LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Rhufeiniaid 5
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Rhufeiniaid

      • Cymodi â Duw drwy Grist (1-11)

      • Marwolaeth trwy Adda, bywyd trwy Grist (12-21)

        • Pechod a marwolaeth yn lledaenu i bawb (12)

        • Un weithred o gyfiawnder (18)

Rhufeiniaid 5:1

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2023, t. 9

Rhufeiniaid 5:2

Troednodiadau

  • *

    Neu “caredigrwydd rhyfeddol.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2023, tt. 9-10

Rhufeiniaid 5:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “treialon.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2023, tt. 10-11

Rhufeiniaid 5:4

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2023, tt. 11-13, 30

Rhufeiniaid 5:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “arllwys.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2024, t. 28

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2023, tt. 8-13

Rhufeiniaid 5:10

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “cawson ni ein cymodi â Duw.”

  • *

    Llyth., “nawr ein bod ni wedi ein cymodi â Duw.”

Rhufeiniaid 5:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “wedi cael ein cymodi.”

Rhufeiniaid 5:12

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 26

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2016, tt. 8-9

    Pan ’Rydym yn Marw?, t. 21

Rhufeiniaid 5:15

Troednodiadau

  • *

    Neu “gorlif.”

Rhufeiniaid 5:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “oedd condemniad.”

  • *

    Neu “yn gyfiawn.”

Rhufeiniaid 5:18

Troednodiadau

  • *

    Neu “at gondemniad.”

Rhufeiniaid 5:21

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    7/2016, t. 22

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Rhufeiniaid 5:1-21

At y Rhufeiniaid

5 Nawr ein bod ni wedi cael ein galw’n gyfiawn o ganlyniad i’n ffydd, gallwn ni fwynhau heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist. 2 Mae ein ffydd yn Iesu yn caniatáu inni fynd at Dduw ac i fwynhau ffafr* Duw. Gallwn ni lawenhau oherwydd bod gynnon ni’r gobaith o dderbyn gogoniant gan Dduw. 3 Ar ben hynny, gallwn ni lawenhau pan fyddwn ni’n wynebu dioddefaint,* gan ein bod ni’n gwybod bod ein dioddefaint yn cynhyrchu dyfalbarhad. 4 Mae ein dyfalbarhad yn dod â chymeradwyaeth Duw, mae ei gymeradwyaeth yn rhoi gobaith inni, 5 a dydy ein gobaith ddim yn arwain i siom. Mae hynny oherwydd bod cariad Duw wedi cael ei dywallt* i mewn i’n calonnau trwy’r ysbryd glân a roddodd Duw inni.

6 Tra oedden ni’n dal yn wan, bu farw Crist dros ddynion drwg ar yr amser penodedig. 7 Prin y byddai unrhyw un yn marw dros ddyn cyfiawn, ond efallai byddai rhywun yn fodlon marw dros ddyn sy’n wirioneddol dda. 8 Ond mae Duw wedi dangos ei gariad ei hun tuag aton ni oherwydd, er roedden ni’n dal yn bechaduriaid, gwnaeth Crist farw droston ni. 9 Felly, nawr ein bod ni wedi cael ein galw’n gyfiawn drwy waed Iesu, gallwn ni fod yn fwy sicr byth y byddwn ni’n cael ein hachub rhag dicter Duw. 10 Er roedden ni’n elynion i Dduw, daethon ni’n ffrindiau iddo* trwy farwolaeth ei Fab. Mae hyn yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy sicr y byddwn ni’n cael ein hachub trwy fywyd Iesu, nawr ein bod ni’n ffrindiau i Dduw.* 11 Mae’r hyn mae Duw wedi ei wneud drwy ein Harglwydd Iesu Grist yn ein gwneud ni’n llawen, oherwydd trwyddo ef rydyn ni nawr wedi cael y cyfeillgarwch hwn* â Duw.

12 Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a daeth marwolaeth drwy bechod. Felly, lledaenodd marwolaeth i bawb oherwydd bod pawb wedi pechu. 13 Roedd pechod yn y byd cyn y Gyfraith, ond dydy pobl ddim yn cael eu hystyried yn euog o bechod pan does ’na ddim cyfraith. 14 Roedd marwolaeth yn rheoli fel brenin o Adda hyd at Moses. Roedd hyd yn oed yn rheoli dros y rhai nad oedd wedi pechu yn yr un ffordd ag Adda. Roedd Adda yn debyg i’r un a oedd am ddod yn hwyrach ymlaen.

15 Ond, dydy rhodd Duw ddim yn debyg i bechod Adda. Bu farw llawer o bobl oherwydd pechod y dyn hwnnw. Ond mae caredigrwydd rhyfeddol Duw a’i rodd am ddim drwy garedigrwydd rhyfeddol un dyn, Iesu Grist, yn llawer mwy. Trwy’r rhodd hon, mae Duw yn dod â digonedd* o fendithion i lawer o bobl! 16 Mae’r rhodd am ddim oddi wrth Dduw a phechod y dyn hwnnw yn wahanol yn y ffordd yma hefyd: Y dyfarniad ar ôl un pechod oedd dedfryd o euogrwydd,* ond rhodd Duw ar ôl cymaint o bechodau oedd cyhoeddi bod pobl yn ddieuog.* 17 Roedd marwolaeth yn rheoli fel brenin drwy bechod y dyn hwnnw. Ond mae hi’n fwy sicr byth y bydd y rhai sy’n derbyn digonedd o garedigrwydd rhyfeddol Duw a chyfiawnder ei rodd am ddim yn byw i reoli fel brenhinoedd drwy un dyn, Iesu Grist!

18 Yn union fel gwnaeth un pechod arwain i ddedfryd o euogrwydd* i bob math o ddynion, felly hefyd gwnaeth un weithred o gyfiawnder arwain at bob math o ddynion yn cael eu galw’n gyfiawn i gael bywyd. 19 Yn union fel gwnaeth anufudd-dod un dyn achosi i lawer fod yn bechaduriaid, yn yr un modd bydd ufudd-dod un person yn achosi i lawer fod yn gyfiawn. 20 Nawr, cafodd y Gyfraith ei rhoi i ddangos yn union pa mor bechadurus oedd pobl. Ond wrth iddi hi ddod yn amlwg faint o bechod sydd ’na, gwnaeth caredigrwydd rhyfeddol Duw gynyddu hyd yn oed yn fwy. 21 Felly yn union fel roedd pechod yn rheoli fel brenin a marwolaeth yn ganlyniad i hynny, felly hefyd mae caredigrwydd rhyfeddol Duw nawr yn rheoli fel brenin drwy gyfiawnder. A bydd hyn yn arwain i fywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu