LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 35
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Joseia yn trefnu Pasg arbennig (1-19)

      • Pharo Necho yn lladd Joseia (20-27)

2 Cronicl 35:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “14eg diwrnod.”

2 Cronicl 35:13

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “Gwnaethon nhw rostio.”

2 Cronicl 35:19

Troednodiadau

  • *

    Neu “18fed.”

2 Cronicl 35:20

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “tŷ.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    3/2017, tt. 26-27

2 Cronicl 35:22

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    3/2017, tt. 26-27

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 35:1-27

Ail Cronicl

35 Dyma Joseia yn cynnal Pasg i Jehofa yn Jerwsalem, a gwnaethon nhw ladd aberth y Pasg ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis cyntaf. 2 Aseiniodd gyfrifoldebau i’r offeiriaid a’u hannog nhw i wneud eu gwasanaeth yn nhŷ Jehofa. 3 Yna dywedodd wrth y Lefiaid, y rhai sy’n dysgu Israel gyfan ac sy’n sanctaidd i Jehofa: “Rhowch yr Arch sanctaidd yn y tŷ y gwnaeth Solomon fab Dafydd brenin Israel ei adeiladu; ddylech chi ddim ei chario ar eich ysgwyddau bellach. Nawr gwasanaethwch Jehofa eich Duw a’i bobl Israel. 4 A pharatowch eich hunain fesul teulu estynedig yn ôl eich grwpiau, gan ddilyn beth gafodd ei ysgrifennu gan Dafydd brenin Israel a’i fab Solomon. 5 Safwch yn y lle sanctaidd yn ôl eich teuluoedd estynedig, fel bod ’na grŵp o Lefiaid ar gyfer pob un o deuluoedd y bobl. 6 Lladdwch aberth y Pasg a sancteiddiwch eich hunain, a pharatoi pethau ar gyfer eich brodyr fel eu bod nhw’n gallu dilyn gair Jehofa drwy Moses.”

7 Rhoddodd Joseia breiddiau i’r bobl, ŵyn gwryw a bychod geifr ifanc, cyfanswm o 30,000, yn ogystal â 3,000 o wartheg, er mwyn i bawb oedd yn bresennol allu eu defnyddio ar gyfer aberthau’r Pasg. Daeth y rhain o eiddo’r brenin ei hun. 8 Gwnaeth ei dywysogion hefyd wneud cyfraniad gwirfoddol er mwyn i’r bobl, yr offeiriaid, a’r Lefiaid allu gwneud aberthau. Rhoddodd Hilceia, Sechareia, a Jehiel, arweinwyr tŷ’r gwir Dduw, 2,600 o aberthau’r Pasg a 300 o wartheg i’r offeiriaid. 9 Dyma Conaneia a’i frodyr Semaia a Nethanel, yn ogystal â Hasabeia, Jeiel, a Josabad, penaethiaid y Lefiaid, yn cyfrannu 5,000 o aberthau’r Pasg a 500 o wartheg i’r Lefiaid.

10 Pan oedd popeth wedi ei baratoi, safodd yr offeiriaid yn eu llefydd a’r Lefiaid yn eu grwpiau, fel roedd y brenin wedi gorchymyn. 11 Lladdon nhw’r aberthau Pasg, a gwnaeth yr offeiriaid daenellu’r gwaed ar yr allor, tra bod y Lefiaid yn tynnu croen yr anifeiliaid. 12 Nesaf, gwnaethon nhw baratoi’r offrymau llosg er mwyn eu dosbarthu nhw i weddill y bobl, a oedd wedi eu grwpio yn ôl eu teuluoedd estynedig, fel bod yr aberthau yn gallu cael eu cyflwyno i Jehofa fel sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr Moses, a dyma nhw’n gwneud yr un peth gyda’r gwartheg. 13 Gwnaethon nhw goginio* offrwm y Pasg dros y tân yn ôl yr arfer, a choginio’r offrymau sanctaidd mewn crochanau bach a mawr a phadelli, ac yna rhoddon nhw’r cig yn gyflym i weddill y bobl. 14 Wedyn dyma nhw’n paratoi bwyd y Pasg ar eu cyfer eu hunain ac ar gyfer yr offeiriaid, oherwydd roedd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn offrymu’r aberthau llosg a’r darnau o fraster nes iddi nosi. Felly, gwnaeth y Lefiaid baratoi ar eu cyfer eu hunain, ac ar gyfer yr offeiriaid, disgynyddion Aaron.

15 Ac roedd y cantorion, meibion Asaff, yn eu llefydd yn ôl gorchymyn Dafydd, Asaff, Heman, a Jeduthun gweledydd y brenin; ac roedd y porthorion wrth y pyrth gwahanol. Doedd dim rhaid iddyn nhw adael eu gwasanaeth, oherwydd roedd eu brodyr y Lefiaid wedi paratoi bwyd y Pasg ar eu cyfer nhw. 16 Ar y diwrnod hwnnw, roedden nhw wedi paratoi popeth roedd Jehofa yn ei ofyn ganddyn nhw er mwyn cynnal y Pasg, ac er mwyn cyflwyno’r offrymau llosg ar allor Jehofa, yn ôl gorchymyn y Brenin Joseia.

17 Gwnaeth yr Israeliaid a oedd yn bresennol gynnal y Pasg ar yr adeg honno, yn ogystal â Gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod. 18 Doedd dim Pasg tebyg iddo wedi cael ei gynnal yn Israel ers dyddiau’r proffwyd Samuel, a doedd yr un o frenhinoedd eraill Israel chwaith wedi cynnal Pasg tebyg i’r un a gafodd ei gynnal gan Joseia, yr offeiriaid, y Lefiaid, pawb o Jwda ac Israel a oedd yn bresennol, a phobl Jerwsalem. 19 Cafodd y Pasg hwn ei gynnal yn y ddeunawfed* flwyddyn o deyrnasiad Joseia.

20 Ar ôl hyn i gyd, pan oedd Joseia wedi paratoi’r deml,* daeth Necho brenin yr Aifft i fyny i frwydro yn Carchemis wrth afon Ewffrates. Yna aeth Joseia allan yn ei erbyn. 21 Felly anfonodd Necho negeswyr ato, gan ddweud: “Beth sydd gan hyn i’w wneud â ti, o frenin Jwda? Dydw i ddim yn dod yn dy erbyn di heddiw, ond rydw i wedi dod i frwydro yn erbyn teyrnas arall, ac mae Duw yn dweud y dylwn i frysio. Er dy les dy hun, paid â gwrthwynebu Duw, sydd gyda mi, neu bydd ef yn dy ddinistrio di.” 22 Ond yn hytrach na throi oddi wrtho, cuddiodd Joseia pwy oedd ef er mwyn brwydro yn ei erbyn, a gwrthododd wrando ar eiriau Necho, a oedd wedi dod oddi wrth Dduw. Felly aeth i frwydro ar Wastatir Megido.

23 A chafodd y Brenin Joseia ei saethu gan fwasaethwyr, a dywedodd y brenin wrth ei weision: “Ewch â fi o ’ma, oherwydd rydw i wedi cael fy anafu’n ddifrifol.” 24 Felly, gwnaeth ei weision ei gymryd allan o’r cerbyd a’i roi yn ei ail gerbyd rhyfel, a mynd ag ef i Jerwsalem. Felly bu farw a chafodd ei gladdu ym medd ei gyndadau, a gwnaeth Jwda a Jerwsalem i gyd alaru dros Joseia. 25 A chanodd Jeremeia ganeuon o alar dros Joseia, ac mae pob canwr a chantores yn dal i ganu am Joseia yn eu caneuon o alar hyd heddiw; cafodd penderfyniad ei wneud y dylen nhw gael eu canu’n rheolaidd yn Israel, ac maen nhw wedi eu hysgrifennu ymysg y caneuon galar.

26 Ynglŷn â gweddill hanes Joseia a’i weithredoedd o gariad ffyddlon, yn unol â beth sydd wedi ei ysgrifennu yng Nghyfraith Jehofa, 27 a phopeth a wnaeth o’r dechrau i’r diwedd, mae’r cwbl wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Brenhinoedd Israel a Jwda.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu