LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 2
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Negeseuon i Effesus (1-7), i Smyrna (8-11), i Pergamus (12-17), i Thyatira (18-29)

Datguddiad 2:1

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    11/2019, t. 5

Datguddiad 2:3

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2022, t. 3

Datguddiad 2:4

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2022, t. 3

Datguddiad 2:8

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 142

Datguddiad 2:14

Troednodiadau

  • *

    Gweler Geirfa.

Datguddiad 2:20

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

  • *

    Gweler Geirfa.

Datguddiad 2:21

Troednodiadau

  • *

    Groeg, porneia. Gweler Geirfa.

Datguddiad 2:23

Troednodiadau

  • *

    Neu “emosiynau.” Llyth., “arennau.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 2:1-29

Datguddiad i Ioan

2 “Ysgrifenna hyn at angel y gynulleidfa yn Effesus: Dyma beth mae’r un yn dweud sy’n dal y saith seren yn ei law dde ac sy’n cerdded ymhlith y saith canhwyllbren aur: 2 ‘Rydw i’n gwybod am dy weithredoedd, ac am dy lafur a dy ddyfalbarhad, ac rydw i’n gwybod nad wyt ti’n gallu goddef dynion drwg, a dy fod ti’n rhoi ar brawf y rhai sy’n dweud eu bod nhw’n apostolion, ond dydyn nhw ddim, a gwnest ti weld eu bod nhw’n gelwyddog. 3 Rwyt ti hefyd yn dangos dyfalbarhad, ac rwyt ti wedi dal ati er mwyn fy enw i heb flino. 4 Er hynny, mae gen i hyn yn dy erbyn di, dy fod ti wedi colli’r cariad a oedd gen ti ar y cychwyn.

5 “‘Felly cofia o le rwyt ti wedi syrthio, ac edifarha a gwna beth roeddet ti’n ei wneud ar y cychwyn. Os nad wyt ti, fe fydda i’n dod atat ti, a bydda i’n cymryd dy ganhwyllbren o’i le, oni bai dy fod ti’n edifarhau. 6 Ond eto, mae hyn o dy blaid di: dy fod ti’n casáu gweithredoedd sect Nicolaus, fel rydw innau. 7 Dylai’r un sydd â chlust glywed beth mae’r ysbryd yn ei ddweud wrth y cynulleidfaoedd. Bydda i’n caniatáu i’r un sy’n concro fwyta o goeden y bywyd, sydd ym mharadwys Duw.’

8 “Ac ysgrifenna hyn at angel y gynulleidfa yn Smyrna: Dyma beth mae’n ei ddweud, ‘y Cyntaf a’r Olaf,’ a wnaeth farw a dod yn ôl yn fyw: 9 ‘Rydw i’n gwybod am dy ddioddefaint a dy dlodi—ond rwyt ti’n gyfoethog—ac am y cabledd gan y rhai sy’n eu galw eu hunain yn Iddewon a dydyn nhw ddim mewn gwirionedd, ond synagog Satan ydyn nhw. 10 Paid ag ofni’r pethau rwyt ti ar fin eu dioddef. Edrycha! Bydd y Diafol yn parhau i daflu rhai ohonoch chi i mewn i’r carchar er mwyn ichi gael eich profi’n llawn, a byddwch chi’n dioddef am ddeg diwrnod. Dangosa dy fod ti’n ffyddlon hyd yn oed at farwolaeth, a bydda i’n rhoi coron y bywyd iti. 11 Dylai’r un sydd â chlust glywed beth mae’r ysbryd yn ei ddweud wrth y cynulleidfaoedd: Ni fydd yr un sy’n concro yn cael ei niweidio ar unrhyw gyfri gan yr ail farwolaeth.’

12 “Ysgrifenna hyn at angel y gynulleidfa yn Pergamus: Dyma beth mae’r un yn ei ddweud sydd â’r cleddyf llym, hir, daufiniog: 13 ‘Rydw i’n gwybod lle rwyt ti’n byw, hynny yw, lle mae gorsedd Satan; ac eto rwyt ti’n parhau i lynu wrth fy enw, ac ni wnest ti wadu dy ffydd yno i, hyd yn oed yn nyddiau Antipas, fy nhyst ffyddlon, a gafodd ei ladd wrth dy ochr, lle mae Satan yn byw.

