Ail Samuel
12 Felly anfonodd Jehofa Nathan at Dafydd. Aeth i mewn ato a dweud: “Roedd ’na ddau ddyn mewn un ddinas, un yn gyfoethog a’r llall yn dlawd. 2 Roedd gan y dyn cyfoethog lawer iawn o ddefaid a gwartheg; 3 ond doedd gan y dyn tlawd ddim byd heblaw am un oen fenyw fechan roedd ef wedi ei phrynu. Gofalodd amdani, a thyfodd hi i fyny gydag ef a’i feibion. Byddai’n bwyta o’r ychydig fwyd roedd ganddo ac yn yfed o’i gwpan ac yn cysgu yn ei freichiau. Daeth hi fel merch iddo. 4 Yn hwyrach ymlaen daeth ymwelwr at y dyn cyfoethog, ond doedd ef ddim am gymryd unrhyw un o’i ddefaid na’i wartheg ei hun er mwyn paratoi pryd o fwyd ar gyfer y teithiwr oedd wedi dod ato. Yn hytrach, cymerodd oen y dyn tlawd a’i pharatoi ar gyfer y teithiwr.”
5 Gyda hynny dyma Dafydd yn gwylltio’n lân â’r dyn, a dywedodd wrth Nathan: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, mae’r dyn a wnaeth hyn yn haeddu marw! 6 Dylai dalu am yr oen bedair gwaith, am ei fod wedi gwneud hyn heb ddangos unrhyw dosturi.”
7 Yna dywedodd Nathan wrth Dafydd: “Ti ydy’r dyn! Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gwnes i fy hun dy eneinio di’n frenin ar Israel, a gwnes i dy achub di o law Saul. 8 Roeddwn i’n fodlon rhoi tŷ dy feistr iti a rhoi gwragedd dy feistr yn dy freichiau, a rhoddais dŷ Israel a Jwda i ti hefyd. Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, roeddwn i’n fodlon gwneud llawer mwy drostot ti. 9 Pam gwnest ti ddirmygu gair Jehofa drwy wneud beth sy’n ddrwg yn ei olwg? Gwnest ti daro Ureia yr Hethiad i lawr â’r cleddyf! Yna gwnest ti gymryd ei wraig yn wraig i ti dy hun ar ôl ei ladd â chleddyf yr Ammoniaid. 10 Nawr bydd cleddyf yn wastad yn plagio dy dŷ, am dy fod ti wedi fy nirmygu drwy gymryd gwraig Ureia yr Hethiad yn wraig i ti dy hun.’ 11 Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: ‘Bydda i’n achosi i dy deulu dy hun ddod â thrychineb arnat ti; ac o flaen dy lygaid dy hun, bydda i’n cymryd dy wragedd ac yn eu rhoi nhw i ddyn arall, a bydd ef yn cysgu gyda dy wragedd yn gwbl agored.* 12 Er dy fod ti wedi gwneud y pethau hyn yn ddirgel, bydda i’n gwneud hyn o flaen Israel i gyd er mwyn i bawb gael gweld.’”
13 Yna dywedodd Dafydd wrth Nathan: “Rydw i wedi pechu yn erbyn Jehofa.” Atebodd Nathan: “Mae Jehofa, yn ei dro, yn maddau dy bechod. Fyddi di ddim yn marw. 14 Er hynny, am dy fod ti wedi amharchu Jehofa yn llwyr yn y mater hwn, bydd y mab sydd newydd gael ei eni iti yn sicr o farw.”
15 Yna aeth Nathan adref.
A dyma Jehofa yn taro’r plentyn roedd gwraig Ureia wedi ei eni i Dafydd, ac aeth y plentyn yn sâl. 16 Plediodd Dafydd gyda’r gwir Dduw ar ran y bachgen. Dechreuodd Dafydd ymprydio a byddai’n mynd i mewn ac yn treulio’r nos yn gorwedd ar y llawr. 17 Felly roedd gweision hŷn ei dŷ yn sefyll drosto ac yn ceisio ei godi o’r llawr, ond roedd yn gwrthod codi na bwyta gyda nhw. 18 Ar y seithfed diwrnod bu farw’r plentyn, ond roedd gweision Dafydd yn ofni dweud wrtho fod y plentyn wedi marw. Dywedon nhw: “Tra oedd y plentyn yn fyw roedden ni’n siarad ag ef, ond doedd ef ddim yn gwrando arnon ni. Felly sut gallwn ni ddweud wrtho fod y plentyn wedi marw? Efallai bydd yn gwneud rhywbeth ofnadwy.”
19 Pan welodd Dafydd fod ei weision yn sibrwd ymysg ei gilydd, sylweddolodd fod y plentyn wedi marw. Gofynnodd Dafydd i’w weision: “Ydy’r plentyn wedi marw?” Atebon nhw: “Do, mae wedi marw.” 20 Felly cododd Dafydd o’r llawr. Dyma’n ymolchi, yn rhwbio ei hun ag olew, yn newid ei ddillad, ac yn mynd i dŷ Jehofa ac ymgrymu. Wedyn, aeth i’w dŷ* a gofyn am fwyd, a bwytaodd. 21 Gofynnodd ei weision iddo: “Pam rwyt ti wedi ymddwyn fel hyn? Tra oedd y plentyn yn fyw, roeddet ti’n ymprydio ac yn wylo o hyd; ond unwaith i’r plentyn farw, dyma ti’n codi ac yn bwyta.” 22 Atebodd: “Tra oedd y plentyn yn fyw, roeddwn i’n ymprydio ac yn wylo am fy mod i’n meddwl i fi fy hun, ‘Pwy a ŵyr a fydd Jehofa yn dangos ffafr ata i ac yn gadael i’r plentyn fyw?’ 23 Nawr ei fod wedi marw, pam dylwn i ymprydio? Alla i ddod ag ef yn ôl? Bydda i’n mynd ato, ond fydd ef ddim yn dod yn ôl ata i.”
24 Yna cysurodd Dafydd ei wraig Bath-seba. Aeth i mewn ati a chysgu gyda hi. Ymhen amser dyma hi’n geni mab, a chafodd ei alw’n Solomon.* Roedd Jehofa yn ei garu, 25 ac anfonodd neges drwy Nathan y proffwyd i’w enwi’n Jedidia,* er mwyn Jehofa.
26 Parhaodd Joab i frwydro yn erbyn Rabba yr Ammoniaid, a llwyddodd i gipio’r ddinas frenhinol. 27 Felly anfonodd Joab negeswyr at Dafydd i ddweud: “Rydw i wedi brwydro yn erbyn Rabba, ac wedi cipio dinas y dyfroedd.* 28 Nawr casgla weddill y milwyr a gwersylla yn erbyn y ddinas a’i chipio. Fel arall, y fi fydd yn cipio’r ddinas, ac y fi fydd yn cael y clod am wneud hynny.”
29 Felly casglodd Dafydd y milwyr i gyd a mynd i Rabba a brwydro yn ei herbyn a’i chipio. 30 Yna cymerodd goron yr eilun Malcham oddi ar ei ben. Roedd yn pwyso talent* o aur, ac roedd wedi ei haddurno â gemau gwerthfawr, a chafodd ei rhoi ar ben Dafydd. Hefyd cymerodd lawer iawn o ysbail o’r ddinas. 31 A daeth â’r holl bobl oedd ynddi allan a’u gorfodi nhw i lifio cerrig, i wneud briciau, ac i weithio â thŵls haearn miniog a bwyeill haearn. Dyna a wnaeth ef i holl ddinasoedd yr Ammoniaid. Yn y pen draw, aeth Dafydd a’r holl filwyr yn ôl i Jerwsalem.