Numeri
26 Ar ôl y pla, dywedodd Jehofa wrth Moses ac Eleasar fab Aaron yr offeiriad: 2 “Gwnewch gyfrifiad o holl gynulleidfa’r Israeliaid, y rhai sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn, yn ôl eu grwpiau o deuluoedd, gan gyfri pawb sy’n gallu gwasanaethu ym myddin Israel.” 3 Felly siaradodd Moses ac Eleasar yr offeiriad â’r bobl yn anialwch Moab, wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho, gan ddweud: 4 “Gwnewch gyfrifiad o bawb sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn, yn union fel mae Jehofa wedi gorchymyn i Moses.”
Nawr y rhain oedd meibion Israel a adawodd wlad yr Aifft: 5 Reuben, mab cyntaf-anedig Israel; meibion Reuben oedd: o Hanoch, teulu’r Hanochiaid; o Palu, teulu’r Paluiaid; 6 o Hesron, teulu’r Hesroniaid; o Carmi, teulu’r Carmiaid. 7 Dyma oedd teuluoedd llwyth Reuben, a chafodd 43,730 o’u dynion eu cofrestru.
8 Mab Palu oedd Eliab. 9 Meibion Eliab oedd Nemuel, Dathan, ac Abiram. Dathan ac Abiram oedd cynrychiolwyr y gynulleidfa, a wnaeth ymuno â grŵp Cora i wrthryfela yn erbyn Moses ac Aaron, ac felly yn erbyn Jehofa hefyd.
10 Yna agorodd y ddaear a’u llyncu nhw. Bu farw Cora a’i gefnogwyr pan gafodd 250 o ddynion eu llosgi mewn tân. A daeth eu hesiampl yn rhybudd i eraill. 11 Ond ni chafodd meibion Cora eu lladd.
12 Meibion Simeon yn ôl eu teuluoedd oedd: o Nemuel, teulu’r Nemueliaid; o Jamin, teulu’r Jaminiaid; o Jachin, teulu’r Jachiniaid; 13 o Sera, teulu’r Serahiaid; o Saul, teulu’r Sauliaid. 14 Dyma oedd teuluoedd llwyth Simeon: 22,200.
15 Meibion Gad yn ôl eu teuluoedd oedd: o Seffon, teulu’r Seffoniaid; o Haggi, teulu’r Haggiaid; o Suni, teulu’r Suniaid; 16 o Osni, teulu’r Osniaid; o Eri, teulu’r Eriaid; 17 o Arod, teulu’r Arodiaid; o Areli, teulu’r Areliaid. 18 Dyma oedd teuluoedd meibion Gad, a chafodd 40,500 o’u dynion eu cofrestru.
19 Meibion Jwda oedd Er ac Onan. Ond, bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan. 20 A meibion Jwda yn ôl eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu’r Selaniaid; o Peres, teulu’r Peresiaid; o Sera, teulu’r Serahiaid. 21 A meibion Peres oedd: o Hesron, teulu’r Hesroniaid; o Hamul, teulu’r Hamuliaid. 22 Dyma oedd teuluoedd Jwda, a chafodd 76,500 o’u dynion eu cofrestru.
23 Meibion Issachar yn ôl eu teuluoedd oedd: o Tola, teulu’r Tolaiaid; o Pufa, teulu’r Puniaid; 24 o Jasub, teulu’r Jasubiaid; o Simron, teulu’r Simroniaid. 25 Dyma oedd teuluoedd Issachar, a chafodd 64,300 o’u dynion eu cofrestru.
26 Meibion Sabulon yn ôl eu teuluoedd oedd: o Sered, teulu’r Serediaid; o Elon, teulu’r Eloniaid; o Jahleel, teulu’r Jahleeliaid. 27 Dyma oedd teuluoedd Sabulon, a chafodd 60,500 o’u dynion eu cofrestru.
28 Meibion Joseff yn ôl eu teuluoedd oedd: Manasse ac Effraim. 29 Meibion Manasse oedd: o Machir, teulu’r Machiriaid; a daeth Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu’r Gileadiaid. 30 Dyma oedd meibion Gilead: o Ieser, teulu’r Ieseriaid; o Helec, teulu’r Heleciaid; 31 o Asriel, teulu’r Asrieliaid; o Sechem, teulu’r Sechemiaid; 32 o Semida, teulu’r Semidiaid; o Heffer, teulu’r Hefferiaid. 33 Nawr doedd gan Seloffehad fab Heffer ddim meibion, dim ond merched, ac enwau merched Seloffehad oedd Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa. 34 Dyma oedd teuluoedd Manasse, a chafodd 52,700 o’u dynion eu cofrestru.
35 Dyma oedd meibion Effraim yn ôl eu teuluoedd: o Suthela, teulu’r Sutheliaid; o Becher, teulu’r Becheriaid; o Tahan, teulu’r Tahaniaid. 36 A meibion Suthela oedd: o Eran, teulu’r Eraniaid. 37 Dyma oedd teuluoedd meibion Effraim, a chafodd 32,500 o’u dynion eu cofrestru. Y rhain oedd meibion Joseff yn ôl eu teuluoedd.
38 Meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd oedd: o Bela, teulu’r Belaiaid; o Asbel, teulu’r Asbeliaid; o Ahiram, teulu’r Ahiramiaid; 39 o Seffuffam, teulu’r Suffamiaid; o Huffam, teulu’r Huffamiaid. 40 Meibion Bela oedd Ard a Naaman; o Ard, teulu’r Ardiaid; o Naaman, teulu’r Naamaniaid. 41 Dyma oedd meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd, a chafodd 45,600 o’u dynion eu cofrestru.
42 Dyma oedd meibion Dan yn ôl eu teuluoedd: o Suham, teulu’r Suhamiaid. Y rhain oedd teuluoedd Dan yn ôl eu teuluoedd. 43 O holl deuluoedd y Suhamiaid, cafodd 64,400 eu cofrestru.
44 Meibion Aser yn ôl eu teuluoedd oedd: o Imna, teulu’r Imniaid; o Isfi, teulu’r Isfiaid; o Bereia, teulu’r Bereiaid; 45 o feibion Bereia: o Heber, teulu’r Heberiaid; o Malchiel, teulu’r Malchieliaid. 46 Enw merch Aser oedd Sera. 47 Dyma oedd teuluoedd meibion Aser, a chafodd 53,400 o’u dynion eu cofrestru.
48 Meibion Nafftali yn ôl eu teuluoedd oedd: o Jahseel, teulu’r Jahseeliaid; o Guni, teulu’r Guniaid; 49 o Jeser, teulu’r Jeseriaid; o Silem, teulu’r Silemiaid. 50 Dyma oedd teuluoedd Nafftali yn ôl eu teuluoedd, a chafodd 45,400 o’u dynion eu cofrestru.
51 Cafodd cyfanswm o 601,730 o Israeliaid eu cofrestru.
52 Ar ôl hynny, dywedodd Jehofa wrth Moses: 53 “Dylai’r wlad gael ei rhannu rhwng y rhain fel etifeddiaeth, yn ôl y rhestr o enwau.* 54 Dylet ti roi mwy o etifeddiaeth i’r grwpiau mawr, a llai i’r grwpiau bach. Dylet ti rannu’r etifeddiaeth yn ôl y nifer sydd wedi cael eu cofrestru ym mhob grŵp. 55 Ond dylet ti rannu’r tir drwy daflu coelbren. Dylen nhw dderbyn eu hetifeddiaeth yn ôl enwau llwythau eu tadau. 56 Bydd pob etifeddiaeth yn cael ei dewis drwy daflu coelbren, ac yn cael ei rhannu rhwng y grwpiau bach a mawr.”
57 Dyma’r rhai a gafodd eu cofrestru ymhlith y Lefiaid yn ôl eu teuluoedd: o Gerson, teulu’r Gersoniaid; o Cohath, teulu’r Cohathiaid; o Merari, teulu’r Merariaid. 58 Dyma oedd teuluoedd y Lefiaid: teulu’r Libniaid, teulu’r Hebroniaid, teulu’r Mahliaid, teulu’r Musiaid, a theulu’r Corahiaid.
Daeth Cohath yn dad i Amram. 59 Enw gwraig Amram oedd Jochebed, merch Lefi, a gafodd ei geni i Lefi yn yr Aifft. Ac i Amram gwnaeth Jochebed eni Aaron, Moses, a’u chwaer Miriam. 60 Yna cafodd Nadab, Abihu, Eleasar, ac Ithamar eu geni i Aaron. 61 Ond cafodd Nadab ac Abihu eu lladd am gyflwyno tân anghyfreithlon o flaen Jehofa.
62 Cafodd cyfanswm o 23,000 o bobl eu cofrestru, i gyd yn wrywod yn fis oed neu’n hŷn. Ni chawson nhw eu cofrestru ymhlith yr Israeliaid, oherwydd doedden nhw ddim am gael etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.
63 Dyma’r rhai a gafodd eu cofrestru gan Moses ac Eleasar yr offeiriad pan wnaethon nhw gofrestru’r Israeliaid yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho. 64 Ond yn eu plith, doedd ’na neb a gafodd ei gofrestru gan Moses ac Aaron yr offeiriad pan wnaethon nhw gyfrifiad o’r Israeliaid yn anialwch Sinai. 65 Oherwydd roedd Jehofa wedi dweud ynglŷn â nhw: “Byddan nhw’n bendant yn marw yn yr anialwch.” Felly doedd dim un o’r dynion hynny ar ôl heblaw am Caleb fab Jeffunne a Josua fab Nun.