14 “‘Er hynny, mae gen i ychydig o bethau yn dy erbyn di, fod gen ti rai yna sy’n dilyn dysgeidiaeth Balaam, a wnaeth ddysgu Balac i roi carreg rwystr o flaen meibion Israel, i fwyta pethau sydd wedi eu haberthu i eilunod ac i gyflawni anfoesoldeb rhywiol.* 15 Yn yr un modd, mae gen ti hefyd rai sy’n dilyn dysgeidiaeth sect Nicolaus. 16 Felly edifarha. Os nad wyt ti, bydda i’n dod atat ti’n gyflym, a bydda i’n rhyfela yn eu herbyn nhw gyda’r cleddyf hir sy’n dod allan o fy ngheg.

17 “‘Dylai’r un sydd â chlust glywed beth mae’r ysbryd yn ei ddweud wrth y cynulleidfaoedd. I’r un sy’n concro bydda i’n rhoi ychydig o’r manna sydd wedi ei guddio, a bydda i’n rhoi carreg wen iddo, ac ar y garreg mae enw newydd wedi cael ei ysgrifennu, enw does neb yn ei wybod heblaw am yr un sy’n ei dderbyn.’

18 “Ysgrifenna hyn at angel y gynulleidfa yn Thyatira: Dyma beth mae Mab Duw’n ei ddweud, yr un sydd â llygaid fel fflam dân a’i draed fel copr pur: 19 ‘Rydw i’n gwybod am dy weithredoedd, a dy gariad a dy ffydd a dy weinidogaeth a dy ddyfalbarhad, ac rydw i’n gwybod bod dy weithredoedd yn ddiweddar yn fwy na’r rhai a wnest ti ar y cychwyn.

20 “‘Er hynny, mae gen i hyn yn dy erbyn di, dy fod ti’n goddef y ddynes* honno, Jesebel, sy’n ei galw ei hun yn broffwydes, ac sy’n dysgu ac yn camarwain fy nghaethweision i gyflawni anfoesoldeb rhywiol* ac i fwyta pethau sydd wedi eu haberthu i eilunod. 21 A gwnes i roi amser iddi i edifarhau, ond dydy hi ddim yn fodlon edifarhau am ei hanfoesoldeb rhywiol.* 22 Edrycha! Rydw i ar fin ei tharo hi â salwch, a bydda i’n taflu’r rhai sy’n godinebu gyda hi i mewn i drychineb mawr, oni bai eu bod nhw’n edifarhau am ei gweithredoedd hi. 23 A bydda i’n lladd ei phlant â phla marwol, fel bydd yr holl gynulleidfaoedd yn gwybod mai fi ydy’r un sy’n chwilio’r meddyliau* mwyaf dwfn a’r calonnau, a bydda i’n rhoi ichi fel unigolion yn ôl eich gweithredoedd.

24 “‘Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrth y gweddill ohonoch chi sydd yn Thyatira, yr holl rai sydd ddim yn dilyn y ddysgeidiaeth hon, y rhai sydd ddim wedi dod i wybod am yr hyn sy’n cael ei alw “pethau dwfn Satan”: Dydw i ddim yn rhoi unrhyw faich arall arnoch chi. 25 Er hynny, glynwch wrth yr hyn sydd gynnoch chi nes imi ddod. 26 Ac i’r un sy’n concro ac sy’n cadw fy ngweithredoedd hyd at y diwedd, y bydda i’n rhoi awdurdod dros y cenhedloedd, 27 a bydd ef yn bugeilio’r bobl â gwialen haearn fel byddan nhw’n cael eu torri’n ddarnau fel llestri o glai, yn union fel rydw i wedi derbyn yr awdurdod gan fy Nhad. 28 A bydda i’n rhoi seren y bore iddo. 29 Dylai’r un sydd â chlust glywed beth mae’r ysbryd yn ei ddweud wrth y cynulleidfaoedd.’

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu