Genesis
21 Gwnaeth Jehofa droi ei sylw at Sara fel roedd ef wedi dweud, a chyflawnodd Jehofa ei addewid i Sara. 2 Felly daeth Sara yn feichiog ac yna geni mab i Abraham yn ei henaint ar yr amser penodedig roedd Duw wedi ei addo iddo. 3 Dyma Abraham yn enwi’r mab roedd Sara newydd ei eni iddo yn Isaac. 4 A gwnaeth Abraham enwaedu ei fab Isaac pan oedd yn wyth diwrnod oed, yn union fel roedd Duw wedi gorchymyn iddo. 5 Roedd Abraham yn 100 mlwydd oed pan gafodd ei fab Isaac ei eni iddo. 6 Yna dywedodd Sara: “Mae Duw wedi gwneud imi chwerthin yn llawen; bydd pawb sy’n clywed am hyn yn chwerthin gyda mi.”* 7 Ac ychwanegodd hi: “Pwy fyddai wedi dweud wrth Abraham, ‘Bydd Sara yn bendant yn magu plant’? Ond eto, rydw i wedi rhoi genedigaeth i fab iddo yn ei henaint.”
8 Nawr gwnaeth y plentyn dyfu a doedd ef ddim yn cael ei fwydo ar y fron bellach,* a dyma Abraham yn paratoi gwledd fawr ar y diwrnod y gwnaeth Isaac stopio cael ei fwydo ar y fron. 9 Ond dechreuodd Sara sylwi bod mab Hagar yr Eifftes, yr un y gwnaeth hi ei eni i Abraham, yn gwneud hwyl am ben Isaac. 10 Felly dywedodd hi wrth Abraham: “Gyrra allan y gaethferch hon a’i mab, oherwydd fydd mab y gaethferch hon ddim yn etifedd gyda fy mab i, gydag Isaac!” 11 Ond doedd yr hyn a ddywedodd hi am ei fab ddim yn plesio Abraham o gwbl. 12 Yna dywedodd Duw wrth Abraham: “Paid â theimlo’n ddrwg am yr hyn mae Sara’n ei ddweud wrthot ti am dy fachgen ac am dy gaethferch. Gwranda arni hi, oherwydd bydd yr hyn a fydd yn cael ei alw’n had iti yn dod drwy Isaac. 13 Ynglŷn â mab y gaethferch, bydda i’n gwneud cenedl allan ohono ef hefyd, oherwydd ei fod yn ddisgynnydd* iti.”
14 Felly cododd Abraham yn gynnar yn y bore a chymerodd fara a photel groen o ddŵr a’u rhoi i Hagar. Gosododd nhw ar ei hysgwydd ac yna ei hanfon hi i ffwrdd gyda’r bachgen. Felly dyma hi’n gadael ac yn crwydro o gwmpas yn anialwch Beer-seba. 15 Yn y diwedd, roedd y dŵr yn y botel groen wedi darfod, a gwthiodd hi’r bachgen o dan un o’r perthi. 16 Yna aeth hi ymlaen ac eisteddodd ar ei phen ei hun, tua ergyd bwa i ffwrdd, oherwydd dywedodd hi: “Dydw i ddim eisiau gwylio’r bachgen yn marw.” Felly eisteddodd hi yn bell i ffwrdd a dechreuodd hi grio’n uchel ac wylo.
17 Ar hynny clywodd Duw lais y bachgen, a dyma angel Duw’n galw ar Hagar o’r nefoedd ac yn dweud wrthi: “Beth sy’n bod, Hagar? Paid ag ofni, oherwydd mae Duw wedi clywed llais y bachgen. 18 Cod, a choda’r bachgen a gafael ynddo â dy law, oherwydd bydda i’n ei wneud yn genedl fawr.” 19 Yna agorodd Duw ei llygaid hi a gwelodd hi ffynnon ddŵr, ac aeth hi a llenwi’r botel groen â dŵr a rhoi diod i’r bachgen. 20 Ac roedd Duw gyda’r bachgen wrth iddo dyfu i fyny. Roedd yn byw yn yr anialwch ac fe ddaeth yn saethwr bwa. 21 Dechreuodd fyw yn anialwch Paran, a gwnaeth ei fam gymryd gwraig iddo o wlad yr Aifft.
22 Yr adeg honno dyma Abimelech a Phichol, pennaeth ei fyddin, yn dweud wrth Abraham: “Mae Duw gyda ti ym mhopeth rwyt ti’n ei wneud. 23 Felly dos ar dy lw, yma o flaen Duw, na fyddi di’n fy nhwyllo i na fy mhlant na fy nisgynyddion, ac y byddi di’n delio â mi a’r tir lle rwyt ti wedi bod yn byw gyda’r un cariad ffyddlon rydw i wedi ei ddangos tuag atat ti.” 24 Felly dywedodd Abraham: “Rydw i’n mynd ar fy llw.”
25 Ond, fe wnaeth Abraham gwyno wrth Abimelech am y ffynnon ddŵr roedd gweision Abimelech wedi ei chymryd yn dreisgar. 26 Atebodd Abimelech: “Dydw i ddim yn gwybod pwy wnaeth hyn; wnest ti ddim sôn wrtho i am hyn, a chlywais i ddim byd am y peth tan heddiw.” 27 Ar hynny cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg a’u rhoi nhw i Abimelech, a gwnaeth y ddau ohonyn nhw gyfamod. 28 Pan wnaeth Abraham osod saith o ŵyn benyw ar wahân i’r praidd, 29 dywedodd Abimelech wrth Abraham: “Pam rwyt ti wedi gosod y saith oen fenyw yma ar eu pennau eu hunain?” 30 Yna dywedodd yntau: “Rwyt ti i dderbyn y saith oen fenyw o fy llaw yn dystiolaeth fy mod i wedi cloddio’r ffynnon hon.” 31 Dyna pam gwnaeth ef alw’r lle hwnnw’n Beer-seba,* oherwydd yno gwnaeth y ddau ohonyn nhw dyngu llw. 32 Felly gwnaethon nhw gyfamod yn Beer-seba, ac ar ôl hynny cododd Abimelech a Phichol, pennaeth ei fyddin, ac aethon nhw yn ôl i wlad y Philistiaid. 33 Ar ôl hynny plannodd ef goeden tamarisg yn Beer-seba, ac yno roedd ef yn galw ar enw Jehofa, y Duw tragwyddol. 34 Ac arhosodd Abraham yng ngwlad y Philistiaid am amser hir.