Numeri
24 Pan welodd Balaam fod bendithio Israel wedi plesio Jehofa, nid aeth ef allan eto i chwilio am swynion niweidiol, ond trodd ei wyneb tuag at yr anialwch. 2 Pan gododd Balaam ei lygaid a gweld Israel wedi gwersylla yn ôl eu llwythau, daeth ysbryd Duw arno. 3 Yna dywedodd y neges farddonol hon:
“Neges Balaam fab Beor,
Neges y dyn sydd bellach â llygaid agored,
4 Neges yr un sy’n clywed gair Duw,
Yr un a gafodd weledigaeth o’r Hollalluog,
Ac sydd wedi ymgrymu i lawr â’i lygaid wedi eu hagor:
5 Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob,
Dy wersylloedd,* O Israel!
6 Maen nhw wedi ymestyn yn bell fel y dyffrynnoedd,*
Fel gerddi wrth ymyl yr afon,
Fel aloewydd wedi eu plannu gan Jehofa,
Fel coed cedrwydd wrth ymyl y dyfroedd.
7 Mae dŵr yn diferu o’i ddau fwced lledr,
Ac mae ei had* wedi ei hau wrth lawer o ddyfroedd.
Bydd ei frenin hefyd yn fwy nag Agag,
A bydd ei deyrnas yn cael ei dyrchafu.
8 Mae Duw yn dod ag ef allan o’r Aifft,
Mae’n eu helpu nhw â’i nerth sydd fel cyrn tarw gwyllt.
Bydd Israel* yn llyncu’r cenhedloedd, ei wrthwynebwyr,
A bydd yn cnoi eu hesgyrn, ac yn eu dryllio â’i saethau.
9 Mae wedi plygu i lawr, mae wedi gorwedd i lawr fel llew,
Ac fel llew, pwy sy’n meiddio tarfu arno?
Bendith ar y rhai sy’n dy fendithio,
A melltith ar y rhai sy’n dy felltithio.”
10 Yna gwylltiodd Balac yn lân â Balaam, a chlapiodd ei ddwylo yn ddirmygus. Dywedodd wrth Balaam: “Gwnes i dy alw di er mwyn melltithio fy ngelynion, ond nawr yr unig beth rwyt ti wedi ei wneud ydy eu bendithio nhw dair gwaith. 11 Nawr dos adref ar unwaith. Roeddwn i’n bwriadu dy fendithio’n fawr, ond edrycha! mae Jehofa wedi fy rhwystro i rhag gwneud hynny.”
12 Atebodd Balaam: “Oni ddywedais i wrth dy negeswyr, 13 ‘Petai Balac yn rhoi ei dŷ yn llawn arian ac aur imi, allwn i ddim gwneud unrhyw beth ar fy liwt fy hun, yn dda neu’n ddrwg, sy’n mynd yn groes i orchymyn Jehofa. Bydda i ond yn dweud beth bydd Jehofa yn ei ddweud wrtho i’? 14 Nawr rydw i’n mynd i ffwrdd at fy mhobl. Gad imi ddweud wrthot ti beth bydd y bobl hyn yn ei wneud i dy bobl di yn y dyfodol.” 15 Felly dywedodd y neges farddonol hon:
“Neges Balaam fab Beor,
Neges y dyn sydd bellach â llygaid agored,
16 Neges yr un sy’n clywed gair Duw,
A’r un sydd â gwybodaeth am y Goruchaf,
A gafodd weledigaeth o’r Hollalluog,
Wrth ymgrymu â’i lygaid wedi eu hagor:
17 Bydda i’n ei weld, ond nid nawr;
Bydda i’n edrych arno, ond nid yn fuan.
Bydd seren yn dod allan o Jacob,
A bydd gwialen* yn codi allan o Israel.
Bydd ef yn bendant yn malu talcen Moab yn ddarnau,
A phenglogau’r holl filwyr treisgar.
18 Bydd Israel yn meddiannu Edom,
A bydd Seir yn cael ei chymryd gan ei gelynion,*
Tra bod Israel yn dangos ei ddewrder.
19 Bydd un o blith Jacob yn trechu ei elynion,
Bydd ef yn dinistrio unrhyw un o’r ddinas sy’n goroesi.”
20 Pan welodd Amalec, daliodd ati i adrodd ei neges farddonol:
“Amalec oedd y cyntaf o’r cenhedloedd,
Ond yn y pen draw bydd yn cael ei ddinistrio.”
21 Pan welodd y Ceneaid, daliodd ati i adrodd ei neges farddonol:
“Mae dy gartref yn sefydlog, wedi ei osod ar y graig.
22 Ond bydd rhywun yn llosgi Cain i lawr,
Pa mor hir nes bydd Asyria yn dy gaethgludo?”
23 Daliodd ati â’i neges farddonol:
“O na! Pwy fydd yn goroesi pan fydd Duw yn gwneud hyn?
24 Bydd llongau yn dod o arfordir Cittim,
I ymosod ar Asyria,
Ac i ymosod ar Eber.
Ond bydd ef hefyd yn cael ei ddinistrio’n llwyr.”
25 Yna cododd Balaam a mynd ar ei ffordd, a dyma Balac yn gadael hefyd.