Exodus
30 “Dylet ti wneud allor ar gyfer llosgi arogldarth; dylet ti ei gwneud allan o goed acasia. 2 Dylai’r allor fod yn sgwâr, yn gufydd* o hyd, yn gufydd o led, ac yn ddau gufydd o uchder. Bydd ei chyrn yn rhan ohoni. 3 Dylet ti ei gorchuddio ag aur pur: y top, yr ochrau, a’r cyrn; a dylet ti roi ymyl aur o’i hamgylch. 4 O dan ymyl yr allor byddi di’n rhoi dwy fodrwy o aur, dwy ar un ochr, a dwy ar yr ochr arall, a bydd y polion yn mynd trwy’r rhain er mwyn ei chario. 5 Gwna’r polion allan o goed acasia a’u gorchuddio ag aur. 6 Dylet ti roi’r allor o flaen y llen sydd wrth ymyl arch y Dystiolaeth, o flaen y caead sydd dros y Dystiolaeth, lle bydda i’n fy nghyflwyno fy hun iti.
7 “Bydd Aaron yn llosgi arogldarth persawrus arni, gan wneud i fwg godi oddi arno ar yr allor wrth baratoi’r lampau bob bore. 8 Hefyd, pan fydd Aaron yn goleuo’r lampau yn y gwyll,* bydd yn llosgi’r arogldarth. Byddwch chi’n offrymu arogldarth yn rheolaidd o flaen Jehofa drwy eich holl genedlaethau. 9 Ni ddylech chi offrymu arogldarth anghyfreithlon arni nac offrwm llosg nac offrwm grawn, ac ni ddylech chi dywallt* offrwm diod arni. 10 Bydd rhaid i Aaron roi ychydig o waed anifail yr offrwm dros bechod ar gyrn yr allor er mwyn puro’r allor. Bydd yn gwneud hynny unwaith y flwyddyn drwy eich holl genedlaethau. Mae’n sanctaidd iawn i Jehofa.”
11 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 12 “Bryd bynnag byddi di’n gwneud cyfrifiad ac yn cyfri meibion Israel, bydd rhaid i bob un dalu’r pris i Jehofa am ei fywyd ar adeg y cyfrifiad. O wneud hyn, ni fydd pla yn dod arnyn nhw pan fyddan nhw’n cael eu cofrestru. 13 Dyma beth bydd y rhai sydd wedi eu cofrestru yn ei roi: hanner sicl* yn ôl sicl y lle sanctaidd.* Mae ugain gera* yn gyfartal â sicl. Hanner sicl ydy’r cyfraniad i Jehofa. 14 Bydd pawb sydd wedi eu cofrestru sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn yn rhoi cyfraniad i Jehofa. 15 Ni ddylai’r cyfoethog roi mwy ac ni ddylai’r tlawd roi llai na hanner sicl* fel cyfraniad i Jehofa er mwyn talu’r pris am eu bywydau. 16 Dylet ti gymryd yr arian ar gyfer talu’r pris am eu bywydau oddi ar yr Israeliaid i gefnogi’r gwasanaeth sy’n cael ei wneud ym mhabell y cyfarfod, er mwyn i Jehofa gofio’r Israeliaid, ac i dalu’r pris am eich bywydau.”
17 Parhaodd Jehofa i ddweud wrth Moses: 18 “Gwna fasn copr ar gyfer ymolchi, yn ogystal â stand iddo; ac yna rho’r basn rhwng pabell y cyfarfod a’r allor a rho ddŵr ynddo. 19 Bydd Aaron a’i feibion yn golchi eu dwylo a’u traed yno. 20 Pan fyddan nhw’n mynd i mewn i babell y cyfarfod neu pan fyddan nhw’n mynd at yr allor er mwyn gwasanaethu ac i wneud offrymau o dân a mwg i Jehofa, byddan nhw’n ymolchi â dŵr fel na fyddan nhw’n marw. 21 Bydd rhaid iddyn nhw olchi eu dwylo a’u traed er mwyn iddyn nhw beidio â marw, a bydd yn rheol barhaol ar eu cyfer nhw, ar ei gyfer ef a’i ddisgynyddion, drwy eu holl genedlaethau.”
22 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 23 “Nesaf, cymera’r perlysiau gorau: 500 uned o fyrr solet, a hanner hynny o sinamon melys, 250 uned. Hefyd, 250 uned o galamus melys, 24 a 500 uned o gasia, wedi eu mesur yn ôl sicl y lle sanctaidd, ynghyd â hin* o olew olewydd. 25 Yna gwna olew eneinio sanctaidd allan o’r rhain; dylai gael ei gymysgu fel petai rhywun sy’n arbenigo yn y grefft wedi ei gymysgu. Bydd yn olew sanctaidd ar gyfer eneinio.
26 “Dylet ti eneinio pabell y cyfarfod ac arch y Dystiolaeth â’r olew, 27 yn ogystal â’r bwrdd a’i holl offer, y canhwyllbren a’i offer, allor yr arogldarth, 28 allor yr offrymau llosg a’i holl offer, a’r basn a’i stand. 29 Mae’n rhaid iti eu sancteiddio er mwyn iddyn nhw fod yn sanctaidd iawn. Dylai unrhyw un sydd yn eu cyffwrdd fod yn sanctaidd. 30 A byddi di’n eneinio Aaron a’i feibion ac yn eu sancteiddio nhw i wasanaethu fel offeiriaid imi.
31 “Byddi di’n siarad â’r Israeliaid, gan ddweud, ‘Bydd hyn yn olew eneinio sanctaidd imi drwy eich holl genedlaethau. 32 Ni ddylai gael ei roi ar gorff unrhyw ddyn, ac ni ddylech chi wneud unrhyw olew tebyg iddo. Mae’n rhywbeth sanctaidd. Dylai wastad fod yn rhywbeth sanctaidd ichi. 33 Bydd pwy bynnag sy’n gwneud olew persawrus tebyg iddo ac yn rhoi ychydig ohono ar rywun sydd ddim yn offeiriad* yn cael ei ladd.’”*
34 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Cymera rannau cyfartal o’r perlysiau hyn: diferion o stacte, onycha, galbanum persawrus, a thus pur. 35 Defnyddia’r rhain i wneud arogldarth. Dylai’r sbeisys gael eu cymysgu fel petai rhywun sy’n arbenigo yn y grefft wedi eu cymysgu, a dylai’r cymysgedd gael ei halltu, a dylai fod yn bur ac yn sanctaidd. 36 Dylet ti guro ychydig ohono yn bowdr mân a rhoi ychydig o’r powdr o flaen y Dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle bydda i’n fy nghyflwyno fy hun iti. Dylai fod yn sanctaidd iawn ichi. 37 Ni ddylech chi wneud arogldarth i chi’ch hunain sy’n debyg i’r arogldarth hwn gan ei fod yn rhywbeth sanctaidd i Jehofa. 38 Bydd pwy bynnag sy’n gwneud rhywbeth tebyg iddo er mwyn mwynhau’r arogl yn cael ei ladd.”*