Yn Ôl Ioan
11 Nawr roedd dyn o’r enw Lasarus yn sâl; roedd yn dod o Fethania, y pentref lle roedd Mair a’i chwaer Martha yn byw. 2 Mair oedd yr un a wnaeth dywallt* olew persawrus ar yr Arglwydd a sychu ei draed â’i gwallt; ei brawd hi, Lasarus, oedd yn sâl. 3 Felly anfonodd ei chwiorydd neges ato, gan ddweud: “Arglwydd, edrycha! mae’r un rwyt ti’n ei garu’n sâl.” 4 Ond pan glywodd Iesu’r neges, dywedodd: “Dydy’r salwch hwn ddim yn arwain i farwolaeth, ond i ogoniant Duw, er mwyn i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo.”
5 Nawr roedd Iesu’n caru Martha a’i chwaer a Lasarus. 6 Fodd bynnag, pan glywodd fod Lasarus yn sâl, fe arhosodd lle roedd ef am ddau ddiwrnod arall. 7 Ar ôl hyn, dywedodd ef wrth y disgyblion: “Gadewch inni fynd i mewn i Jwdea eto.” 8 Dywedodd y disgyblion wrtho: “Rabbi, dim ond yn ddiweddar roedd y Jwdeaid yn ceisio dy labyddio di, ac wyt ti am fynd yno eto?” 9 Atebodd Iesu: “Onid oes ’na 12 awr o olau dydd? Os oes rhywun yn cerdded yng ngolau dydd, nid yw’n baglu dros unrhyw beth, oherwydd ei fod yn gweld goleuni’r byd hwn. 10 Ond os oes rhywun yn cerdded yn y nos, mae’n baglu, oherwydd dydy’r goleuni ddim ynddo.”
11 Ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, fe ychwanegodd: “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu, ond rydw i’n teithio yno i’w ddeffro.” 12 Yna dywedodd y disgyblion wrtho: “Arglwydd, os ydy ef yn cysgu, fe fydd yn gwella.” 13 Fodd bynnag, roedd Iesu’n sôn am ei farwolaeth. Ond roedden nhw’n meddwl ei fod yn sôn am gwsg arferol. 14 Yna dywedodd Iesu wrthyn nhw’n blwmp ac yn blaen: “Mae Lasarus wedi marw, 15 ac rydw i’n llawenhau nad oeddwn i yno, er mwyn ichi gredu. Ond gadewch inni fynd ato.” 16 Felly dywedodd Tomos, a oedd yn cael ei alw yr Efaill, wrth ei gyd-ddisgyblion: “Gadewch i ninnau fynd hefyd, er mwyn inni farw gydag ef.”
17 Pan gyrhaeddodd Iesu, fe welodd fod Lasarus wedi bod yn y beddrod* ers pedwar diwrnod yn barod. 18 Nawr roedd Bethania yn agos i Jerwsalem, tua dwy filltir* i ffwrdd. 19 Ac roedd llawer o’r Iddewon wedi dod at Martha a Mair i’w cysuro nhw gan fod eu brawd wedi marw. 20 Pan glywodd Martha fod Iesu’n dod, aeth hi i’w gyfarfod; ond arhosodd Mair adref. 21 Yna dywedodd Martha wrth Iesu: “Arglwydd, petaset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw. 22 Ond hyd yn oed nawr, rydw i’n gwybod y bydd Duw’n rhoi iti beth bynnag rwyt ti’n gofyn amdano.” 23 Dywedodd Iesu wrthi: “Bydd dy frawd yn codi.” 24 Dywedodd Martha wrtho: “Rydw i’n gwybod y bydd ef yn cael ei atgyfodi ar y dydd olaf.” 25 Dywedodd Iesu wrthi: “Fi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Bydd yr un sy’n ymarfer ffydd yno i, er iddo farw, yn dod yn fyw; 26 ac ni fydd unrhyw un sy’n byw ac yn ymarfer ffydd yno i byth yn marw o gwbl. Wyt ti’n credu hyn?” 27 Dywedodd hi wrtho: “Ydw, Arglwydd, rydw i wedi credu mai ti yw’r Crist, Mab Duw, yr un sy’n dod i mewn i’r byd.” 28 Ar ôl iddi ddweud hyn, aeth hi i ffwrdd a galw Mair, ei chwaer, gan ddweud wrthi’n breifat: “Mae’r Athro yma ac mae’n galw amdanat ti.” 29 Pan glywodd Mair hyn, dyma hi’n codi’n gyflym ac yn mynd ato.
30 Doedd Iesu ddim wedi dod i mewn i’r pentref eto, ond roedd yn dal yn y fan lle roedd Martha wedi ei gyfarfod. 31 Roedd ’na Iddewon gyda Mair yn y tŷ yn ei chysuro hi. Pan welson nhw Mair yn codi’n gyflym ac yn mynd allan, dyma nhw’n ei dilyn hi, gan feddwl ei bod hi’n mynd i’r beddrod* i wylo yno. 32 Pan gyrhaeddodd Mair y fan lle roedd Iesu, a’i weld, syrthiodd wrth ei draed a dywedodd wrtho: “Arglwydd, petaset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” 33 Pan welodd Iesu Mair yn wylo a’r Iddewon a ddaeth gyda hi’n wylo, dyma’n anadlu’n ddwfn mewn tristwch.* 34 Dywedodd ef: “Ble rydych chi wedi ei roi i orwedd?” Dywedon nhw wrtho: “Arglwydd, tyrd i weld.” 35 Roedd Iesu yn ei ddagrau. 36 Ar hynny dechreuodd yr Iddewon ddweud: “Edrychwch gymaint roedd yn ei garu!” 37 Ond dywedodd rhai ohonyn nhw: “Oni allai’r dyn hwn a agorodd llygaid y dyn dall stopio Lasarus rhag marw?”
38 Yna, ar ôl anadlu’n ddwfn mewn tristwch unwaith eto, daeth Iesu at y beddrod. Mewn gwirionedd, ogof oedd y beddrod,* ac roedd ’na garreg yn gorwedd ar draws y fynedfa. 39 Dywedodd Iesu: “Symudwch y garreg.” Dywedodd Martha, chwaer yr un oedd wedi marw: “Arglwydd, mae’n rhaid ei fod yn drewi erbyn hyn, oherwydd mae pedwar diwrnod wedi mynd heibio.” 40 Dywedodd Iesu wrthi: “Oni wnes i ddweud wrthot ti y byddet ti’n gweld gogoniant Duw os byddet ti’n credu?” 41 Felly symudon nhw’r garreg. Yna cododd Iesu ei lygaid tua’r nef a dweud: “Dad, rydw i’n diolch iti am dy fod ti wedi fy nghlywed i. 42 Yn wir, roeddwn i’n gwybod dy fod ti’n wastad yn fy nghlywed i; ond fe wnes i siarad o achos y dyrfa sy’n sefyll o gwmpas, er mwyn iddyn nhw gredu dy fod ti wedi fy anfon i.” 43 Ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, fe waeddodd â llais uchel: “Lasarus, tyrd allan!” 44 Dyma’r dyn a oedd wedi bod yn farw yn dod allan a’i draed a’i ddwylo wedi eu lapio mewn cadachau, ac roedd ei wyneb wedi ei lapio mewn cadach. Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Rhyddhewch ef a gadewch iddo fynd.”
45 Felly, dyma lawer o’r Iddewon a ddaeth at Mair ac a welodd beth wnaeth Iesu yn rhoi ffydd ynddo, 46 ond aeth rhai ohonyn nhw i ffwrdd at y Phariseaid a dweud wrthyn nhw beth roedd Iesu wedi ei wneud. 47 Felly dyma’r prif offeiriaid a’r Phariseaid yn dod â’r Sanhedrin at ei gilydd ac yn dweud: “Beth wnawn ni, oherwydd mae’r dyn hwn yn gwneud llawer o arwyddion? 48 Os ydyn ni’n gadael iddo gario ymlaen fel hyn, fe fyddan nhw i gyd yn rhoi ffydd ynddo, a bydd y Rhufeiniaid yn dod ac yn cymryd i ffwrdd ein lle ni* a’n cenedl ni.” 49 Ond dyma un ohonyn nhw, Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud wrthyn nhw: “Dydych chi ddim yn gwybod unrhyw beth o gwbl, 50 a dydych chi ddim wedi rhesymu ei bod hi o fudd ichi i un dyn farw dros y bobl yn hytrach nag i’r holl genedl gael ei dinistrio.” 51 Fodd bynnag, nid oedd yn dweud hyn ar ei liwt ei hun, ond gan mai ef oedd yr archoffeiriad y flwyddyn honno, fe broffwydodd y byddai Iesu’n marw dros y genedl, 52 ac nid yn unig dros y genedl ond hefyd er mwyn uno plant Duw a oedd ar wasgar. 53 Felly o’r diwrnod hwnnw ymlaen gwnaethon nhw gynllwynio i’w ladd.
54 Felly, doedd Iesu ddim yn cerdded o gwmpas yn gyhoeddus bellach ymhlith yr Iddewon, ond gadawodd y lle hwnnw a mynd i’r ardal sy’n agos i’r anialwch, i ddinas o’r enw Effraim, ac arhosodd yno gyda’r disgyblion. 55 Nawr roedd Pasg yr Iddewon yn agos, a gwnaeth llawer o bobl o gefn gwlad fynd i fyny i Jerwsalem cyn y Pasg i’w glanhau eu hunain yn seremonïol. 56 Roedden nhw’n chwilio am Iesu, ac wrth iddyn nhw sefyll o gwmpas yn y deml roedden nhw’n dweud wrth ei gilydd: “Beth yw eich barn chi? Ydych chi’n meddwl na fydd ef yn dod i’r ŵyl o gwbl?” 57 Ond roedd y prif offeiriaid a’r Phariseaid wedi gorchymyn y dylai unrhyw un adrodd yn ôl iddyn nhw petai’n gwybod lle roedd Iesu, fel y gallan nhw ei arestio.