Datguddiad i Ioan
14 Yna, edrychwch! fe welais yr Oen yn sefyll ar Fynydd Seion, a 144,000 gydag ef sydd â’i enw ac enw ei Dad wedi eu hysgrifennu ar eu talcennau. 2 Clywais sŵn yn dod allan o’r nef yn debyg i sŵn llawer o ddyfroedd ac yn debyg i sŵn taranau mawr; ac roedd y sŵn a glywais yn debyg i gantorion yn canu eu telynau. 3 Ac maen nhw’n canu cân sy’n ymddangos yn gân newydd o flaen yr orsedd ac o flaen y pedwar creadur byw a’r henuriaid, a doedd neb yn gallu meistroli’r gân honno heblaw am y 144,000, sydd wedi cael eu prynu o’r ddaear. 4 Dyma’r rhai na wnaeth eu llygru eu hunain gyda merched;* yn wir, gwyryfon ydyn nhw. Dyma’r rhai sy’n dal ati i ddilyn yr Oen le bynnag mae’n mynd. Cafodd y rhain eu prynu o blith dynolryw fel blaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen, 5 a doedd ’na ddim twyll yn eu cegau; maen nhw heb nam.
6 Ac fe welais angel arall yn hedfan yng nghanol y nef,* ac roedd ganddo newyddion da tragwyddol i’w cyhoeddi i’r rhai sy’n byw ar y ddaear, i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl. 7 Roedd yn dweud â llais uchel: “Ofnwch Dduw a rhowch ogoniant iddo, oherwydd bod yr awr iddo farnu wedi dod, felly addolwch yr Un a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a’r ffynhonnau o ddŵr.”
8 A dyma ail angel yn dilyn, gan ddweud: “Mae hi wedi syrthio! Mae Babilon Fawr wedi syrthio, hi a wnaeth i’r holl genhedloedd yfed gwin ei chwant* am anfoesoldeb rhywiol!”*
9 Dyma drydydd angel yn eu dilyn nhw, gan ddweud â llais uchel: “Os oes rhywun yn addoli’r bwystfil gwyllt a’i ddelw ac yn derbyn marc ar ei dalcen neu ar ei law, 10 fe fydd hefyd yn yfed gwin pur dicter Duw sy’n cael ei dywallt* i mewn i gwpan Ei lid, ac fe fydd yn cael ei boenydio â thân a sylffwr yng ngolwg yr angylion sanctaidd ac yng ngolwg yr Oen. 11 Ac mae mwg eu poenydio yn codi am byth bythoedd, a ddydd a nos does ganddyn nhw ddim gorffwys, y rhai sy’n addoli’r bwystfil gwyllt a’i ddelw a phwy bynnag sy’n derbyn marc ei enw. 12 Dyma lle mae angen dyfalbarhad ar ran y rhai sanctaidd, y rhai sy’n cadw gorchmynion Duw ac sy’n glynu’n dynn wrth eu ffydd yn Iesu.”
13 A chlywais lais o’r nef yn dweud, “Ysgrifenna: Hapus ydy’r meirw sy’n marw mewn undod â’r Arglwydd o hyn ymlaen. Yn wir, meddai’r ysbryd, gad iddyn nhw orffwys o’u llafur, oherwydd fydd y pethau a wnaethon nhw ddim yn cael eu hanghofio.”*
14 Yna, edrychwch! fe welais gwmwl gwyn, ac yn eistedd ar y cwmwl roedd ’na rywun fel mab dyn, â choron aur ar ei ben a chryman miniog yn ei law.
15 Daeth angel arall allan o gysegr y deml, yn galw â llais uchel ar yr un a oedd yn eistedd ar y cwmwl: “Bwria dy gryman i mewn a medi, oherwydd mae’r awr wedi dod i fedi, gan fod cynhaeaf y ddaear wedi aeddfedu’n llwyr.” 16 A dyma’r un a oedd yn eistedd ar y cwmwl yn bwrw ei gryman i mewn i’r ddaear, a chafodd y ddaear ei medi.
17 A daeth angel arall allan o gysegr y deml sydd yn y nef, ac roedd ganddo yntau hefyd gryman miniog.
18 A daeth angel arall eto o’r allor, ac roedd ganddo awdurdod dros y tân. Ac fe waeddodd â llais uchel ar yr un oedd â’r cryman miniog, gan ddweud: “Bwria dy gryman i mewn a chasglu canghennau* gwinwydden y ddaear, oherwydd mae ei grawnwin wedi aeddfedu.” 19 Gwnaeth yr angel fwrw ei gryman i mewn i’r ddaear a chasglu gwinwydden y ddaear, a’i lluchio hi i mewn i’r cafn mawr ar gyfer gwasgu grawnwin sy’n cynrychioli dicter Duw. 20 Cafodd y cafn ei sathru y tu allan i’r ddinas, a daeth gwaed allan o’r cafn hyd at ffrwynau’r ceffylau am 1,600 stadiwm.*