Genesis
30 Pan welodd Rachel nad oedd hi wedi rhoi unrhyw blant i Jacob, daeth hi’n genfigennus o’i chwaer a dechrau dweud wrth Jacob: “Rho blant imi neu bydda i’n marw.” 2 Ar hynny, gwylltiodd Jacob at Rachel, a dywedodd: “Ydw i wedi cymryd lle Duw, sydd wedi dy rwystro di rhag cael plant?” 3 Felly dywedodd hi: “Dyma fy nghaethferch Bilha. Cysga gyda hi er mwyn iddi hi allu cael plant drosto i a bydda i, drwyddi hi, yn gallu cael plant.” 4 Ar hynny, dyma hi’n rhoi ei morwyn Bilha iddo yn wraig, a chysgodd Jacob gyda hi. 5 Daeth Bilha yn feichiog, ac ymhen amser dyma hi’n geni mab i Jacob. 6 Yna dywedodd Rachel: “Mae Duw wedi gweithredu fel barnwr imi a hefyd wedi gwrando ar fy llais, ac felly wedi rhoi mab imi.” Dyna pam rhoddodd hi’r enw Dan* arno. 7 Daeth Bilha, morwyn Rachel, yn feichiog unwaith eto ac ymhen amser dyma hi’n geni ail fab i Jacob. 8 Yna dywedodd Rachel: “Rydw i wedi ymdrechu’n galed i gystadlu â fy chwaer. Ac rydw i wedi ennill!” Felly dyma hi’n ei alw’n Nafftali.*
9 Pan welodd Lea ei bod hi wedi stopio cael plant, cymerodd hi ei morwyn Silpa a’i rhoi i Jacob yn wraig. 10 A dyma Silpa, morwyn Lea, yn geni mab i Jacob. 11 Yna dywedodd Lea: “Rydw i mor ffodus!” Felly dyma hi’n ei alw’n Gad.* 12 Ar ôl hynny, dyma Silpa, morwyn Lea, yn geni ail fab i Jacob. 13 Yna dywedodd Lea: “Rydw i mor hapus, oherwydd bydd y merched yn sicr yn fy ngalw i’n hapus.” Felly rhoddodd hi’r enw Aser* arno.
14 Nawr roedd Reuben yn cerdded yn ystod adeg cynhaeaf y gwenith, a daeth ar draws mandragorau* yn y cae. Felly daeth â nhw at ei fam Lea. Yna dywedodd Rachel wrth Lea: “Plîs, rho imi rai o fandragorau dy fab.” 15 Ar hynny, dywedodd Lea wrthi: “Ai peth bach oedd cymryd fy ngŵr? Nawr rwyt ti eisiau cymryd mandragorau fy mab hefyd?” Felly dywedodd Rachel: “Iawn. Bydd ef yn cysgu gyda ti heno os gwnei di roi mandragorau dy fab imi.”
16 Pan oedd Jacob yn dod o’r cae gyda’r nos, aeth Lea allan i’w gyfarfod a dywedodd hi: “Gyda mi rwyt ti am gysgu heno, oherwydd rydw i wedi rhoi mandragorau fy mab i dalu amdanat ti.” Felly cysgodd ef gyda hi y noson honno. 17 A dyma Duw yn clywed Lea ac yn ei hateb, a daeth hi’n feichiog a geni pumed mab i Jacob ymhen amser. 18 Yna dywedodd Lea: “Mae Duw wedi talu cyflog imi oherwydd fe wnes i roi fy morwyn i fy ngŵr.” Felly rhoddodd hi’r enw Issachar arno.* 19 A daeth Lea yn feichiog unwaith eto ac ymhen amser dyma hi’n geni chweched mab i Jacob. 20 Yna dywedodd Lea: “Mae Duw wedi rhoi braint fawr yn wobr imi, ie i mi. O’r diwedd, bydd fy ngŵr yn fy ngoddef i, oherwydd rydw i wedi geni chwech mab iddo.” Felly rhoddodd hi’r enw Sabulon* arno. 21 Ar ôl hynny, cafodd hi ferch a’i galw hi’n Dina.
22 Yn y pen draw, cofiodd Duw am Rachel, a’i chlywed hi a’i hateb hi drwy ei galluogi hi i feichiogi. 23 A daeth hi’n feichiog a chael mab. Yna dywedodd hi: “Mae Duw wedi cymryd fy sarhad i ffwrdd!” 24 Felly dyma hi’n ei enwi’n Joseff,* gan ddweud: “Mae Jehofa yn rhoi mab arall imi.”
