Cyntaf Samuel
27 Ond dywedodd Dafydd yn ei galon: “Un diwrnod bydd Saul yn sicr o fy lladd i. Y peth gorau imi ei wneud fyddai dianc i wlad y Philistiaid; yna bydd Saul yn rhoi’r gorau i edrych amdana i yn holl diriogaeth Israel, a bydda i’n dianc o’i law.” 2 Felly cododd Dafydd gyda’r 600 o ddynion oedd gydag ef a mynd drosodd at Achis fab Maoch, brenin Gath. 3 Arhosodd Dafydd gydag Achis yn Gath, ef a’i ddynion, pob dyn gyda’i deulu. Roedd Dafydd gyda’i ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail o Garmel, gweddw Nabal. 4 Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd i Gath, stopiodd chwilio amdano.
5 Yna dywedodd Dafydd wrth Achis: “Os yw’n dderbyniol iti, plîs rho rywle imi fyw yn un o’r dinasoedd yng nghefn gwlad. Pam dylai dy was fyw yn y ddinas frenhinol gyda ti?” 6 Felly ar y diwrnod hwnnw rhoddodd Achis Siclag iddo. Dyna pam mae Siclag yn perthyn i frenhinoedd Jwda hyd heddiw.
7 Arhosodd Dafydd yng ngwlad y Philistiaid am flwyddyn a phedwar mis. 8 Aeth Dafydd a’i ddynion lawer o weithiau i ymosod ar y Gesuriaid, y Gersiaid, a’r Amaleciaid, oherwydd roedden nhw’n byw ar y tir a oedd yn ymestyn o Telam mor bell â Sur ac i lawr at wlad yr Aifft. 9 Byddai Dafydd yn ymosod ar y tiriogaethau hynny heb adael i’r un dyn na dynes* fyw, ond cymerodd eu defaid, eu gwartheg, eu hasynnod, eu camelod, a’u dillad. Wedyn byddai’n mynd yn ôl at Achis. 10 Yna byddai Achis yn gofyn: “Ble gwnaethoch chi ymosod arno heddiw?” Byddai Dafydd yn ateb: “Ar ran ddeheuol Jwda”* neu “Ar ran ddeheuol gwlad y Jerahmeeliaid” neu “Ar ran ddeheuol gwlad y Ceneaid.” 11 Wnaeth Dafydd ddim gadael i’r un dyn na dynes* fyw, fel na fydden nhw’n cael eu cymryd i Gath ac yn adrodd yr hanes yno gan ddweud: “Dyma a wnaeth Dafydd.” (Roedd yn gwneud hyn yr holl amser roedd yn byw yng nghefn gwlad y Philistiaid.) 12 Felly roedd Achis yn credu Dafydd, gan ddweud wrtho’i hun: ‘Yn sicr mae ef wedi dod yn ddrewdod ymysg pobl Israel.’