Y Cyntaf at y Corinthiaid
4 Dylai dyn edrych arnon ni fel gweision Crist a goruchwylwyr cyfrinachau cysegredig Duw. 2 Yn hyn o beth, mae disgwyl i oruchwylwyr fod yn ffyddlon. 3 Nawr, dydy cael fy marnu gynnoch chi neu gan dribiwnlys* dynol ddim o fawr bwys imi. Yn wir, dydw i ddim hyd yn oed yn fy marnu fy hun. 4 Oherwydd dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw beth yn fy erbyn i. Ond nid trwy hyn rydw i’n cael fy mhrofi’n gyfiawn; yr un sydd yn fy marnu i ydy Jehofa. 5 Felly, peidiwch â barnu unrhyw beth cyn yr amser penodedig, hyd nes i’r Arglwydd ddod. Bydd ef yn goleuo pethau cyfrinachol y tywyllwch ac yn amlygu bwriadau ein calonnau, ac yna bydd pob un yn derbyn ei ganmoliaeth gan Dduw.
6 Nawr, frodyr, rydw i wedi cymhwyso’r pethau hyn ata i fy hun ac at Apolos er eich lles chi, er mwyn ichi fedru dysgu drwyddon ni y rheol: “Peidiwch â mynd y tu hwnt i’r pethau sy’n ysgrifenedig,” fel na fyddwch chi’n cael eich chwyddo gan falchder, yn ffafrio un ar draul y llall. 7 Pwy sy’n dy wneud di’n wahanol i rywun arall? Yn wir, beth sydd gen ti nad wyt ti wedi ei dderbyn? Yn wir, os wyt ti wedi ei dderbyn, pam rwyt ti’n brolio fel petaset ti heb ei dderbyn?
8 Ydych chi eisoes wedi cael eich bodloni? Ydych chi eisoes yn gyfoethog? Ydych chi wedi dechrau rheoli fel brenhinoedd hebddon ni? Fe fyddai’n dda gen i petasech chi wedi dechrau rheoli fel brenhinoedd, er mwyn i ninnau hefyd reoli gyda chi fel brenhinoedd. 9 Oherwydd mae’n ymddangos i mi fod Duw wedi ein rhoi ni, yr apostolion, yn y grŵp olaf sy’n mynd i mewn i’r arena, fel dynion sydd wedi cael eu condemnio i farwolaeth. Rydyn ni wedi dod yn sioe* i’r byd, ac i angylion ac i ddynion. 10 Rydyn ni’n ffyliaid oherwydd Crist, ond rydych chithau’n gall yng Nghrist; rydyn ni’n wan, ond rydych chithau’n gryf; rydych chi’n cael eich anrhydeddu, ond ninnau’n cael ein hamharchu. 11 Hyd yr union awr hon rydyn ni’n parhau i lwgu ac i sychedu ac i wisgo dillad gwael* ac i gael ein curo ac i fod yn ddigartref 12 ac i lafurio, yn gweithio â’n dwylo ein hunain. Pan ydyn ni’n cael ein sarhau, rydyn ni’n bendithio; pan ydyn ni’n cael ein herlid, rydyn ni’n dyfalbarhau yn amyneddgar; 13 pan ydyn ni’n cael ein henllibio, rydyn ni’n ateb yn addfwyn; rydyn ni wedi dod yn sbwriel y byd, yn sothach pob peth, hyd nawr.
14 Rydw i’n ysgrifennu’r pethau hyn, nid i godi cywilydd arnoch chi, ond i’ch ceryddu chi fel plant annwyl imi. 15 Er bod gynnoch chi 10,000 o warchodwyr yng Nghrist, yn bendant does gynnoch chi ddim llawer o dadau; oherwydd yng Nghrist Iesu, rydw i wedi dod yn dad i chi drwy’r newyddion da. 16 Rydw i’n ymbil arnoch chi, felly, i ddilyn fy esiampl i. 17 Dyna pam rydw i’n anfon Timotheus atoch chi, oherwydd ei fod yn blentyn annwyl a ffyddlon imi yn yr Arglwydd. Bydd ef yn eich atgoffa chi o fy ffyrdd* i yng Nghrist Iesu, yn union fel rydw i’n dysgu ym mhob man, ym mhob cynulleidfa.
18 Mae rhai wedi eu chwyddo gan falchder, fel petaswn i ddim yn dod atoch chi. 19 Ond bydda i’n dod atoch chi yn fuan, os mai dyna yw ewyllys Jehofa, nid i glywed geiriau’r rhai sydd wedi eu chwyddo gan falchder, ond i weld eu grym. 20 Oherwydd mae Teyrnas Dduw yn cael ei hamlygu, nid trwy eiriau ond trwy rym. 21 Beth sydd orau gynnoch chi? A ddylwn i ddod atoch chi â gwialen neu â chariad ac ysbryd addfwyn?