Barnwyr
8 Yna dywedodd dynion Effraim wrtho: “Beth rwyt ti wedi ei wneud inni? Pam na wnest ti ein galw ni pan est ti i frwydro yn erbyn Midian?” A dyma nhw’n dadlau’n ffyrnig ag ef. 2 Ond dywedodd wrthyn nhw: “Beth rydw i wedi ei wneud o’i gymharu â chi? Onid ydy’r grawnwin sy’n weddill ar ôl y cynhaeaf yn Effraim yn well na holl gynhaeaf grawnwin Abieser? 3 Rhoddodd Duw dywysogion Midian, Oreb a Seeb, yn eich dwylo chi, a beth rydw i wedi ei wneud o’i gymharu â chi?” Pan siaradodd fel hyn, tawelodd eu tymer.
4 Yna, daeth Gideon at yr Iorddonen a’i chroesi. Roedd ef a’r 300 o ddynion gydag ef wedi blino, ond gwnaethon nhw barhau i fynd ar ôl eu gelynion. 5 Felly dywedodd ef wrth ddynion Succoth: “Plîs rhowch dorthau o fara i’r bobl sy’n fy nilyn i, oherwydd maen nhw wedi blino, ac rydw i’n mynd ar ôl Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian.” 6 Ond dywedodd tywysogion Succoth: “Pam mae’n rhaid inni roi bara i dy fyddin? Ydy Seba a Salmunna eisoes yn dy ddwylo?” 7 Gyda hynny dywedodd Gideon: “Am eich bod chi wedi dweud hynny, bydda i’n eich chwipio chi â drain a mieri yr anialwch pan fydd Jehofa yn rhoi Seba a Salmunna yn fy nwylo.” 8 Ac aeth i fyny o fan ’na i Penuel, a gofyn yr un peth. Ond rhoddodd dynion Penuel yr un ateb iddo ag y gwnaeth dynion Succoth. 9 Felly dywedodd hefyd wrth ddynion Penuel: “Pan fydda i’n dod yn ôl yn fuddugol, bydda i’n tynnu’r tŵr hwn i lawr.”
10 Nawr roedd Seba a Salmunna yn Carcor gyda’u byddinoedd, tua 15,000 o ddynion. Dyma’r oll oedd ar ôl o fyddin gyfan pobl y dwyrain, oherwydd roedd 120,000 o ddynion a oedd wedi eu harfogi â chleddyfau wedi syrthio. 11 Aeth Gideon yn ei flaen ar hyd y ffordd sydd i’r dwyrain o Noba a Jogbeha, y ffordd roedd pobl oedd yn byw mewn pebyll yn ei defnyddio. Ac yna, ymosododd ar wersyll y gelyn pan nad oedden nhw’n ei ddisgwyl. 12 Pan wnaeth Seba a Salmunna ffoi, aeth Gideon ar ôl y ddau frenin hynny o Midian, a’u cipio nhw, gan wneud i’r gwersyll cyfan banicio.
13 Yna, daeth Gideon fab Joas yn ôl o’r rhyfel ar hyd y ffordd sy’n mynd i fyny at Heres. 14 Ar hyd y ffordd, cipiodd ddyn ifanc o Succoth a’i gwestiynu. Felly ysgrifennodd y dyn ifanc restr o enwau tywysogion a henuriaid Succoth, 77 o ddynion. 15 Gyda hynny, aeth at ddynion Succoth a dweud: “Dyma Seba a Salmunna gwnaethoch chi fy ngwawdio i amdanyn nhw, gan ddweud, ‘Pam mae’n rhaid inni roi bara i dy ddynion blinedig? Ydy Seba a Salmunna eisoes yn dy ddwylo?’” 16 Yna cymerodd henuriaid y ddinas, a gyda drain a mieri’r anialwch, dysgodd wers i ddynion Succoth. 17 A gwnaeth ef dynnu tŵr Penuel i lawr a lladd dynion y ddinas.
18 Gofynnodd i Seba a Salmunna: “Pa fath o ddynion gwnaethoch chi eu lladd yn Tabor?” Atebon nhw: “Roedden nhw’n debyg i ti, roedd pob un ohonyn nhw yn edrych fel mab brenin.” 19 Gyda hynny dywedodd: “Fy mrodyr oedden nhw, meibion fy mam. Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, petasech chi wedi gadael iddyn nhw fyw, fyddai dim rhaid imi eich lladd chi.” 20 Yna dywedodd wrth Jether ei gyntaf-anedig: “Dos i’w lladd nhw.” Ond wnaeth y dyn ifanc ddim tynnu ei gleddyf; roedd ganddo ofn, oherwydd roedd yn dal yn ddyn ifanc. 21 Felly dywedodd Seba a Salmunna: “Tyrd yma dy hun i’n lladd ni, oherwydd mae dyn yn cael ei farnu yn ôl ei gryfder.” Felly cododd Gideon a lladd Seba a Salmunna, a chymryd y tlysau* oddi ar yddfau eu camelod.
22 Yn hwyrach ymlaen, dywedodd dynion Israel wrth Gideon: “Rheola droston ni, ti a dy fab a dy ŵyr, oherwydd rwyt ti wedi ein hachub ni o law Midian.” 23 Ond dywedodd Gideon wrthyn nhw: “Fydda i ddim yn rheoli drostoch chi. Fydd fy mab ddim yn rheoli drostoch chi chwaith. Jehofa ydy’r un fydd yn rheoli drostoch chi.” 24 Aeth Gideon ymlaen i ddweud: “Gad imi ofyn un peth gynnoch chi: bod pob un ohonoch chi yn rhoi modrwy drwyn imi allan o’i ysbail.” (Oherwydd roedd ganddyn nhw fodrwyau trwyn aur am eu bod nhw’n Ismaeliaid.) 25 Atebon nhw: “Wrth gwrs.” Gyda hynny, dyma nhw’n taenu dilledyn, a thaflodd pob dyn fodrwy drwyn o’i ysbail arno. 26 Roedd yr holl fodrwyau trwyn aur yn pwyso 1,700 sicl* o aur, heb sôn am y tlysau cilgant, y cadwyni, y dillad gwlân porffor roedd brenhinoedd Midian yn eu gwisgo, a’r cadwyni a oedd ar yddfau’r camelod.
27 Gwnaeth Gideon effod â’r aur, a’i harddangos yn ei ddinas Offra; a dyma Israel i gyd yn eu puteinio eu hunain yn ysbrydol â’r effod yno, ac roedd fel magl i Gideon a’i dŷ cyfan.
28 Felly gwnaeth yr Israeliaid drechu Midian, a wnaeth Midian ddim eu herio nhw eto; a chafodd y wlad orffwys* am 40 mlynedd yn nyddiau Gideon.
29 Felly aeth Jerwbbaal fab Joas yn ôl adref ac aros yno.
30 Daeth Gideon yn dad i 70 o feibion, oherwydd roedd ganddo lawer o wragedd. 31 Gwnaeth un o’i wragedd eraill* oedd yn Sechem hefyd eni mab iddo, a galwodd ef yn Abimelech. 32 A bu farw Gideon fab Joas ar ôl mwynhau bywyd hir, a chafodd ei gladdu ym meddrod Joas ei dad yn Offra yr Abiesriaid.
33 Yn fuan ar ôl i Gideon farw, gwnaeth yr Israeliaid eu puteinio eu hunain yn ysbrydol â delwau Baal unwaith eto, a gwnaethon nhw benodi Baal-berith yn dduw iddyn nhw. 34 Wnaeth yr Israeliaid ddim cofio am Jehofa eu Duw, oedd wedi eu hachub nhw rhag eu holl elynion o’u cwmpas; 35 wnaethon nhw ddim chwaith ddangos cariad ffyddlon tuag at dŷ Jerwbbaal, hynny yw Gideon, er gwaethaf yr holl bethau da roedd ef wedi eu gwneud dros Israel.