GORFFENNAF 28–AWST 3
DIARHEBION 24
Cân 38 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Cryfha Dy Hun ar Gyfer Anawsterau
(10 mun.)
Cynydda mewn doethineb a dealltwriaeth (Dia 24:5; it-2-E 610 ¶8)
Cadwa dy rwtîn ysbrydol, hyd yn oed pan wyt ti wedi digalonni (Dia 24:10; w09-E 12/15 18 ¶12-13)
Mae cadw’n gryf yn ysbrydol yn ein helpu ni i godi ar ein traed ar ôl anawsterau (Dia 24:16; w20.12 15)
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Dia 24:27—Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r ddihareb hon? (w09-E 10/15 12)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Dia 24:1-20 (th gwers 11)
4. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Mae’r sgwrs yn dod i ben cyn iti gael y cyfle i dystiolaethu. (lmd gwers 2 pwynt 4)
5. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. (lmd gwers 3 pwynt 4)
6. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. Sonia am ein rhaglen astudio’r Beibl, a rho gerdyn cyswllt sy’n cynnig cwrs Beiblaidd. (lmd gwers 4 pwynt 3)
7. Anerchiad
(3 mun.) lmd atodiad A pwynt 11—Thema: Mae Duw yn Cyfathrebu â Ni. (th gwers 6)
Cân 99
8. Helpu Eich Gilydd yn Ystod Anawsterau
(15 mun.) Trafodaeth.
Gall clefyd, trychineb naturiol, aflonyddwch sifil, rhyfel, neu erledigaeth daro’n sydyn. Pan mae hyn yn digwydd, mae Cristnogion sydd wedi cael eu heffeithio yn helpu ac yn annog ei gilydd. Ond, hyd yn oed os nad ydyn ni wedi cael ein heffeithio’n uniongyrchol, rydyn ni’n teimlo dros ein cyd-gredinwyr ac yn gwneud ein gorau glas i’w helpu nhw.—1Co 12:25, 26.
Darllen 1 Brenhinoedd 13:6 ac Iago 5:16b. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pam mae gweddïo dros eraill yn bwerus?
Darllen Marc 12:42-44 ac 2 Corinthiaid 8:1-4. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Hyd yn oed os nad oes gynnon ni lawer o arian i gyfrannu at y gwaith byd-eang i helpu ein brodyr mewn angen, pam na ddylen ni ddal yn ôl?
Dangosa’r FIDEO Cryfhau’r Brodyr o Dan Waharddiad. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pa aberthau a wnaeth y brodyr er mwyn helpu eu cyd-Gristnogion a oedd yn byw lle roedd ein gwaith wedi ei wahardd yn Nwyrain Ewrop?
Tra oedden nhw o dan waharddiad, sut gwnaeth y brodyr ufuddhau i’r gorchymyn i gyfarfod gyda’i gilydd ac i annog ei gilydd?—Heb 10:24, 25
9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 18 ¶6-15