Actau’r Apostolion
22 “Ddynion, frodyr a thadau, gwrandewch ar fy amddiffyniad nawr.” 2 Wel, pan glywson nhw ei fod yn eu hannerch nhw yn yr iaith Hebraeg, roedden nhw’n fwy distaw byth, a dywedodd ef: 3 “Iddew ydw i, wedi fy ngeni yn Tarsus yn Cilicia, ond wedi fy addysgu yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, wedi fy hyfforddi i gadw Cyfraith ein hynafiaid yn fanwl gywir, ac yn selog dros Dduw fel rydych chithau i gyd heddiw. 4 Fe wnes i erlid y rhai a oedd yn dilyn y Ffordd hon gan achosi eu marwolaeth, yn rhwymo ac yn rhoi yn y carchar ddynion a merched* hefyd, 5 ac mae’r archoffeiriad a holl gyngor yr henuriaid yn gallu tystiolaethu i hyn. Oddi wrthyn nhw y gwnes i dderbyn llythyrau at y brodyr yn Namascus, ac roeddwn i ar fy ffordd i arestio’r rhai a oedd yno a dod â nhw i Jerwsalem mewn cadwyni er mwyn iddyn nhw gael eu cosbi.
6 “Ond tra oeddwn i’n teithio ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn, tua chanol dydd, fflachiodd goleuni mawr o’r nef o fy nghwmpas i, 7 a syrthiais i’r llawr a chlywais lais yn dweud wrtho i: ‘Saul, Saul, pam rwyt ti’n fy erlid i?’ 8 Atebais i: ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd ef wrtho i: ‘Iesu’r Nasaread ydw i, yr un rwyt ti’n ei erlid.’ 9 Nawr fe wnaeth y dynion a oedd gyda mi weld y goleuni, ond ni wnaethon nhw glywed llais yr un oedd yn siarad â mi. 10 Ar hynny dywedais i: ‘Beth ddylwn i ei wneud, Arglwydd?’ Dywedodd yr Arglwydd wrtho i: ‘Cod, dos i mewn i Ddamascus, ac yno bydd rhywun yn dweud wrthot ti am bopeth sydd wedi cael ei benodi iti ei wneud.’ 11 Ond gan nad oeddwn i’n gweld dim byd oherwydd gogoniant y goleuni hwnnw, cyrhaeddais Ddamascus yn cael fy arwain wrth law’r rhai a oedd gyda mi.
12 “Yna gwnaeth dyn o’r enw Ananias, dyn a oedd yn parchu Duw yn ôl y Gyfraith, dyn roedd yr holl Iddewon a oedd yn byw yno yn dweud pethau da amdano, 13 ddod ata i. Safodd wrth fy ymyl a dywedodd wrtho i: ‘Saul, fy mrawd, derbyn dy olwg yn ôl!’ A’r union foment honno edrychais i fyny a’i weld. 14 Dywedodd ef: ‘Mae Duw ein cyndadau wedi dy ddewis di i ddod i wybod ei ewyllys ac i weld yr un cyfiawn ac i glywed llais ei geg, 15 oherwydd rwyt ti am dystiolaethu i bob dyn amdano ac am y pethau rwyt ti wedi eu gweld a’u clywed. 16 Ac nawr, pam rwyt ti’n oedi? Cod, a chael dy fedyddio, a golcha dy bechodau i ffwrdd drwy alw ar ei enw.’
17 “Ond ar ôl imi fynd yn ôl i Jerwsalem, wrth imi weddïo yn y deml, fe ges i weledigaeth 18 ohono ef yn dweud wrtho i: ‘Brysia a dos allan o Jerwsalem yn gyflym, oherwydd fyddan nhw ddim yn derbyn dy dystiolaeth amdana i.’ 19 A dywedais innau: ‘Arglwydd, maen nhw’n gwybod yn iawn fy mod i wedi carcharu a chwipio’r rhai sy’n credu ynot ti mewn un synagog ar ôl y llall; 20 a thra oedd gwaed dy dyst Steffan yn cael ei dywallt,* roeddwn i’n sefyll yno yn cymeradwyo ac yn gwarchod cotiau’r rhai a oedd yn ei ladd.’ 21 Ond eto dywedodd ef wrtho i: ‘Dos, oherwydd bydda i’n dy anfon di allan i genhedloedd sy’n bell i ffwrdd.’”
22 Nawr roedden nhw’n parhau i wrando arno nes iddo ddweud y geiriau hynny. Yna dyma nhw’n gweiddi, gan ddweud: “Lladdwch ef, dydy ef ddim yn haeddu byw!” 23 Oherwydd eu bod nhw’n gweiddi, yn taflu eu cotiau o gwmpas, ac yn lluchio llwch i’r awyr, 24 dyma gadlywydd y fyddin yn gorchymyn i Paul gael ei gymryd i mewn i lety’r milwyr a dweud y dylai ef gael ei gwestiynu wrth iddo gael ei chwipio, er mwyn iddo allu dysgu yn union pam roedd y bobl yn gweiddi yn erbyn Paul fel hyn. 25 Ond pan oedden nhw wedi ei rwymo yn barod i’w chwipio, dywedodd Paul wrth y swyddog o’r fyddin a oedd yn sefyll yno: “Ydy hi’n gyfreithlon ichi chwipio Rhufeiniwr* sydd heb gael ei gondemnio?”* 26 Wel, pan glywodd y swyddog o’r fyddin hyn, aeth at gadlywydd y fyddin ac adrodd y peth, gan ddweud: “Beth rwyt ti’n bwriadu ei wneud? Oherwydd mae’r dyn hwn yn Rhufeiniwr.” 27 Felly aeth cadlywydd y fyddin ato a dweud wrtho: “Dyweda wrtho i, wyt ti’n Rhufeiniwr?” Dywedodd ef: “Ydw.” 28 Atebodd cadlywydd y fyddin: “Gwnes i dalu swm mawr o arian i gael yr hawl i fod yn Rhufeiniwr.” Dywedodd Paul: “Ond ces i fy ngeni’n Rhufeiniwr.”
29 Felly, ar unwaith, dyma’r dynion a oedd ar fin ei gwestiynu a’i arteithio yn cilio yn ôl oddi wrtho; a daeth ofn ar gadlywydd y fyddin wrth iddo sylweddoli bod Paul yn Rhufeiniwr a’i fod wedi ei rwymo mewn cadwyni.
30 Felly y diwrnod wedyn, oherwydd ei fod eisiau gwybod yn bendant pam roedd Paul yn cael ei gyhuddo gan yr Iddewon, dyma’n ei ryddhau ac yn gorchymyn i’r prif offeiriaid a’r holl Sanhedrin ddod at ei gilydd. Yna daeth â Paul i lawr a’i osod i sefyll yn eu plith.