LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 19
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Angylion yn ymweld â Lot (1-11)

      • Ymbil ar Lot a’i deulu i adael (12-22)

      • Dinistrio Sodom a Gomorra (23-29)

        • Gwraig Lot yn troi’n golofn o halen (26)

      • Lot a’i ferched (30-38)

        • Tarddiad Moab ac Ammon (37, 38)

Genesis 19:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “pwyso’n drwm.”

Genesis 19:16

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    4/2020, t. 18

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2017, t. 10

Genesis 19:22

Troednodiadau

  • *

    Sy’n golygu “Bychander; Bach.”

Genesis 19:32

Troednodiadau

  • *

    Neu “er mwyn diogelu llinach ein tad.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
  • 34
  • 35
  • 36
  • 37
  • 38
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 19:1-38

Genesis

19 Cyrhaeddodd y ddau angel Sodom gyda’r hwyr, ac roedd Lot yn eistedd ym mhorth Sodom. Pan wnaeth Lot eu gweld nhw, fe gododd i’w cyfarfod nhw a phlygu i lawr gyda’i wyneb tua’r ddaear. 2 Ac fe ddywedodd: “Plîs, fy arglwyddi, dewch, plîs, i dŷ eich gwas ac arhoswch dros nos a gadewch i rywun olchi eich traed. Yna codwch yn gynnar ac ewch ar eich taith.” Atebon nhw: “Na, rydyn ni’n mynd i aros dros nos yn y sgwâr cyhoeddus.” 3 Ond gan ei fod yn erfyn yn daer arnyn nhw fe aethon nhw gydag ef i mewn i’w dŷ. Yna fe wnaeth wledd iddyn nhw, a phobi bara croyw, a dyma nhw’n bwyta.

4 Ond cyn iddyn nhw orwedd i lawr i gysgu, gwnaeth dynion y ddinas—dynion Sodom, hen ac ifanc, pawb ohonyn nhw—amgylchynu’r tŷ yn un dyrfa swnllyd. 5 Ac roedden nhw’n dal i alw ar Lot gan ddweud wrtho: “Ble mae’r dynion a ddaeth i mewn i dy dŷ heno? Tyrd â nhw allan er mwyn inni fedru cael rhyw gyda nhw.”

6 Yna aeth Lot allan atyn nhw i’r drws, a chau’r drws y tu ôl iddo. 7 Fe ddywedodd: “Plîs, fy mrodyr, peidiwch â gwneud rhywbeth mor ddrwg. 8 Plîs, edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cael cyfathrach rywiol â dyn. Plîs, gadewch imi ddod â nhw allan atoch chi er mwyn ichi fedru gwneud iddyn nhw fel rydych chi’n dymuno. Ond peidiwch â gwneud dim i’r dynion hyn, oherwydd eu bod nhw wedi dod o dan gysgod fy nho.” 9 Ond medden nhw: “Dos allan o’r ffordd!” Ac fe ychwanegon nhw: “Mae’r dieithryn unig hwn wedi dod yma i fyw, ac eto mae’n meiddio ein beirniadu ni! Nawr rydyn ni’n mynd i wneud yn waeth i ti nag iddyn nhw.” A dyma nhw’n gwthio* yn erbyn Lot a symud yn eu blaenau i dorri’r drws i lawr. 10 Felly gwnaeth y dynion a oedd y tu mewn i’r tŷ estyn eu dwylo a thynnu Lot i mewn i’r tŷ gyda nhw, a chau’r drws. 11 Ond fe wnaethon nhw daro’r dynion a oedd wrth ddrws y tŷ yn ddall, yr hen a’r ifanc, nes iddyn nhw flino’n lân yn ceisio chwilio am y drws.

12 Yna dywedodd y dynion wrth Lot: “Oes gen ti unrhyw un arall yma? Dos â dy feibion-yng-nghyfraith, dy feibion, dy ferched, ac unrhyw deulu arall yn y ddinas allan o’r lle hwn! 13 Oherwydd rydyn ni’n mynd i ddinistrio’r lle hwn, gan fod y gŵyn yn eu herbyn nhw yn wir yn fawr iawn gerbron Jehofa, fel bod Jehofa wedi ein hanfon ni i ddinistrio’r ddinas.” 14 Felly aeth Lot allan a dechrau siarad â’i feibion-yng-nghyfraith a oedd am briodi ei ferched, ac roedd yn dal i ddweud: “Codwch! Ewch allan o’r lle hwn, oherwydd bod Jehofa yn mynd i ddinistrio’r ddinas!” Ond roedd ei feibion-yng-nghyfraith yn meddwl ei fod yn tynnu coes.

