Actau’r Apostolion
23 Gan edrych yn graff ar y Sanhedrin, dywedodd Paul: “Ddynion, frodyr, rydw i wedi ymddwyn o flaen Duw â chydwybod berffaith lân hyd y dydd hwn.” 2 Gyda hynny, gorchmynnodd yr archoffeiriad Ananias i’r rhai a oedd yn sefyll wrth ei ymyl ei daro ar y geg. 3 Yna dywedodd Paul wrtho: “Mae Duw yn mynd i dy daro di, ti, y wal gwyngalchog.* Wyt ti’n eistedd i fy marnu yn ôl y Gyfraith ac ar yr un pryd yn torri’r Gyfraith drwy orchymyn imi gael fy nharo?” 4 Dywedodd y rhai oedd yn sefyll yno: “Wyt ti’n sarhau archoffeiriad Duw?” 5 A dywedodd Paul: “Frodyr, doeddwn i ddim yn gwybod mai’r archoffeiriad oedd ef. Oherwydd mae’n ysgrifenedig, ‘Paid â dweud pethau cas am reolwr dy bobl.’”
6 Nawr roedd Paul yn gwybod mai Sadwceaid oedd un rhan o’r Sanhedrin a Phariseaid oedd y rhan arall, a gwaeddodd yn uchel yn y Sanhedrin: “Ddynion, frodyr, Pharisead ydw i, mab i Pharisead. Ynglŷn â’r gobaith am atgyfodiad y meirw rydw i’n cael fy marnu.” 7 Oherwydd ei fod wedi dweud hyn, cododd dadl rhwng y Phariseaid a’r Sadwceaid, ac roedd y grŵp wedi ei rannu. 8 Oherwydd mae’r Sadwceaid yn dweud nad oes ’na atgyfodiad nac angel nac ysbryd, ond mae’r Phariseaid yn eu derbyn nhw i gyd. 9 Felly cododd stŵr aruthrol, a dyma rai o ysgrifenyddion plaid y Phariseaid yn codi a dechrau dadlau’n ffyrnig, gan ddweud: “Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw beth drwg yn y dyn hwn, ond os gwnaeth ysbryd neu angel siarad ag ef—.” 10 Nawr pan drodd y ddadl yn hynod o danllyd, roedd cadlywydd y fyddin yn ofni y byddai Paul yn cael ei rwygo’n ddarnau ganddyn nhw, a gorchmynnodd ef i’r milwyr fynd i lawr a’i gipio o’u plith a dod ag ef i mewn i lety’r milwyr.
11 Ond y noson wedyn, safodd yr Arglwydd wrth ei ochr a dweud: “Bydda’n ddewr! Oherwydd yn union fel rwyt ti wedi tystiolaethu’n drylwyr amdana i yn Jerwsalem, bydd yn rhaid iti hefyd dystiolaethu yn Rhufain.”
12 Pan oedd hi wedi troi’n ddydd, cynllwyniodd yr Iddewon yn erbyn Paul a’u gosod eu hunain dan felltith,* gan ddweud na fydden nhw’n bwyta nac yn yfed nes iddyn nhw ladd Paul. 13 Roedd ’na dros 40 o ddynion a oedd wedi ffurfio’r cynllwyn hwn dan lw. 14 Aeth y dynion hyn at y prif offeiriaid a’r henuriaid a dweud: “Rydyn ni wedi ein gosod ein hunain dan felltith* i beidio â bwyta unrhyw beth o gwbl nes inni ladd Paul. 15 Felly dylech chi, ynghyd â’r Sanhedrin, roi gwybod i gadlywydd y fyddin y dylai ddod ag ef i lawr atoch chi fel petasech chi eisiau edrych yn fwy manwl ar ei achos. Ond cyn iddo agosáu, byddwn ni’n barod i’w ladd.”
16 Fodd bynnag, clywodd mab i chwaer Paul am y cynllwyn, ac aeth i mewn i lety’r milwyr a dweud wrth Paul am y peth. 17 Yna galwodd Paul un o swyddogion y fyddin ato a dweud: “Dos â’r dyn ifanc hwn at gadlywydd y fyddin, oherwydd bod ganddo rywbeth i’w ddweud wrtho.” 18 Felly dyma’n ei gymryd a’i arwain at gadlywydd y fyddin a dweud: “Gwnaeth y carcharor Paul fy ngalw ato a gofyn imi ddod â’r dyn ifanc hwn atat ti oherwydd bod ganddo rywbeth i’w ddweud wrthot ti.” 19 Cymerodd cadlywydd y fyddin afael yn ei law a mynd ag ef o’r neilltu a gofyn iddo: “Beth sydd gen ti i’w ddweud wrtho i?” 20 Dywedodd yntau: “Mae’r Iddewon wedi cytuno i ofyn iti fynd â Paul i lawr i’r Sanhedrin yfory, fel petasen nhw eisiau dysgu mwy o fanylion am ei achos. 21 Ond paid â gadael iddyn nhw dy berswadio di, oherwydd mae ’na fwy na 40 o’u dynion yn aros i ymosod arno, ac maen nhw wedi eu gosod eu hunain dan felltith* i beidio â bwyta nac yfed nes iddyn nhw ei ladd; ac maen nhw nawr yn barod, yn disgwyl am ganiatâd gen ti.” 22 Felly caniataodd cadlywydd y fyddin i’r dyn ifanc fynd, ar ôl gorchymyn iddo: “Paid â dweud wrth neb dy fod ti wedi rhoi gwybod imi am hyn.”
23 A galwodd ef ddau o swyddogion y fyddin ato a dweud: “Paratowch 200 o filwyr i fynd i Cesarea, hefyd 70 o farchogion a 200 o bicellwyr, ar y drydedd awr o’r nos.* 24 Hefyd, gwnewch yn siŵr fod gan Paul geffylau i’w reidio, i fynd ag ef yn saff at Ffelics y llywodraethwr.” 25 Ac ysgrifennodd lythyr yn cynnwys y geiriau hyn:
26 “Clawdius Lysias at yr Ardderchocaf Lywodraethwr Ffelics: Cyfarchion! 27 Cafodd y dyn hwn ei ddal gan yr Iddewon ac roedd ar fin cael ei ladd ganddyn nhw, ond fe ddes i’n gyflym gyda fy milwyr a’i achub, oherwydd fy mod i wedi deall ei fod yn Rhufeiniwr. 28 Gwnes i ddod ag ef i lawr i mewn i’w Sanhedrin nhw oherwydd fy mod i eisiau darganfod pam roedden nhw’n ei gyhuddo. 29 Dysgais ei fod yn cael ei gyhuddo ynglŷn â materion dadleuol yn eu Cyfraith nhw, ond nid oedd wedi cael ei gyhuddo o unrhyw beth sy’n haeddu marwolaeth na’r carchar. 30 Ond oherwydd fy mod i wedi cael ar ddeall fod ’na gynllwyn yn erbyn y dyn, rydw i’n ei anfon atat ti ar unwaith ac yn gorchymyn i’w gyhuddwyr siarad yn ei erbyn a hynny o dy flaen di.”
31 Felly cymerodd y milwyr Paul, yn ôl eu gorchmynion, a mynd ag ef yn ystod y nos i Antipatris. 32 Y diwrnod wedyn fe wnaethon nhw adael i’r marchogion fynd yn eu blaenau gydag ef, ond fe aethon nhw yn eu holau i lety’r milwyr. 33 Aeth y marchogion i mewn i Cesarea a rhoi’r llythyr i’r llywodraethwr a throsglwyddo Paul iddo hefyd. 34 Felly darllenodd y llythyr a gofyn o ba dalaith yr oedd yn dod a deallodd ei fod yn dod o Cilicia. 35 “Fe wna i wrando’n astud ar dy achos,” meddai, “pan fydd dy gyhuddwyr yn cyrraedd.” A gorchmynnodd iddo gael ei gadw dan warchodaeth ym mhalas Herod.*