Ail Cronicl
24 Roedd Jehoas yn saith mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 40 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Sibia o Beer-seba. 2 Parhaodd Jehoas i wneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad. 3 Dewisodd Jehoiada ddwy wraig ar ei gyfer, a daeth yn dad i feibion a merched.
4 Ar ôl hynny, roedd Jehoas yn dymuno yn ei galon i adnewyddu tŷ Jehofa. 5 Felly casglodd yr offeiriaid a’r Lefiaid at ei gilydd a dweud wrthyn nhw: “Ewch allan i ddinasoedd Jwda a chasglwch arian o Israel gyfan er mwyn atgyweirio tŷ eich Duw bob blwyddyn; a dylech chi weithredu’n gyflym yn hyn o beth.” Ond ni wnaeth y Lefiaid weithredu’n gyflym. 6 Felly dyma’r brenin yn galw Jehoiada y pennaeth ato ac yn dweud wrtho: “Pam nad wyt ti wedi mynnu bod y Lefiaid yn dod â’r dreth sanctaidd i mewn o Jwda a Jerwsalem, y dreth sanctaidd gwnaeth Moses, gwas Jehofa, orchymyn i gynulleidfa Israel ei thalu ar gyfer pabell y Dystiolaeth? 7 Roedd meibion Athaleia, y ddynes* ddrygionus honno, wedi torri i mewn i dŷ’r gwir Dduw, ac wedi defnyddio holl bethau sanctaidd tŷ Jehofa ar gyfer addoli’r duwiau Baal.” 8 Yna, ar orchymyn y brenin, cafodd cist ei gwneud a’i rhoi y tu allan i giât tŷ Jehofa. 9 Ar ôl hynny, cafodd cyhoeddiad ei wneud drwy Jwda a Jerwsalem i roi i Jehofa y dreth sanctaidd roedd Moses, gwas y gwir Dduw, wedi ei gosod ar Israel yn yr anialwch. 10 Dyma’r tywysogion a’r bobl i gyd yn llawenhau ac yn parhau i ddod â chyfraniadau a’u rhoi nhw yn y gist nes ei bod yn llawn.*
11 Bryd bynnag roedd y Lefiaid yn dod â’r gist i mewn i’w rhoi i’r brenin ac yn gweld bod ’na lawer iawn o arian ynddi, byddai ysgrifennydd y brenin a chomisiynydd y prif offeiriad yn dod ac yn gwagio’r gist, ac yna’n mynd â hi yn ôl i’w lle. Dyna beth bydden nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd, a bydden nhw’n casglu digonedd o arian. 12 Yna byddai’r brenin a Jehoiada yn rhoi’r arian i’r rhai a oedd yn goruchwylio’r gwaith ar dŷ Jehofa, a bydden nhw’n cyflogi’r naddwyr cerrig a’r crefftwyr er mwyn adnewyddu tŷ Jehofa, a hefyd y rhai a oedd yn gweithio gyda haearn a chopr er mwyn atgyweirio tŷ Jehofa. 13 Ac aeth y goruchwylwyr ati i gychwyn y gwaith, ac aeth y gwaith atgyweirio yn ei flaen o dan eu gofal, a gwnaethon nhw adfer tŷ’r gwir Dduw yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol a’i atgyfnerthu. 14 Ac unwaith iddyn nhw orffen, daethon nhw â’r arian a oedd yn weddill at y brenin a Jehoiada a’i ddefnyddio i wneud offer ar gyfer tŷ Jehofa, llestri ar gyfer gwasanaethu ac ar gyfer gwneud offrymau, a chwpanau a llestri o aur ac arian. A bydden nhw’n offrymu aberthau llosg yn nhŷ Jehofa yn rheolaidd, holl ddyddiau Jehoiada.
15 Ar ôl i Jehoiada fwynhau bywyd hir, bu farw; roedd yn 130 mlwydd oed pan fu farw. 16 Felly cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd, am ei fod wedi gwneud cymaint o bethau da yn Israel ar ran y gwir Dduw a’i dŷ.
17 Ar ôl i Jehoiada farw, daeth tywysogion Jwda at y brenin ac ymgrymu o’i flaen, a gwrandawodd y brenin arnyn nhw. 18 Gwnaethon nhw gefnu ar dŷ Jehofa, Duw eu cyndadau, a dechrau gwasanaethu’r polion cysegredig a’r eilunod, felly daeth dicter Duw yn erbyn Jwda a Jerwsalem oherwydd eu pechod. 19 Parhaodd Jehofa i anfon proffwydi yn eu mysg i ddod â nhw yn ôl ato. Roedd y proffwydi yn parhau i’w rhybuddio* nhw, ond roedden nhw’n gwrthod gwrando.
20 Daeth ysbryd Duw ar Sechareia fab Jehoiada yr offeiriad, a safodd uwchben y bobl a dweud wrthyn nhw: “Dyma beth mae’r gwir Dduw yn ei ddweud, ‘Pam rydych chi’n torri gorchmynion Jehofa? Fyddwch chi ddim yn llwyddo! Am eich bod chi wedi cefnu ar Jehofa, bydd ef, yn ei dro, yn cefnu arnoch chi.’” 21 Ond dyma nhw’n cynllwynio yn ei erbyn ac yn ei labyddio i farwolaeth ar orchymyn y brenin yng nghwrt tŷ Jehofa. 22 Felly ni wnaeth y Brenin Jehoas gofio’r cariad ffyddlon roedd ei dad* Jehoiada wedi ei ddangos tuag ato. Lladdodd ef Sechareia fab Jehoiada, a ddywedodd wrth iddo farw: “Gad i Jehofa ddial arnat ti am beth rwyt ti wedi ei wneud.”
23 Ar ddechrau’r flwyddyn, daeth byddin Syria yn erbyn Jehoas ac ymosod ar Jwda a Jerwsalem. Yna dyma nhw’n lladd holl dywysogion y bobl, ac yn anfon eu holl ysbail at frenin Damascus. 24 Er bod byddin Syria yn fechan, rhoddodd Jehofa fyddin enfawr pobl Jwda yn eu dwylo, am eu bod nhw wedi cefnu ar Jehofa, Duw eu cyndadau; felly dyma’r Syriaid yn dod â barn ar Jehoas. 25 A phan wnaethon nhw gilio’n ôl oddi wrtho (oherwydd cafodd ei anafu’n ddifrifol ganddyn nhw), cynllwyniodd ei weision ei hun yn ei erbyn am ei fod wedi tywallt* gwaed meibion* Jehoiada yr offeiriad. Gwnaethon nhw ei ladd ar ei wely ei hun. Felly bu farw, a chafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau’r brenhinoedd.
26 Dyma’r rhai a wnaeth gynllwynio yn ei erbyn: Sabad, mab Simeath yr Ammones, a Jehosabad, mab Simrith y Foabes. 27 Ynglŷn â hanes ei feibion, yr holl rybuddion yn ei erbyn, ac adnewyddiad tŷ’r gwir Dduw, mae’r holl bethau hyn wedi eu cofnodi yn ysgrifau Llyfr y Brenhinoedd. A daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.