Datguddiad i Ioan
10 A gwelais angel cryf arall yn dod i lawr o’r nef, wedi ei wisgo â chwmwl,* ac roedd ’na enfys ar ei ben, ac roedd ei wyneb fel yr haul, ac roedd ei goesau* fel colofnau o dân, 2 ac yn ei law roedd ganddo sgrôl fach a oedd wedi cael ei dad-rolio. A dyma’n gosod ei droed dde ar y môr, ond ei droed chwith ar y ddaear, 3 a dyma’n gweiddi â llais uchel yn union fel llew yn rhuo. Ac wrth iddo weiddi, gwnaeth lleisiau’r saith taran siarad.
4 Nawr pan siaradodd y saith taran, roeddwn i ar fin ysgrifennu, ond fe glywais lais o’r nef yn dweud: “Selia’r pethau y siaradodd y saith taran amdanyn nhw, a phaid â’u hysgrifennu nhw.” 5 Gwnaeth yr angel a welais yn sefyll ar y môr ac ar y ddaear godi ei law dde i’r nef, 6 ac fe wnaeth lw yn enw’r Un sy’n byw am byth bythoedd, yr un a greodd y nef a’r pethau sydd ynddi, a’r ddaear a’r pethau sydd ynddi, a’r môr a’r pethau sydd ynddo: “Ni fydd unrhyw oedi bellach. 7 Ond yn y dyddiau pan fydd y seithfed angel ar fin canu ei drwmped, mae’r gyfrinach gysegredig mae Duw wedi ei chyhoeddi’n newyddion da i’w gaethweision ei hun, y proffwydi, yn mynd i gael ei chyflawni.”
8 A chlywais y llais allan o’r nef yn siarad â mi unwaith eto ac yn dweud: “Dos, cymera’r sgrôl sydd wedi ei hagor ac sydd yn llaw’r angel sy’n sefyll ar y môr ac ar y ddaear.” 9 Fe es i at yr angel a dweud wrtho am roi’r sgrôl fach imi. Dywedodd yntau wrtho i: “Cymera hi a’i bwyta, ac fe fydd yn gwneud dy stumog yn chwerw, ond yn dy geg fe fydd yn felys fel mêl.” 10 Fe wnes i gymryd y sgrôl fach allan o law’r angel a’i bwyta hi, ac yn fy ngheg roedd hi’n felys fel mêl, ond ar ôl imi ei bwyta, aeth fy stumog yn chwerw. 11 A dywedon nhw wrtho i: “Mae’n rhaid iti broffwydo eto am bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a llawer o frenhinoedd.”