Numeri
23 Yna dywedodd Balaam wrth Balac: “Adeilada saith allor yn fan hyn, a pharatoa saith tarw a saith hwrdd* imi.” 2 Ar unwaith, gwnaeth Balac yn union fel roedd Balaam wedi dweud, ac offrymodd Balac a Balaam darw a hwrdd* ar bob allor. 3 Yna dywedodd Balaam wrth Balac: “Arhosa yma gyda dy offrwm llosg, a gwna i fynd. Efallai bydd Jehofa yn dod i fy nghyfarfod i. Beth bynnag y bydd yn ei ddatgelu imi, gwna i roi gwybod iti.” Felly aeth i fyny bryn anial.
4 Yna, daeth Duw i’w gyfarfod a dywedodd Balaam wrtho: “Gwnes i osod y saith allor mewn rhesi, ac offrymu tarw a hwrdd* ar bob allor.” 5 Rhoddodd Jehofa ei eiriau yng ngheg Balaam, a dywedodd wrtho: “Dos yn ôl at Balac, a dyma beth dylet ti ei ddweud.” 6 Felly aeth yn ôl a gwelodd fod Balac a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ymyl ei offrwm llosg. 7 Yna dywedodd y neges farddonol hon:
“Daeth Balac brenin Moab â fi yma o Aram,
O fynyddoedd y dwyrain:
‘Tyrd i felltithio Jacob imi.
Ie, tyrd i gondemnio Israel.’
8 Ond sut gallwn i felltithio’r rhai nad ydy Duw wedi eu melltithio?
A sut gallwn i gondemnio’r rhai nad ydy Jehofa wedi eu condemnio?
9 O ben y creigiau rydw i’n eu gweld nhw,
Ac o ben y bryniau rydw i’n eu gweld nhw.
Pobl yn byw yno ar eu pennau eu hunain;
Maen nhw wedi eu gwahanu eu hunain oddi wrth y cenhedloedd.
10 Mae Jacob mor niferus â llwch—pwy all eu cyfri nhw?
Neu gyfri hyd yn oed chwarter pobl Israel?
Gad imi farw fel rhywun cyfiawn,
A gad i ddiwedd fy mywyd i fod fel eu diwedd nhw.”
11 Yna dywedodd Balac wrth Balaam: “Beth rwyt ti wedi ei wneud imi? Des i â ti yma i felltithio fy ngelynion, ond y cwbl rwyt ti wedi ei wneud ydy eu bendithio nhw!” 12 Atebodd: “Rydw i ond yn gallu dweud y geiriau mae Jehofa yn eu rhoi yn fy ngheg.”
13 Dywedodd Balac wrtho: “Plîs tyrd gyda mi i rywle arall lle byddi di’n gallu eu gweld nhw. Byddi di ond yn gweld rhai ohonyn nhw, nid pawb. Melltithia nhw imi o fan ’na.” 14 Felly dyma’n ei gymryd i gae Soffim, ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd darw a hwrdd* ar bob allor. 15 Felly dywedodd Balaam wrth Balac: “Arhosa yma wrth ymyl dy offrwm llosg tra fy mod i’n mynd i gyfarfod Duw draw fan ’na.” 16 A daeth Jehofa i gyfarfod Balaam a rhoddodd ei eiriau yn ei geg, yna dywedodd wrtho: “Dos yn ôl at Balac, a dyma beth dylet ti ei ddweud.” 17 Felly aeth ato a gweld ei fod yn aros wrth ymyl ei offrwm llosg, ac roedd tywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac: “Beth ddywedodd Jehofa?” 18 Yna dywedodd y neges farddonol hon:
“Cod, Balac, a thala sylw.
Gwranda arna i, O fab Sippor.
19 Nid dyn sy’n dweud celwydd ydy Duw,
Na dyn meidrol sy’n newid ei feddwl.*
Pan mae’n dweud rhywbeth, oni fydd yn gwneud hynny?
Pan mae’n addo rhywbeth, oni fydd yn ei gyflawni?
20 Edrycha! Rydw i yma i fendithio;
Nawr, mae Ef wedi bendithio, ac ni alla i ddad-wneud hynny.
21 Dydy Ef ddim yn goddef unrhyw rym hudolus yn erbyn Jacob,
Nac yn caniatáu unrhyw helynt yn erbyn Israel.
Mae Jehofa ei Dduw gyda nhw,
Maen nhw’n cyhoeddi’n uchel Ei fod yn frenin.
22 Mae Duw yn dod â nhw allan o’r Aifft.
Mae’n eu helpu nhw gyda’i nerth, sydd fel cyrn tarw gwyllt.
23 Oherwydd ni all unrhyw swyn wneud niwed i Jacob,
Nac unrhyw ddewiniaeth yn erbyn Israel.
Nawr gall pobl ddweud ynglŷn â Jacob ac Israel:
‘Edrychwch beth mae Duw wedi ei wneud!’
24 Dyma bobl a fydd yn sefyll fel llew,
Ac yn debyg i lew, bydd yn ei godi ei hun i fyny.
Ni fydd yn gorwedd i lawr nes iddo fwyta ysglyfaeth
Ac yfed gwaed yr anifeiliaid a laddodd.”
25 Yna dywedodd Balac wrth Balaam: “Os nad wyt ti’n gallu eu melltithio nhw, yna ddylet ti ddim eu bendithio nhw chwaith.” 26 Atebodd Balaam: “Oni ddywedais i, ‘Bydda i’n gwneud popeth mae Jehofa’n ei ddweud’?”
27 Dywedodd Balac wrth Balaam: “Plîs tyrd gyda mi i rywle arall. Efallai bydd hi’n dda yng ngolwg y gwir Dduw iti eu melltithio nhw i mi o fan ’na.” 28 Felly dyma Balac yn mynd â Balaam i ben Peor, sy’n edrych allan dros Jesimon.* 29 Yna dywedodd Balaam wrth Balac: “Adeilada saith allor yn fan hyn, a pharatoa saith tarw a saith hwrdd* imi.” 30 Felly gwnaeth Balac fel roedd Balaam wedi dweud, ac offrymodd darw a hwrdd* ar bob allor.