Cyntaf Samuel
1 Nawr roedd ’na ddyn o Ramathaim-soffim* o ardal fynyddig Effraim a’i enw oedd Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, dyn o Effraim. 2 Roedd ganddo ddwy wraig; enw un ohonyn nhw oedd Hanna, ac enw’r llall oedd Peninna. Roedd gan Peninna blant ond doedd gan Hanna ddim plant. 3 Aeth Elcana i fyny o’i ddinas flwyddyn ar ôl blwyddyn i addoli Jehofa* y lluoedd ac i aberthu iddo yn Seilo. Dyna ble roedd dau fab Eli, Hoffni a Phineas, yn gwasanaethu fel offeiriaid i Jehofa.
4 Un diwrnod pan offrymodd Elcana aberth, rhoddodd rannau ohono i’w wraig Peninna a’i meibion a’i merched i gyd, 5 ond rhoddodd ran arbennig i Hanna, oherwydd Hanna oedd yr un roedd ef yn ei charu; ond doedd Jehofa ddim wedi rhoi unrhyw blant iddi. 6 Ar ben hynny, roedd Peninna* yn ei phryfocio hi yn ddi-baid er mwyn ei brifo hi oherwydd doedd Jehofa ddim wedi rhoi plant iddi. 7 Hefyd roedd hi’n trin Hanna yn yr un ffordd pan oedden nhw’n mynd i fyny i dŷ Jehofa bob blwyddyn; roedd hi’n ei phryfocio hi gymaint nes iddi wylo a pheidio â bwyta. 8 Ond dywedodd ei gŵr Elcana wrthi: “Hanna, pam rwyt ti’n wylo, a pham dwyt ti ddim yn bwyta, a pham rwyt ti mor drist? Onid ydw i’n well i ti na deg o feibion?”
9 Yna cododd Hanna ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo. Ar y pryd, roedd Eli yr offeiriad yn eistedd ar y sedd wrth fynedfa teml* Jehofa. 10 Roedd Hanna yn ofnadwy o chwerw, a dechreuodd hi weddïo ar Jehofa a beichio crio. 11 A gwnaeth hi’r adduned hon: “O Jehofa y lluoedd, edrycha faint rydw i’n dioddef. O Arglwydd, os byddi di’n fy nghofio i, ac os na fyddi di’n anghofio am dy forwyn, ac yn rhoi mab imi, bydda i’n ei roi i Jehofa holl ddyddiau ei fywyd, ac ni fydd rasel yn cyffwrdd â’i ben.”
12 Tra oedd hi’n gweddïo am amser hir o flaen Jehofa, roedd Eli yn ei gwylio hi. 13 Roedd Hanna yn siarad yn ei chalon; roedd ei gwefusau yn symud, ond doedd ei llais ddim i’w glywed. Felly roedd Eli yn meddwl ei bod hi wedi meddwi. 14 Dywedodd Eli wrthi: “Pam rwyt ti wedi meddwi? Rho’r gorau i yfed dy win.” 15 Gyda hynny atebodd Hanna: “Na, fy arglwydd! Rydw i’n ddynes* o dan bwysau enfawr; rydw i heb yfed gwin nac unrhyw beth alcoholig, ond rydw i’n bwrw fy mol i Jehofa.* 16 Fy arglwydd, paid â meddwl fy mod i’n dda i ddim. Hyd yn hyn rydw i wedi bod yn gweddïo oherwydd poen fy nghalon a fy nioddefaint.” 17 Yna atebodd Eli: “Dos mewn heddwch, a gad i Dduw Israel roi i ti beth rwyt ti wedi gofyn amdano.” 18 I hynny dywedodd hi: “Rydw i’n dymuno y byddi di’n meddwl yn dda ohono i.” Ac aeth y ddynes* ar ei ffordd a bwyta, ac roedd yn amlwg ar ei hwyneb nad oedd hi’n drist bellach.
19 Yna codon nhw’n gynnar yn y bore ac ymgrymu o flaen Jehofa, ac ar ôl hynny aethon nhw yn ôl i’w tŷ yn Rama. Cysgodd Elcana gyda’i wraig Hanna, a gwnaeth Jehofa droi ei sylw ati.* 20 O fewn blwyddyn* daeth Hanna yn feichiog a geni mab a’i alw’n Samuel,* oherwydd fel dywedodd hi, “gan Jehofa y gofynnais amdano.”
21 Ymhen amser aeth Elcana i fyny gyda’i deulu cyfan i offrymu’r aberth blynyddol i Jehofa ac i gyflwyno ei offrwm adduned. 22 Ond wnaeth Hanna ddim mynd i fyny, oherwydd roedd hi wedi dweud wrth ei gŵr: “Unwaith i’r bachgen ddechrau bwyta bwyd mwy solet, gwna i ddod ag ef o flaen Jehofa a bydd ef yn aros yno o hynny ymlaen.” 23 Yna dywedodd ei gŵr Elcana wrthi: “Gwna beth rwyt ti’n ei feddwl sydd orau. Arhosa adref nes iddo ddechrau bwyta bwyd mwy solet. Gad i Jehofa wneud beth rwyt ti wedi ei ddweud.” Felly arhosodd y ddynes* adref nes iddi stopio bwydo ei mab ar y fron.
24 Cyn gynted ag yr oedd hi wedi stopio ei fwydo ar y fron, gwnaeth hi ei gymryd i fyny i Seilo, gyda tharw tair blwydd oed, un effa* o flawd, a jar fawr o win, a daeth hi at dŷ Jehofa yn Seilo a daeth hi â’r bachgen ifanc gyda hi. 25 Yna dyma nhw’n lladd y tarw ac yn dod â’r bachgen at Eli. 26 Gyda hynny dywedodd hi: “Esgusoda fi, fy arglwydd! Mor sicr â’r ffaith dy fod ti’n fyw, fy arglwydd, fi yw’r ddynes* oedd yn sefyll gyda ti yn y lle hwn i weddïo ar Jehofa. 27 Am y bachgen hwn roeddwn i’n gweddïo, ac mae Jehofa wedi rhoi imi beth gwnes i ofyn amdano. 28 Rydw innau nawr yn ei fenthyg i Jehofa. Bydd ef yn perthyn i Jehofa am ei holl ddyddiau.”
A gwnaeth ef* ymgrymu i Jehofa yno.