Actau’r Apostolion
2 Ar ddiwrnod Gŵyl y Pentecost, roedden nhw i gyd gyda’i gilydd yn yr un lle. 2 Yn sydyn roedd ’na sŵn o’r nef, yn union fel awel gref yn rhuthro, a dyma’n llenwi’r tŷ cyfan lle roedden nhw’n eistedd. 3 A daeth tafodau fel o dân yn weladwy iddyn nhw a chael eu dosbarthu, a daeth un i eistedd ar bob un ohonyn nhw, 4 ac fe gawson nhw eu llenwi â’r ysbryd glân a dechrau siarad mewn gwahanol ieithoedd,* yn union fel roedd yr ysbryd yn eu galluogi i siarad.
5 Yr adeg honno roedd Iddewon selog o bob cenedl o dan y nef yn aros yn Jerwsalem. 6 Felly wrth glywed y sŵn hwn, daeth tyrfa ynghyd ac roedden nhw wedi drysu, oherwydd bod pob un yn eu clywed nhw’n siarad yn ei iaith ei hun. 7 Yn wir, roedden nhw’n hollol syfrdan ac medden nhw: “Edrychwch, onid Galileaid ydy’r rhain i gyd sy’n siarad? 8 Sut mae pob un ohonon ni, felly, yn clywed ei famiaith? 9 Parthiaid, Mediaid, Elamitiaid, trigolion Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus a rhanbarth Asia, 10 Phrygia a Pamffylia, yr Aifft ac ardaloedd Libia gerllaw Cyrene, ymwelwyr o Rufain, yn Iddewon a phroselytiaid, 11 Cretiaid, ac Arabiaid—rydyn ni’n eu clywed nhw’n siarad yn ein hieithoedd ni am bethau gwych Duw.” 12 Yn wir, roedden nhw i gyd wedi synnu ac mewn penbleth, gan ddweud wrth ei gilydd: “Beth mae hyn yn ei olygu?” 13 Fodd bynnag, roedd eraill yn gwneud sbort am eu pennau ac yn dweud: “Maen nhw’n llawn o win melys.”*
14 Ond cododd Pedr ar ei draed gyda’r un ar ddeg, a siaradodd â nhw mewn llais uchel: “Chi ddynion Jwdea a chi holl drigolion Jerwsalem, gadewch i hyn fod yn hysbys ichi a gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau. 15 Yn wir, dydy’r bobl hyn ddim wedi meddwi, fel rydych chi’n tybio, oherwydd y drydedd awr o’r dydd ydy hi.* 16 I’r gwrthwyneb, dyma beth gafodd ei ddweud drwy’r proffwyd Joel: 17 ‘“Ac yn y dyddiau olaf,” meddai Duw, “y bydda i’n tywallt* rhywfaint o fy ysbryd ar bob math o gnawd, a bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo a bydd eich dynion ifanc yn gweld gweledigaethau a bydd eich hen ddynion yn breuddwydio breuddwydion, 18 a hyd yn oed ar fy nghaethweision a fy nghaethferched y bydda i’n tywallt* rhywfaint o fy ysbryd yn y dyddiau hynny, ac fe fyddan nhw’n proffwydo. 19 Ac y bydda i’n rhoi rhyfeddodau yn y nef uchod ac arwyddion ar y ddaear isod—gwaed a thân a chymylau o fwg. 20 Bydd yr haul yn cael ei droi yn dywyllwch a’r lleuad yn waed cyn i ddydd mawr a disglair Jehofa ddod. 21 A bydd pawb sy’n galw ar enw Jehofa yn cael eu hachub.”’
22 “Chi ddynion Israel, clywch y geiriau hyn: Roedd Iesu o Nasareth yn ddyn a gafodd ei ddangos yn gyhoeddus ichi gan Dduw trwy weithredoedd nerthol, rhyfeddodau, ac arwyddion a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich mysg chi, yn union fel rydych chi’n gwybod. 23 Y dyn hwn, a gafodd ei drosglwyddo yn ôl ewyllys a rhagwybodaeth Duw, y gwnaethoch chi ei hoelio ar stanc drwy law dynion digyfraith, ac fe wnaethoch chi ei ladd. 24 Ond gwnaeth Duw ei atgyfodi drwy ei ryddhau o grafangau* marwolaeth, oherwydd nid oedd yn bosib i farwolaeth afael yn dynn ynddo. 25 Oherwydd mae Dafydd yn dweud amdano: ‘Rydw i’n cadw Jehofa o fy mlaen i drwy’r amser, oherwydd ei fod ar fy llaw dde fel nad ydw i byth yn cael fy ysgwyd. 26 Oherwydd hynny daeth fy nghalon yn hapus ac roedd fy nhafod yn llawenhau’n fawr iawn. A bydda i’n* byw mewn gobaith; 27 oherwydd fyddi di ddim yn fy ngadael i* yn y Bedd,* nac yn gadael i’r un sy’n ffyddlon iti weld llygredd. 28 Rwyt ti wedi gadael imi wybod am y ffordd i fywyd; byddi di’n fy llenwi â llawenydd mawr yn dy bresenoldeb.’*
29 “Ddynion, frodyr, gadewch imi siarad yn agored â chi am y penteulu Dafydd, ei fod wedi marw a chael ei gladdu, a bod ei feddrod gyda ni hyd y dydd hwn. 30 Oherwydd ei fod ef yn broffwyd ac yn gwybod bod Duw wedi mynd ar lw ac addo y byddai’n rhoi un o’i ddisgynyddion ar ei orsedd, 31 rhagwelodd ef atgyfodiad y Crist a dywedodd na fyddai’n cael ei adael yn y Bedd* ac na fyddai ei gorff yn pydru.* 32 Atgyfododd Duw yr Iesu hwn, ac rydyn ni i gyd yn dystion i hyn. 33 Felly, oherwydd iddo gael ei ddyrchafu i law dde Duw a derbyn oddi wrth y Tad yr ysbryd glân yr oedd wedi ei addo, mae ef wedi tywallt* yr hyn rydych chi’n ei weld ac yn ei glywed. 34 Oherwydd ni chafodd Dafydd ei godi i’r nefoedd, ond mae ef ei hun yn dweud, ‘Dywedodd Jehofa wrth fy Arglwydd: “Eistedda ar fy llaw dde 35 nes imi osod dy elynion yn stôl i dy draed.”’ 36 Felly, gadewch i holl dŷ Israel wybod yn bendant fod Duw wedi ei wneud ef yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn y gwnaethoch chi ei ddienyddio ar y stanc.”
37 Pan glywson nhw hyn, cawson nhw eu brifo i’r byw,* a dywedon nhw wrth Pedr a gweddill yr apostolion: “Ddynion, frodyr, beth ddylen ni ei wneud?” 38 Dywedodd Pedr wrthyn nhw: “Edifarhewch, a gadewch i bob un ohonoch chi gael ei fedyddio yn enw Iesu Grist er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau, a byddwch chi’n derbyn rhodd yr ysbryd glân am ddim. 39 Oherwydd i chi ac i’ch plant mae’r addewid hwn, ac i’r holl rai sy’n bell i ffwrdd, i’r holl rai y bydd Jehofa ein Duw yn eu galw ato ef ei hun.” 40 A gyda llawer o eiriau eraill rhoddodd ef dystiolaeth drylwyr a pharhaodd i’w hannog nhw, gan ddweud: “Gwahanwch eich hunain oddi wrth y genhedlaeth gam hon a chael eich achub.” 41 Felly cafodd y rhai a oedd yn hapus i dderbyn ei eiriau eu bedyddio, ac ar y diwrnod hwnnw cafodd tua 3,000 o bobl* eu hychwanegu. 42 A gwnaethon nhw barhau i ymroi i ddysgeidiaeth yr apostolion, i gymdeithasu gyda’i gilydd, i fwyta prydau o fwyd, ac i weddïo.
43 Yn wir, daeth ofn ar bawb,* a dechreuodd llawer o ryfeddodau ac arwyddion ddigwydd trwy’r apostolion. 44 Roedd pawb a ddaeth yn gredinwyr wedi dod at ei gilydd ac roedden nhw’n rhannu popeth oedd ganddyn nhw gyda’i gilydd, 45 ac yn gwerthu eu tir a’u heiddo ac yn dosbarthu’r arian i bawb, yn ôl angen pob un. 46 Ac roedden nhw’n ymgasglu yn y deml ddydd ar ôl dydd gyda’r un pwrpas, ac roedden nhw’n bwyta prydau o fwyd mewn gwahanol gartrefi ac yn rhannu eu bwyd gyda llawenydd mawr a chalonnau diffuant, 47 yn clodfori Duw ac yn ennill ffafr yr holl bobl. Ar yr un pryd, roedd Jehofa bob dydd yn parhau i ychwanegu atyn nhw y rhai oedd yn cael eu hachub.