LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Timotheus 6
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Timotheus

      • Caethweision i anrhydeddu eu meistri (1, 2)

      • Gau athrawon a chariad at arian (3-10)

      • Cyfarwyddiadau i weision Duw (11-16)

      • Bod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da (17-19)

      • Gwarchod beth sydd yn dy ofal di (20, 21)

1 Timotheus 6:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “cwffio; ymladd.”

1 Timotheus 6:6

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 37

1 Timotheus 6:7

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 37

1 Timotheus 6:8

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “a chysgod.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2022, tt. 4-5

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 37

1 Timotheus 6:9

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2019, tt. 17-18

1 Timotheus 6:10

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 166

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 37

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2019, tt. 17-18

1 Timotheus 6:17

Troednodiadau

  • *

    Neu “yr oes bresennol.” Gweler Geirfa.

1 Timotheus 6:18

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2021, t. 30

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 37

1 Timotheus 6:19

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Dysgu o’r Beibl, tt. 203-204

    Beibl Ddysgu, tt. 192-193

1 Timotheus 6:20

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2020, tt. 26-30

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Timotheus 6:1-21

Y Cyntaf at Timotheus

6 Dylai’r rhai sy’n gaethweision barhau i ystyried eu meistri yn deilwng o anrhydedd llawn, fel nad oes neb yn gallu lladd ar enw Duw na’i ddysgeidiaeth. 2 Ar ben hynny, dylai’r rhai sydd â meistri Cristnogol beidio â bod yn amharchus tuag atyn nhw oherwydd eu bod nhw’n frodyr. Yn hytrach, dylen nhw fod yn fwy awyddus i wasanaethu, oherwydd bod y rhai sy’n elwa ar eu gwasanaeth da yn gredinwyr ac yn annwyl.

Dal ati i ddysgu’r pethau hyn i eraill ac i roi’r anogaeth hwn. 3 Os oes unrhyw ddyn yn dysgu athrawiaeth wahanol, ac nid yw’n cytuno â’r cyfarwyddyd buddiol sydd wedi dod oddi wrth ein Harglwydd Iesu Grist, nac yn cytuno â’r ddysgeidiaeth sy’n unol â defosiwn duwiol, 4 mae’n llawn balchder ac nid yw’n deall unrhyw beth. Mae ganddo obsesiwn afiach â chweryla a dadlau dros eiriau. Mae’r pethau hyn yn arwain i genfigen, codi twrw,* siarad cas, amheuon drwg am bobl eraill, 5 ffraeo di-baid am bethau bach gan ddynion sydd â meddwl llwgr ac sydd ddim yn deall y gwir bellach, gan feddwl bod defosiwn duwiol yn ffordd o gael mantais bersonol. 6 Yn wir, mae ’na fantais fawr yn dod gyda defosiwn duwiol ynghyd â bodlonrwydd. 7 Oherwydd dydyn ni ddim wedi dod ag unrhyw beth i mewn i’r byd, a dydyn ni ddim yn gallu mynd ag unrhyw beth allan ohono chwaith. 8 Felly, gan fod gynnon ni fwyd a dillad,* byddwn ni’n fodlon ar y pethau hyn.

9 Ond mae’r rhai sy’n benderfynol o fod yn gyfoethog yn disgyn i mewn i demtasiwn a magl a llawer o chwantau disynnwyr a niweidiol sy’n bwrw dynion i mewn i ddinistr llwyr. 10 Oherwydd mae cariad at arian wrth wraidd pob math o bethau niweidiol, a thrwy estyn allan at y cariad hwn mae rhai wedi cael eu harwain i ffwrdd oddi wrth y ffydd ac wedi eu trywanu eu hunain dros eu cyrff i gyd â llawer o boenau.

11 Fodd bynnag, dylet tithau, sy’n was i Dduw, ffoi rhag y pethau hyn. Ond ceisia gyfiawnder, defosiwn duwiol, ffydd, cariad, dyfalbarhad, ac addfwynder. 12 Brwydra ym mrwydr dda y ffydd; gafaela yn dynn yn y bywyd tragwyddol. Mae Duw wedi dy alw di i dderbyn y bywyd hwn, ac fe wnest ti siarad yn gyhoeddus am y bywyd hwn o flaen llawer o dystion.

13 O flaen Duw, sy’n cadw pob peth yn fyw, ac o flaen Crist Iesu, a roddodd dystiolaeth dda yn gyhoeddus o flaen Pontius Peilat, rydw i’n dy orchymyn di 14 i gadw’r gorchymyn mewn ffordd ddi-nam heb fai ar dy gymeriad hyd nes i’n Harglwydd Iesu Grist ymddangos. 15 Ar yr amser penodedig, bydd y Pennaeth hapus yn ei amlygu ei hun. Mae ef yn Frenin ar y rhai sy’n rheoli fel brenhinoedd ac yn Arglwydd ar y rhai sy’n rheoli fel arglwyddi, 16 yr unig un anfarwol, sy’n byw mewn goleuni na all neb fynd yn agos ato, un nad oes neb wedi ei weld nac yn gallu ei weld. Mae’r anrhydedd a’r nerth tragwyddol yn perthyn iddo ef. Amen.

17 Gorchymyn y rhai sy’n gyfoethog yn y system bresennol* i beidio â bod yn hunanbwysig, ac i roi eu gobaith, nid mewn cyfoeth ansicr, ond yn Nuw, sy’n darparu’n hael yr holl bethau rydyn ni’n eu mwynhau. 18 Dyweda wrthyn nhw am wneud daioni, am fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, am fod yn hael, yn barod i rannu, 19 gan osod sylfaen dda a diogel iddyn nhw eu hunain fel trysor ar gyfer y dyfodol, fel eu bod nhw’n gallu gafael yn dynn yn y bywyd go iawn.

20 Timotheus, gwarchoda’r hyn sydd wedi cael ei roi yn dy ofal di, gan droi i ffwrdd oddi wrth siarad gwag sy’n diystyru beth sy’n sanctaidd ac oddi wrth yr hyn sy’n cael ei alw ar gam yn “wybodaeth,” gwybodaeth sy’n gwrth-ddweud yr hyn sy’n wir. 21 Drwy wneud sioe fawr o’r fath wybodaeth, mae rhai wedi crwydro oddi wrth y ffydd.

Rydw i’n dymuno i’r caredigrwydd rhyfeddol fod gyda ti.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu