Yn Ôl Luc
1 Gan fod llawer wedi mynd ati i gasglu ac ysgrifennu’r ffeithiau rydyn ni’n credu’n llwyr ynddyn nhw, 2 yn union fel y cawson nhw eu trosglwyddo inni gan y rhai a oedd o’r dechrau yn llygad-dystion ac yn weinidogion y neges, 3 penderfynais innau hefyd eu hysgrifennu atat ti mewn trefn resymegol, ardderchocaf Theoffilus, oherwydd fy mod i wedi ymchwilio’n ofalus bob peth o’r dechrau, 4 er mwyn iti allu gwybod yn iawn pa mor sicr ydy’r pethau sydd wedi cael eu dysgu iti ar lafar.
5 Yn nyddiau Herod,* brenin Jwdea, roedd ’na offeiriad o’r enw Sechareia, aelod o’r grŵp o offeiriaid a oedd wedi ei enwi ar ôl Abeia. Roedd ei wraig yn un o ddisgynyddion Aaron,* a’i henw hi oedd Elisabeth. 6 Roedd y ddau ohonyn nhw’n gyfiawn o flaen Duw, yn cerdded yn ddi-fai yn unol â holl orchmynion a gofynion cyfreithiol Jehofa.* 7 Ond doedd ganddyn nhw ddim plant, oherwydd bod Elisabeth yn ddiffrwyth a’r ddau ohonyn nhw’n hen.
8 Nawr roedd Sechareia yn gweithredu o flaen Duw fel offeiriad gan mai tro ei grŵp ef oedd i wasanaethu yn y deml. 9 Yn ôl arfer yr offeiriadaeth, daeth ei dro ef i offrymu arogldarth pan aeth i mewn i gysegr Jehofa. 10 Ac roedd holl dyrfa’r bobl y tu allan yn gweddïo ar awr offrymu’r arogldarth. 11 Ymddangosodd angel Jehofa iddo, yn sefyll ar ochr dde allor yr arogldarth. 12 Ond dyma Sechareia yn cynhyrfu ar ôl gweld hyn, a daeth ofn mawr arno. 13 Fodd bynnag, dywedodd yr angel wrtho: “Paid ag ofni, Sechareia, oherwydd mae Duw wedi clywed dy erfyniad, a bydd dy wraig Elisabeth yn rhoi genedigaeth i fab, ac rwyt ti i roi’r enw Ioan arno. 14 Byddi di’n llawen ac yn falch iawn, a bydd llawer o bobl wrth eu boddau gyda’i enedigaeth, 15 oherwydd bydd ef yn fawr yng ngolwg Jehofa. Ond ni ddylai yfed unrhyw win nac unrhyw ddiod alcoholig o gwbl, ac fe fydd yn cael ei lenwi â’r ysbryd glân cyn iddo hyd yn oed gael ei eni, 16 a bydd ef yn troi llawer o feibion Israel yn ôl at Jehofa eu Duw. 17 Hefyd, bydd ef yn mynd o flaen Duw ag ysbryd a nerth Elias, i droi calonnau tadau yn ôl i fod fel calonnau plant, a’r rhai anufudd yn ôl at ddoethineb ymarferol y rhai cyfiawn, er mwyn paratoi pobl sy’n barod i wasanaethu Jehofa.”
18 Dywedodd Sechareia wrth yr angel: “Sut galla i fod yn sicr o hyn? Oherwydd rydw i’n hen, ac mae fy ngwraig mewn oed.” 19 Atebodd yr angel ef drwy ddweud: “Gabriel ydw i, sy’n sefyll o flaen Duw, a ches i fy anfon i siarad â ti ac i gyhoeddi’r newyddion da hyn iti. 20 Ond edrycha! byddi di’n fud ac yn methu siarad hyd y dydd pan fydd y pethau hyn yn digwydd, oherwydd wnest ti ddim credu fy ngeiriau, geiriau a fydd yn cael eu cyflawni yn eu hamser penodedig.” 21 Yn y cyfamser, roedd y bobl yn dal i aros am Sechareia, ac roedden nhw’n synnu ei fod yn oedi mor hir yn y cysegr. 22 Pan ddaeth allan, roedd yn methu siarad â nhw, ac roedden nhw’n deall ei fod wedi cael gweledigaeth* yn y cysegr. Roedd yn gwneud arwyddion â’i ddwylo iddyn nhw ond arhosodd yn fud. 23 Pan oedd dyddiau ei wasanaeth sanctaidd wedi eu cwblhau, aeth i ffwrdd i’w gartref.
24 Rai dyddiau yn ddiweddarach daeth ei wraig Elisabeth yn feichiog, ac arhosodd hi yn y tŷ am bum mis, gan ddweud: 25 “Dyma sut mae Jehofa wedi delio â mi yn y dyddiau hyn. Mae wedi rhoi sylw imi ac wedi cael gwared ar fy nghywilydd.”
26 Pan oedd hi’n chwe mis yn feichiog, cafodd yr angel Gabriel ei anfon gan Dduw i ddinas o’r enw Nasareth yng Ngalilea, 27 at wyryf a oedd wedi ei haddo yn wraig i ddyn* o’r enw Joseff o dŷ Dafydd, ac enw’r wyryf oedd Mair. 28 Ac wrth ddod i mewn ati hi, dywedodd yr angel wrthi: “Cyfarchion, mae Jehofa gyda ti ac yn dy fendithio di.” 29 Ond cafodd hi ei dychryn gan ei eiriau ac roedd hi’n ceisio deall pa fath o gyfarchiad oedd hwn. 30 Felly dywedodd yr angel wrthi: “Paid ag ofni, Mair, oherwydd rwyt ti wedi derbyn cymeradwyaeth Duw. 31 Ac edrycha! byddi di’n beichiogi ac yn rhoi genedigaeth i fab, ac rwyt ti am ei alw’n Iesu. 32 Fe fydd ef yn fawr ac yn cael ei alw’n Fab y Goruchaf, a bydd Jehofa Dduw yn rhoi iddo orsedd Dafydd ei dad, 33 ac fe fydd yn rheoli fel Brenin dros dŷ Jacob am byth, a fydd ’na ddim terfyn ar ei Deyrnas.”
34 Ond dyma Mair yn dweud wrth yr angel: “Sut gall hynny ddigwydd, oherwydd dydw i ddim yn cael cyfathrach rywiol â dyn?” 35 Atebodd yr angel: “Bydd yr ysbryd glân yn dod arnat ti, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi di. Ac am y rheswm hwnnw bydd yr un sy’n cael ei eni yn cael ei alw’n sanctaidd, Mab Duw. 36 Ac edrycha! mae Elisabeth, sy’n perthyn iti, hefyd yn feichiog ers chwe mis, a hithau mewn oed, y ddynes* roedd pobl yn ei galw’n ddiffrwyth; 37 oherwydd ni fydd unrhyw beth* yn amhosib i Dduw.” 38 Yna dywedodd Mair: “Edrycha! Caethferch Jehofa ydw i! Gad i beth rwyt ti wedi ei ddweud ddigwydd i mi.” Ar hynny, gwnaeth yr angel ei gadael hi.
39 Felly, yn y dyddiau hynny, teithiodd Mair ar frys i’r ardal fynyddig, i ddinas yn Jwda, 40 ac aeth hi i mewn i gartref Sechareia a chyfarch Elisabeth. 41 Wel, wrth i Elisabeth glywed cyfarchiad Mair, dyma’r baban yn y groth yn neidio, a chafodd Elisabeth ei llenwi â’r ysbryd glân 42 a gwaeddodd hi’n uchel: “Rwyt ti wedi cael dy fendithio’n fwy nag unrhyw ddynes* arall, ac mae ffrwyth dy groth wedi ei fendithio hefyd! 43 Felly sut rydw i wedi cael y fraint hon o gael mam fy Arglwydd yn dod ata i? 44 Oherwydd edrycha! wrth i sŵn dy gyfarchiad gyrraedd fy nghlustiau, gwnaeth y baban yn fy nghroth neidio o lawenydd. 45 Hefyd, hapus yw’r ddynes* a wnaeth gredu, oherwydd bydd y pethau a gafodd eu dweud wrthi hi oddi wrth Jehofa yn cael eu cyflawni’n llwyr.”
