleidyddol wneud ein bywydau yn anodd iawn. (Preg. 9:11) Gall hyd yn oed newid mewn aseiniad theocrataidd roi prawf arnon ni. Gallwn ni addasu yn llwyddiannus i amgylchiadau newydd os wnawn ni ddilyn y pedwar cam canlynol: (1) derbyn ein realiti, (2) edrych i’r dyfodol, (3) canolbwyntio ar y positif, a (4) gwneud pethau ar gyfer eraill. w23.07 21-22 ¶7-8
Dydd Sadwrn, Medi 13
Rwyt ti’n sbesial iawn yng ngolwg Duw.—Dan. 9:23.
Roedd y proffwyd Daniel yn ddyn ifanc pan gafodd ei gipio gan y Babiloniaid a’i gymryd yn garcharor i Fabilon, yn bell o Jerwsalem. Ond er ei fod yn ifanc, mae’n amlwg bod Daniel wedi gwneud argraff fawr ar y swyddogion. Roedden nhw’n “edrych ar y tu allan” ac yn gweld bod Daniel yn “iach a golygus” a’i fod yn dod o deulu pwysig. (1 Sam. 16:7) Am y rhesymau hynny, fe wnaeth y Babiloniaid ei hyfforddi i wasanaethu yn y palas. (Dan. 1:3, 4, 6) Roedd Jehofa yn caru Daniel, oherwydd y math o berson dewisodd Daniel i fod. Mewn gwirionedd, pan ddywedodd Jehofa fod Daniel fel Noa a Job, mae’n debyg bod Daniel tua ugain mlwydd oed. Felly roedd Jehofa yn ystyried Daniel i fod mor gyfiawn â Noa a Job a oedd wedi ei wasanaethu yn ffyddlon am lawer o flynyddoedd. (Gen. 5:32; 6:9, 10; Job 42:16, 17; Esec. 14:14) Roedd Jehofa yn parhau i garu Daniel ar hyd ei oes.—Dan. 10:11, 19. w23.08 2 ¶1-2
Dydd Sul, Medi 14
Er mwyn ichi . . . allu deall yn llawn beth yw’r lled a’r hyd a’r uchder a’r dyfnder.—Eff. 3:18.
Wrth benderfynu prynu tŷ, byddet ti eisiau gweld pob manylyn ohono drostot ti dy hun. Rydyn ni’n gallu gwneud rhywbeth tebyg wrth inni ddarllen ac astudio’r Beibl. Os wyt ti’n ei ddarllen yn gyflym, efallai byddi di ond yn dysgu ‘pethau sylfaenol neges Dduw.’ (Heb. 5:12) Yn lle hynny, dos i mewn i’r tŷ fel petai, i weld ei holl brydferthwch. Ffordd wych o astudio’r Beibl yw gweld sut mae’r gwahanol rannau o’r neges yn cysylltu â’i gilydd. Ceisia ddeall, nid yn unig beth rwyt ti’n ei gredu, ond hefyd pam rwyt ti’n ei gredu. Er mwyn deall Gair Duw yn llawn, mae’n rhaid inni ddysgu gwirioneddau dwfn y Beibl. Fe wnaeth yr apostol Paul annog ei frodyr a’i chwiorydd Cristnogol i astudio Gair Duw yn fanwl er mwyn iddyn nhw allu deall yn llawn lled, hyd, uchder, a dyfnder y gwir. Yna bydden nhw’n cael eu ‘gwreiddio a’u sefydlu’ yn eu ffydd. (Eff. 3:14-19) Mae’n rhaid i ni wneud yr un fath. w23.10 18 ¶1-3