Genesis
8 Ond rhoddodd Duw sylw i Noa ac i’r holl anifeiliaid gwyllt a’r anifeiliaid domestig a oedd gydag ef yn yr arch, ac achosodd Duw i wynt chwythu dros y ddaear, a gwnaeth y dyfroedd ddechrau gostwng. 2 A dyma’r dyfroedd yn stopio llifo a’r nefoedd yn cael eu cau, felly stopiodd y glaw syrthio o’r nefoedd. 3 Yna dyma’r dyfroedd ar y ddaear yn dechrau mynd yn is fesul tipyn. Ar ôl 150 o ddyddiau, roedd y dyfroedd wedi gostwng. 4 Yn y seithfed mis, ar yr ail ddiwrnod ar bymtheg o’r mis, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. 5 Ac roedd y dyfroedd yn mynd yn is yn raddol hyd at y degfed mis. Yn y degfed mis, ar y cyntaf o’r mis, dyma bennau’r mynyddoedd yn ymddangos.
6 Felly ar ôl 40 diwrnod, agorodd Noa’r ffenest roedd ef wedi ei gwneud yn yr arch 7 ac anfon cigfran allan; roedd yn parhau i hedfan o gwmpas y tu allan a dod yn ôl, nes i’r dyfroedd sychu oddi ar y ddaear.
8 Yn nes ymlaen anfonodd golomen allan i weld a oedd y dyfroedd ar wyneb y ddaear wedi gostwng. 9 Wnaeth y golomen ddim dod o hyd i rywle i lanio, felly daeth yn ôl ato i mewn i’r arch oherwydd bod y dyfroedd yn dal i orchuddio wyneb yr holl ddaear. Felly estynnodd Noa ei law a dod â’r golomen i mewn i’r arch. 10 Arhosodd am saith diwrnod arall, ac unwaith eto anfonodd y golomen allan o’r arch. 11 Pan ddaeth y golomen ato ar ôl iddi ddechrau nosi, gwelodd fod ’na ddeilen olewydd a oedd newydd ei thynnu yn ei phig! Felly roedd Noa’n gwybod bod y dyfroedd ar y ddaear wedi gostwng. 12 Disgwyliodd am saith diwrnod arall. Yna anfonodd y golomen allan, ond ddaeth hi ddim yn ôl ato o hynny ymlaen.
13 Nawr yn y flwyddyn 601 o fywyd Noa, yn y mis cyntaf, ar ddiwrnod cyntaf y mis, roedd y dyfroedd wedi gostwng ar y ddaear; a dyma Noa’n agor rhan o do’r arch* a gweld bod wyneb y ddaear yn sychu. 14 Yn yr ail fis, ar y seithfed diwrnod ar hugain o’r mis, roedd y ddaear wedi sychu.
15 Nawr dywedodd Duw wrth Noa: 16 “Dos allan o’r arch, ti, dy wraig, dy feibion, a gwragedd dy feibion. 17 Dos â’r holl greaduriaid byw allan gyda ti, y creaduriaid sy’n hedfan, yr anifeiliaid, a’r anifeiliaid sy’n ymlusgo ar y ddaear, er mwyn iddyn nhw ledaenu ar y ddaear a bod yn ffrwythlon a lluosogi ar y ddaear.”
18 Felly aeth Noa allan, gyda’i feibion, ei wraig, a gwragedd ei feibion. 19 Aeth pob creadur byw, pob anifail sy’n ymlusgo a phob creadur sy’n hedfan, popeth sy’n symud ar y ddaear, allan o’r arch fesul teulu. 20 Yna dyma Noa’n adeiladu allor i Jehofa, yn cymryd rhai o’r holl anifeiliaid glân a’r holl greaduriaid glân sy’n hedfan, ac yn cynnig offrymau llosg ar yr allor. 21 Ac roedd yr arogl yn plesio Jehofa. Felly dywedodd Jehofa yn ei galon: “Fydda i byth eto yn melltithio’r ddaear o achos dyn, oherwydd mae tueddiad calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid ymlaen; a fydda i byth eto yn taro popeth byw fel y gwnes i. 22 O hyn ymlaen, bydd y ddaear yn wastad yn cael tymor ar gyfer hau hadau a thymor ar gyfer medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, a dydd a nos.”