46 A dywedodd Mair: “Mae fy holl enaid* yn moli Jehofa, 47 ac mae fy ysbryd yn llawn llawenydd oherwydd Duw, fy Achubwr, 48 oherwydd mae ef wedi edrych ar ei gaethferch, er ei bod hi o blith y bobl gyffredin. Edrycha! o hyn ymlaen bydd pob cenhedlaeth yn dweud fy mod i’n hapus, 49 oherwydd bod yr Un nerthol wedi gwneud pethau mawr ar fy nghyfer i, ac mae ei enw yn sanctaidd, 50 ac o genhedlaeth i genhedlaeth mae ei drugaredd ar y rhai sy’n ei ofni. 51 Mae ef wedi gweithredu’n rymus â’i fraich; mae wedi gwasgaru’r rhai sy’n falch ym mwriadau eu calonnau. 52 Mae wedi tynnu dynion pwerus i lawr oddi ar eu gorseddau ac wedi dyrchafu pobl o dras isel; 53 mae wedi bodloni’n llwyr y rhai llwglyd â phethau da ac wedi anfon y rhai cyfoethog i ffwrdd heb ddim byd. 54 Mae wedi helpu Israel ei was, gan gofio ei drugaredd, 55 yn union fel y siaradodd ef â’n cyndadau, ag Abraham ac â’i ddisgynyddion,* am byth.” 56 Arhosodd Mair gyda hi am tua thri mis ac yna aeth hi yn ôl i’w chartref ei hun.
57 Nawr daeth yr amser i Elisabeth eni’r plentyn, a rhoddodd enedigaeth i fab. 58 A gwnaeth y cymdogion a’i pherthnasau glywed bod Jehofa wedi dangos trugaredd mawr tuag ati hi, a dyma nhw’n llawenhau gyda hi. 59 Ar yr wythfed dydd daethon nhw i enwaedu’r plentyn bach, ac roedden nhw am ei enwi ar ôl ei dad, Sechareia. 60 Ond atebodd ei fam: “Na! Ioan fydd ei enw.” 61 Ar hynny dywedon nhw wrthi hi: “Does gan yr un o dy berthnasau yr enw hwnnw.” 62 Yna, drwy wneud arwyddion â’u dwylo, dyma nhw’n gofyn i’w dad beth roedd ef eisiau i’w fab gael ei alw. 63 Felly gofynnodd am dabled bren ac ysgrifennodd: “Ioan ydy ei enw.” Ar hynny roedden nhw i gyd yn syfrdan. 64 Ar unwaith dyma ei geg yn cael ei hagor a’i dafod yn cael ei ryddhau a dechreuodd siarad, gan ogoneddu Duw. 65 A daeth ofn mawr ar bawb a oedd yn byw yn eu hardal, a dechreuodd pobl siarad am yr holl bethau hyn drwy gydol ardal fynyddig Jwdea. 66 A gwnaeth pawb a glywodd hyn nodi’r peth yn eu calonnau, gan ddweud: “Beth fydd y plentyn hwn yn ei wneud pan fydd ef wedi tyfu i fyny?” Oherwydd roedd llaw Jehofa yn bendant gydag ef.
67 Wedyn cafodd Sechareia ei dad ei lenwi â’r ysbryd glân, a gwnaeth ef broffwydo, gan ddweud: 68 “Gadewch i Jehofa gael ei ogoneddu, Duw Israel, oherwydd ei fod wedi rhoi ei sylw i’w bobl a’u rhyddhau nhw. 69 Ac mae ef wedi codi achubwr nerthol* inni yn nhŷ Dafydd ei was, 70 yn union fel mae ef wedi siarad drwy geg ei broffwydi sanctaidd ers amser maith yn ôl, 71 am achubiaeth rhag ein gelynion a rhag llaw yr holl rai sy’n ein casáu ni. 72 Bydd Duw yn drugarog wrthon ni yn unol â’i addewid i’n cyndadau a bydd ef yn cofio ei gyfamod sanctaidd, 73 y llw a wnaeth ef gydag Abraham ein cyndad, 74 i roi inni, ar ôl inni gael ein hachub rhag dwylo ein gelynion, y fraint o’i wasanaethu’n ddi-ofn 75 gyda ffyddlondeb a chyfiawnder o’i flaen, holl ddyddiau ein bywyd. 76 Ond byddi di, blentyn bach, yn cael dy alw’n broffwyd i’r Goruchaf, oherwydd byddi di’n mynd o flaen Jehofa i baratoi ei ffyrdd, 77 i roi gwybodaeth am achubiaeth i’w bobl drwy faddeuant o’u pechodau, 78 oherwydd tosturi tyner ein Duw. Bydd y tosturi hwn o’r nef yn goleuo droston ni fel yr haul yn codi, 79 i roi goleuni i’r rhai sy’n eistedd yn y tywyllwch ac yng nghysgod marwolaeth ac i arwain ein traed ar hyd ffordd heddwch.”
80 A gwnaeth y plentyn bach dyfu i fyny a dod yn gryf yn ei ysbryd, ac roedd yn byw yn yr anialwch nes i’r amser ddod iddo bregethu i bobl Israel.