25 Ar ôl i Rachel eni Joseff, dyma Jacob ar unwaith yn dweud wrth Laban: “Anfona fi i ffwrdd er mwyn imi fynd yn ôl i fy nghartref a fy ngwlad. 26 Rydw i wedi gwasanaethu gyda ti ar gyfer fy ngwragedd a fy mhlant, felly rho nhw i mi er mwyn imi fynd, oherwydd rwyt ti’n gwybod yn iawn pa mor galed rydw i wedi dy wasanaethu di.” 27 Yna dywedodd Laban wrtho: “Os ydw i wedi dy blesio di,—rydw i wedi gweld arwyddion* bod Jehofa yn fy mendithio i o dy achos di.” 28 Ac ychwanegodd: “Dyweda beth rwyt ti eisiau fel cyflog, ac fe wna i ei roi iti.” 29 Felly dywedodd Jacob wrtho: “Rwyt ti’n gwybod yn iawn pa mor galed rydw i wedi dy wasanaethu di a fy mod i wedi gofalu am dy braidd; 30 ychydig oedd gen ti cyn imi ddod, ond mae dy braidd wedi cynyddu a thyfu, ac mae Jehofa wedi dy fendithio di ers imi gyrraedd. Felly pryd bydda i’n gwneud rhywbeth ar gyfer fy nheulu fy hun?”
31 Yna dywedodd ef: “Beth dylwn i ei roi iti?” A dywedodd Jacob: “Paid â rhoi dim byd o gwbl imi! Os gwnei di un peth imi, fe fydda i’n parhau i fugeilio dy braidd a’i warchod. 32 Fe wna i basio drwy dy holl braidd heddiw. Dylet ti neilltuo pob dafad frith, a phob un sydd â smotiau o liw a phob dafad frown tywyll ymhlith yr hyrddod* ifanc ac unrhyw un sydd â smotiau o liw neu sy’n frith ymhlith y geifr benyw. O hyn ymlaen, y rhain fydd fy nghyflog. 33 A bydd fy nghyfiawnder* yn siarad drosto i ar ddiwrnod yn y dyfodol pan fyddi di’n dod i edrych dros fy nghyflog; pob un sydd ddim yn frith ac sydd ddim â smotiau lliw ymhlith y geifr benyw a phob un sydd ddim yn frown tywyll ymhlith yr hyrddod ifanc, fe elli di ystyried fy mod i wedi eu dwyn os ydy hwnnw gyda mi.”
34 Atebodd Laban: “Mae hynny’n iawn! Gad iddi ddigwydd fel rwyt ti’n dweud.” 35 Yna, ar y diwrnod hwnnw, dyma’n neilltuo’r geifr gwryw oedd â streipiau neu smotiau o liw, a’r holl eifr benyw oedd yn frith neu oedd â smotiau o liw, pob un oedd ag unrhyw wyn arno, a phob un oedd yn frown tywyll ymhlith yr hyrddod ifanc, ac yn eu rhoi nhw yng ngofal ei feibion. 36 Ar ôl hynny, teithiodd i le a oedd yn siwrnai o dri diwrnod i ffwrdd o Jacob, ac roedd Jacob yn bugeilio gweddill preiddiau Laban.
37 Yna, cymerodd Jacob frigau ffres o goed storacs, almon, a phlanwydden, a chreu smotiau gwyn arnyn nhw drwy dynnu ychydig o’r rhisgl fel bod y pren gwyn o dan yn dangos. 38 Yna, gosododd y brigau hynny o flaen y praidd, yn y ffosydd, yn y cafnau dŵr, lle byddai’r preiddiau yn dod i yfed, fel y bydden nhw’n paru o’u blaenau nhw pan fyddan nhw’n dod i yfed.
39 Felly byddai’r preiddiau yn paru o flaen y brigau, a byddai’r preiddiau yn geni rhai bach a oedd â streipiau, rhai brith, a rhai oedd â smotiau o liw. 40 Yna neilltuodd Jacob yr hyrddod ifanc a throi’r preiddiau i wynebu’r rhai streipiog a’r holl rai brown tywyll ymhlith preiddiau Laban. Yna neilltuodd ei breiddiau ei hun heb eu cymysgu nhw â phreiddiau Laban. 41 A phryd bynnag byddai’r anifeiliaid cryfaf yn barod i genhedlu, byddai Jacob yn gosod y brigau yn y ffosydd yng ngolwg y preiddiau, fel y bydden nhw’n paru wrth ymyl y brigau. 42 Ond pan oedd yr anifeiliaid yn wan ni fyddai Jacob yn gosod y brigau yno. Felly roedd y rhai gwan yn wastad yn perthyn i Laban, ond roedd y rhai cryf yn perthyn i Jacob.
43 A daeth y dyn yn gyfoethog iawn, ac roedd ganddo breiddiau mawr a gweision a morynion a chamelod ac asynnod.