Dydd Llun, Gorffennaf 28
[Mae’r] un sydd mewn undod â chi yn fwy na’r un sydd mewn undod â’r byd.—1 Ioan 4:4.
Pan wyt ti’n teimlo’n ofnus, meddylia am beth mae Jehofa yn mynd i’w wneud yn y dyfodol ar ôl cael gwared ar Satan. Roedd dangosiad yng nghynhadledd ranbarthol 2014 yn dangos tad yn trafod gyda’i deulu sut byddai 2 Timotheus 3:1-5 yn gallu cael ei ysgrifennu’n wahanol petasai’n disgrifio’r Baradwys: “Yn y byd newydd bydd gynnon ni’r amser mwyaf hapus. Oherwydd bydd dynion yn caru eraill, yn caru trysorau ysbrydol, yn wylaidd, yn ostyngedig, yn moli Duw, yn ufudd i’w rhieni, yn ddiolchgar, yn ffyddlon, gyda chariad mawr tuag at eu teulu, yn barod i gytuno â phobl eraill, yn siarad yn dda am eraill, gyda hunanreolaeth, yn addfwyn, gyda chariad at ddaioni, yn ddibynadwy, yn barod i ildio, heb feddwl gormod ohonyn nhw eu hunain, yn caru Duw yn hytrach na charu pleser, wedi eu cymell gan ddefosiwn Duwiol, cadw’n agos at y bobl hyn.” A wyt ti’n trafod bywyd yn y byd newydd gyda dy deulu neu gyd-addolwyr? w24.01 6 ¶13-14
Dydd Mawrth, Gorffennaf 29
Rwyt ti wedi fy mhlesio i’n fawr iawn.—Luc 3:22.
Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda’i bobl!” (Salm 149:4) Am beth calonogol i wybod! Ond yn anffodus, weithiau gall rhai deimlo mor ddigalon nes eu bod nhw’n amau a ydyn nhw’n gallu plesio Jehofa fel unigolion. Gwnaeth llawer o bobl ffyddlon Jehofa yn adeg y Beibl hefyd brwydro yn erbyn teimladau o’r fath. (1 Sam. 1:6-10; Job 29:2, 4; Salm 51:11) Mae’r Beibl yn dangos yn glir gall pobl amherffaith blesio Jehofa. Sut? Mae’n rhaid inni ymarfer ffydd yn Iesu a chael ein bedyddio. (Ioan 3:16) Drwy wneud hynny, rydyn ni’n dangos yn gyhoeddus ein bod ni wedi edifarhau am ein pechodau ac wedi addo i Dduw i wneud ei ewyllys. (Act. 2:38; 3:19) Mae Jehofa wrth ei fodd pan ydyn ni’n cymryd y camau hyn i feithrin perthynas ag ef. Os ydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gadw ein haddewid i Jehofa, rydyn ni’n ei blesio, ac mae’n ein hystyried ni’n ffrindiau iddo.—Salm 25:14. w24.03 26 ¶1-2
Dydd Mercher, Gorffennaf 30
Dydyn ni ddim yn gallu stopio siarad am y pethau rydyn ni wedi eu gweld a’u clywed.—Act. 4:20.
Os bydd yr awdurdodau seciwlar yn mynnu ein bod ni’n stopio pregethu, gallwn ni efelychu’r disgyblion drwy ddal ati beth bynnag. Gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa yn ein helpu ni i wneud ein gweinidogaeth. Felly, gweddïa am ddewrder a doethineb. Gofynna i Jehofa am help i ddelio â dy broblemau. Mae llawer ohonon ni’n wynebu problemau fel salwch, colli anwylyn, sefyllfa anodd yn y teulu, erledigaeth, neu rywbeth arall. Ac mae pethau fel pandemigau neu ryfeloedd wedi gwneud y problemau hyn yn anoddach byth. Dyweda wrth Jehofa yn union sut rwyt ti’n teimlo, fel byddet ti gyda ffrind agos. A thrystia y bydd Jehofa yn “gweithredu ar dy ran.” (Salm 37:3, 5) Bydd dal ati i weddïo yn ein helpu ni i ‘ddyfalbarhau pan fyddwn ni’n wynebu problemau.’ (Rhuf. 12:12) Mae Jehofa yn gwybod yn union beth mae ei bobl yn ei wynebu—“mae’n eu clywed nhw’n galw” am help.—Salm 145:18, 19. w23.05 5-6 ¶12-15