15 Ar doriad gwawr, gwnaeth yr angylion geisio gwneud i Lot frysio, gan ddweud: “Cod! Dos â dy wraig a dy ddwy ferch sydd gyda ti yn y tŷ, rhag ofn ichi gael eich ysgubo i ffwrdd pan fydd y ddinas yn cael ei dinistrio o ganlyniad i’w phechod!” 16 Pan oedd yn dal i oedi, dangosodd Jehofa drugaredd tuag ato, felly cydiodd y dynion yn ei law ac yn llaw ei wraig ac yn nwylo ei ferched, a mynd â nhw a’u gosod y tu allan i’r ddinas. 17 Unwaith iddyn nhw fynd â nhw y tu allan i’r ddinas, dywedodd un ohonyn nhw: “Dianc am dy fywyd! Paid ag edrych y tu ôl iti a phaid â sefyll yn stond yn unrhyw le yn y rhanbarth! Dianc i’r mynyddoedd fel na fyddi di’n cael dy ysgubo i ffwrdd!”

18 Yna dywedodd Lot wrthyn nhw: “Nid i fan ’na, plîs, Jehofa! 19 Plîs, mae dy was wedi ennill ffafr yn dy olwg ac rwyt ti’n garedig iawn tuag ata i drwy fy nghadw i’n fyw, ond dydw i ddim yn gallu dianc i’r mynyddoedd oherwydd fy mod i’n ofni y bydd trychineb yn dod arna i a bydda i’n marw. 20 Plîs, mae’r dref hon yn agos ac fe fedra i ddianc yno; mae ond yn lle bach. Ga i, plîs, ddianc yno? Mae ond yn lle bach. Yna fe alla i oroesi.” 21 Felly dywedodd yntau wrtho: “O’r gorau, fe wna i ganiatáu’r hyn rwyt ti’n gofyn amdano drwy beidio â dinistrio’r dref rwyt ti’n siarad amdani. 22 Brysia! Dianc yno, oherwydd dydw i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth nes dy fod ti wedi cyrraedd yno!” Dyna pam y rhoddodd yr enw Soar* ar y dref.

23 Roedd yr haul wedi codi dros y tir pan wnaeth Lot gyrraedd Soar. 24 Yna achosodd Jehofa iddi fwrw sylffwr a thân ar Sodom a Gomorra—fe ddaeth o Jehofa, o’r nefoedd. 25 Felly dinistriodd y dinasoedd hyn, y rhanbarth cyfan, gan gynnwys holl drigolion y dinasoedd a phlanhigion y tir. 26 Ond gwnaeth gwraig Lot, a oedd y tu ôl iddo, ddechrau edrych yn ôl, ac fe ddaeth hi’n golofn o halen.

27 Nawr cododd Abraham yn gynnar yn y bore a mynd i’r fan lle roedd wedi sefyll o flaen Jehofa. 28 Pan edrychodd i lawr ar Sodom a Gomorra a holl dir y rhanbarth, fe welodd olygfa ddychrynllyd. Roedd mwg trwchus yn codi o’r tir fel mwg trwchus o ffwrnais! 29 Felly pan ddinistriodd Duw holl ddinasoedd y rhanbarth, gwnaeth Duw gadw Abraham mewn cof drwy anfon Lot allan o’r dinasoedd y gwnaeth ef eu dinistrio, y dinasoedd lle roedd Lot wedi bod yn byw.

30 Yn ddiweddarach aeth Lot i fyny o Soar gyda’i ddwy ferch a dechrau byw yn yr ardal fynyddig, oherwydd ei fod yn ofni byw yn Soar. Felly dechreuodd fyw mewn ogof gyda’i ddwy ferch. 31 A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf: “Mae ein tad yn hen, a does ’na ddim un dyn yn y wlad i roi plant inni fel mae pobl eraill yn gwneud. 32 Tyrd, gad inni roi gwin i’n tad i’w yfed, a chysgu gydag ef er mwyn inni gael plant drwyddo.”*

33 Felly, y noson honno dyma nhw’n dechrau rhoi gwin i’w tad nes iddo feddwi; yna aeth yr hynaf i mewn ato a chysgu gyda’i thad, ond doedd ef ddim yn gwybod pryd gwnaeth hi orwedd i lawr a phryd gwnaeth hi godi. 34 Y diwrnod wedyn, dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf: “Gwnes i gysgu gyda fy nhad neithiwr. Gad inni roi gwin iddo i’w yfed heno hefyd. Yna dos di i mewn a chysgu gydag ef, a gad inni gael plant drwyddo.” 35 Felly, y noson honno hefyd gwnaethon nhw roi llawer o win i’w tad i’w yfed; yna aeth yr ieuengaf i mewn i gysgu gydag ef, ond doedd ef ddim yn gwybod pryd gwnaeth hi orwedd i lawr a phryd gwnaeth hi godi. 36 Felly daeth dwy ferch Lot yn feichiog drwy eu tad. 37 Cafodd yr hynaf fab a’i alw’n Moab. Ef yw tad y Moabiaid heddiw. 38 Cafodd yr ieuengaf fab hefyd, a’i alw’n Ben-ammi. Ef yw tad yr Ammoniaid heddiw.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu