Numeri
17 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Siarada â’r Israeliaid a chymera oddi wrthyn nhw un ffon ar gyfer pob llwyth, oddi wrth bennaeth pob llwyth, 12 ffon i gyd. Ysgrifenna enw pob un ar ei ffon. 3 Dylet ti ysgrifennu enw Aaron ar ffon Lefi, oherwydd mae ’na un ffon ar gyfer pennaeth pob llwyth. 4 Rho’r ffyn ym mhabell y cyfarfod o flaen y Dystiolaeth, lle rydw i’n ymddangos i ti yn rheolaidd. 5 A bydd ffon y dyn rydw i’n ei ddewis yn blaguro, a bydda i’n stopio’r Israeliaid rhag cwyno yn fy erbyn i ac yn dy erbyn dithau hefyd.”
6 Felly siaradodd Moses â’r Israeliaid, a rhoddodd y penaethiaid eu ffyn iddo—un ffon ar gyfer pennaeth pob llwyth, 12 ffon—ac roedd ffon Aaron ymysg y ffyn eraill. 7 Yna rhoddodd Moses y ffyn o flaen Jehofa ym mhabell y Dystiolaeth.
8 Y diwrnod wedyn, pan aeth Moses i mewn i babell y Dystiolaeth, edrycha! roedd ffon Aaron ar gyfer llwyth Lefi wedi blaguro, ac roedd ’na flagur, blodau, ac almonau aeddfed arni. 9 Yna daeth Moses â’r ffyn a oedd o flaen Jehofa allan at holl bobl Israel. Gwnaethon nhw edrych arnyn nhw, a chymerodd pob dyn ei ffon ei hun.
10 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Rho ffon Aaron yn ôl o flaen y Dystiolaeth fel rhywbeth i’w gadw fel arwydd i’r gwrthryfelwyr, er mwyn eu stopio nhw rhag cwyno yn fy erbyn i, ac er mwyn iddyn nhw beidio â marw.” 11 Gwnaeth Moses yn union beth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddo ar unwaith. Fe wnaeth yn union felly.
12 Yna dywedodd yr Israeliaid wrth Moses: “Nawr byddwn ni’n marw, rydyn ni’n siŵr o farw, rydyn ni i gyd yn mynd i farw! 13 Bydd unrhyw un sydd hyd yn oed yn dod yn agos at dabernacl Jehofa yn marw! A oes rhaid inni farw fel ’na?”