LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 21
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Nef newydd a daear newydd (1-8)

        • Dim marwolaeth mwyach (4)

        • Gwneud pob peth yn newydd (5)

      • Disgrifio Jerwsalem Newydd (9-27)

Datguddiad 21:1

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2023, t. 4

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    12/2019, t. 6

Datguddiad 21:2

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 145

Datguddiad 21:3

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 145

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 26

    “Wele!,” tt. 29-30

Datguddiad 21:4

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 157

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 2

    “Wele!,” tt. 29-30

Datguddiad 21:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn ddibynadwy.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2023, tt. 3-4

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    12/2019, t. 6

Datguddiad 21:6

Troednodiadau

  • *

    Alffa ac Omega ydy’r llythyren gyntaf a’r olaf o’r wyddor Roeg.

  • *

    Neu “heb gost.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2023, tt. 3, 5-7

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthyglau 125, 142

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2016, tt. 21-22

Datguddiad 21:8

Troednodiadau

  • *

    Gweler Geirfa, “Anfoesoldeb rhywiol.”

Datguddiad 21:9

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 145

Datguddiad 21:10

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 145

Datguddiad 21:16

Troednodiadau

  • *

    Tua 2,220 km (1,379 mi). Roedd stadiwm yn gyfartal â 185 m (606.95 tr).

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 145

Datguddiad 21:17

Troednodiadau

  • *

    Tua 64 m (210 tr).

Datguddiad 21:22

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2022, t. 18

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 21:1-27

Datguddiad i Ioan

21 Ac fe welais nef newydd a daear newydd; oherwydd roedd yr hen nef a’r hen ddaear wedi diflannu, a dydy’r môr ddim yn bodoli mwyach. 2 Fe welais hefyd y ddinas sanctaidd, Jerwsalem Newydd, yn dod i lawr o’r nef oddi wrth Dduw ac wedi ei pharatoi fel priodferch a oedd wedi cael ei haddurno ar gyfer ei gŵr. 3 Gyda hynny, fe glywais lais uchel o’r orsedd yn dweud: “Edrychwch! Mae pabell Duw gyda dynolryw, a bydd ef yn byw gyda nhw, a byddan nhw’n bobl iddo ef. A bydd Duw ei hun gyda nhw. 4 A bydd ef yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw, ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach. Mae’r hen bethau wedi diflannu.”

5 A dywedodd yr Un a oedd yn eistedd ar yr orsedd: “Edrychwch! Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.” Dywedodd hefyd: “Ysgrifenna, oherwydd mae’r geiriau hyn yn ffyddlon* ac yn wir.” 6 A dywedodd wrtho i: “Maen nhw eisoes wedi digwydd! Fi ydy’r Alffa a’r Omega,* y dechrau a’r diwedd. I bwy bynnag sy’n sychedig fe fydda i’n rhoi dŵr am ddim* o ffynnon dŵr y bywyd. 7 Bydd unrhyw un sy’n concro yn etifeddu’r pethau hyn, a bydda i’n Dduw iddo ef a bydd yntau’n fab i mi. 8 Ond o ran y rhai llwfr a’r rhai heb ffydd a’r rhai sy’n ffiaidd yn eu budreddi a llofruddion a’r rhai sy’n anfoesol yn rhywiol* a’r rhai sy’n arfer ysbrydegaeth ac addolwyr eilunod a’r holl rai celwyddog, mae’r llyn sy’n llosgi â thân a sylffwr yn disgwyl amdanyn nhw. Mae hyn yn golygu’r ail farwolaeth.”

9 Daeth un o’r saith angel a oedd â’r saith powlen yn llawn o’r saith pla diwethaf a dweud wrtho i: “Tyrd, ac fe wna i ddangos iti’r briodferch, gwraig yr Oen.” 10 Felly fe wnaeth fy nghario i ffwrdd yng ngrym yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi’r ddinas sanctaidd Jerwsalem yn dod i lawr o’r nef oddi wrth Dduw 11 ac roedd gogoniant Duw ganddi. Roedd yn disgleirio fel gem hynod o werthfawr, fel gem iasbis yn disgleirio fel grisial clir. 12 Roedd ganddi wal fawr ac uchel a 12 giât a 12 angel wrth y giatiau, ac ar y giatiau roedd enwau 12 llwyth meibion Israel wedi cael eu hysgrifennu. 13 Roedd ’na dair giât i’r dwyrain, tair giât i’r gogledd, tair giât i’r de, a thair giât i’r gorllewin. 14 Hefyd, roedd gan wal y ddinas 12 carreg sylfaen, ac arnyn nhw roedd 12 enw 12 apostol yr Oen.

15 Nawr roedd yr un a oedd yn siarad â mi yn dal corsen aur er mwyn mesur y ddinas a’i giatiau a’i wal. 16 Ac mae’r ddinas wedi ei gosod yn sgwâr, a’i hyd yn gyfartal â’i lled. Ac fe mesurodd y ddinas â’r gorsen, 12,000 stadiwm;* mae ei hyd a’i lled a’i huchder yn gyfartal. 17 Mesurodd hefyd ei wal, 144 cufydd* yn ôl mesur dyn, sydd yr un fath â mesur angel. 18 Nawr roedd y wal wedi ei gwneud o iasbis, a’r ddinas yn aur pur fel gwydr clir. 19 Roedd sylfeini wal y ddinas wedi eu haddurno â phob math o emau gwerthfawr: y sylfaen gyntaf oedd iasbis, yr ail saffir, y drydedd calsedon, y bedwaredd emrallt, 20 y bumed sardonics, y chweched sardion, y seithfed eurfaen, yr wythfed beryl, y nawfed topas, y ddegfed crysopras, yr unfed a’r ddeg hiasinth, y ddeuddegfed amethyst. 21 Hefyd, 12 perl oedd y 12 giât; pob un o’r giatiau wedi ei wneud o un perl. Ac roedd prif stryd y ddinas yn aur pur, fel gwydr tryloyw.

22 Welais i ddim teml ynddi, oherwydd Jehofa Dduw yr Hollalluog ydy ei theml, hefyd yr Oen ydy ei theml. 23 A does dim rhaid i’r haul nac i’r lleuad dywynnu arni, oherwydd bod gogoniant Duw wedi ei goleuo hi, a’i lamp oedd yr Oen. 24 A bydd y cenhedloedd yn cerdded yn ei goleuni, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â’u gogoniant i mewn iddi. 25 Ni fydd ei giatiau yn cael eu cau o gwbl yn ystod y dydd, oherwydd ni fydd nos yn bodoli yno. 26 A byddan nhw’n dod â gogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd i mewn iddi. 27 Ond ni fydd dim byd amhur ac ni fydd neb sy’n gwneud yr hyn sy’n ffiaidd ac sy’n dwyllodrus yn cael mynd i mewn iddi; dim ond y rhai sydd â’u henwau wedi eu hysgrifennu yn sgrôl bywyd yr Oen sy’n cael mynd i mewn.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu