Genesis
45 Ar ôl clywed hyn, doedd Joseff ddim yn gallu rheoli ei deimladau o flaen ei weision ddim mwy. Felly gwaeddodd: “Pawb allan!” Wnaeth neb arall aros gyda Joseff tra oedd yn dweud wrth ei frodyr pwy oedd ef.
2 Yna dechreuodd grio mor uchel nes bod yr Eifftiaid yn ei glywed a gwnaeth tŷ Pharo ei glywed hefyd. 3 O’r diwedd dywedodd Joseff wrth ei frodyr: “Joseff ydw i. Ydy fy nhad yn dal yn fyw?” Ond doedd ei frodyr ddim yn gallu ei ateb o gwbl, oherwydd roedden nhw wedi synnu gymaint. 4 Felly dywedodd Joseff wrth ei frodyr: “Dewch yn nes ata i plîs.” Gyda hynny aethon nhw yn nes ato.
Yna dywedodd: “Joseff ydw i, eich brawd, yr un gwnaethoch chi ei werthu i’r Eifftiaid. 5 Ond nawr peidiwch â phoeni na dadlau na rhoi’r bai ar eich gilydd am eich bod chi wedi fy ngwerthu i yma; oherwydd mae Duw wedi fy anfon i o’ch blaenau chi er mwyn achub bywydau. 6 Dyma ail flwyddyn y newyn yn y wlad, ond mae ’na bum mlynedd eto pan fydd ’na ddim aredig na chynaeafu. 7 Ond gwnaeth Duw fy anfon i o’ch blaenau chi er mwyn gwneud yn siŵr y bydd gynnoch chi ddisgynyddion* ar y ddaear* ac er mwyn eich cadw chi’n fyw drwy eich achub chi mewn ffordd ryfeddol. 8 Felly nid chi a wnaeth fy anfon i yma, ond y gwir Dduw, er mwyn fy mhenodi i yn brif gynghorydd i Pharo ac yn arglwydd dros ei dŷ cyfan ac yn rheolwr dros holl wlad yr Aifft.
9 “Ewch yn ôl at fy nhad ar unwaith, ac mae’n rhaid ichi ddweud wrtho, ‘Dyma beth mae dy fab Joseff wedi ei ddweud: “Mae Duw wedi fy mhenodi i’n arglwydd dros yr Aifft gyfan. Tyrd i lawr ata i. Paid ag oedi. 10 Mae’n rhaid iti fyw yng ngwlad Gosen, lle byddi di’n agos ata i—ti, dy feibion, dy wyrion, dy ddefaid,* dy wartheg,* a phopeth sydd gen ti. 11 Bydda i’n gwneud yn siŵr bod gynnoch chi fwyd yno, oherwydd mae ’na bum mlynedd o newyn eto i ddod. Neu fel arall byddi di a dy deulu yn llwgu a byddi di’n colli dy holl eiddo.”’ 12 Gallwch chi a fy mrawd Benjamin weld nawr gyda’ch llygaid eich hunain mai fi ydy’r un sy’n siarad â chi. 13 Felly mae’n rhaid ichi ddweud wrth fy nhad am ba mor bwerus rydw i wedi dod yn yr Aifft ac am bopeth rydych chi wedi ei weld. Nawr brysiwch a dewch â fy nhad i lawr yma.”
14 Yna gwnaeth ef gofleidio ei frawd Benjamin a dyma’r ddau yn dechrau crio ym mreichiau ei gilydd. 15 A gwnaeth ef gusanu ei frodyr i gyd, yn eu cofleidio nhw ac yn crio, ac ar ôl hynny siaradodd ei frodyr ag ef.
16 Roedd tŷ Pharo wedi cael gwybod bod brodyr Joseff wedi cyrraedd, ac roedd Pharo a’i weision yn falch o glywed hynny. 17 Felly dywedodd Pharo wrth Joseff: “Dyweda wrth dy frodyr, ‘Gwnewch hyn: Llwythwch eich anifeiliaid gwaith ac ewch i wlad Canaan, 18 a dewch â’ch tad a’ch teuluoedd yma ata i. Bydda i’n rhoi pethau da ichi o wlad yr Aifft, a byddwch chi’n bwyta o ran fwyaf ffrwythlon* y wlad.’ 19 Ac mae’n rhaid iti ddweud wrthyn nhw: ‘Gwnewch hyn: Cymerwch wageni o wlad yr Aifft i’ch plant a’ch gwragedd, ac mae’n rhaid ichi ddod â’ch tad i lawr yma ar un ohonyn nhw. 20 Peidiwch â phoeni am eich eiddo, oherwydd cewch chi bethau gorau gwlad yr Aifft.’”
21 A dyna a wnaeth meibion Israel, rhoddodd Joseff wageni iddyn nhw yn ôl gorchmynion Pharo, yn ogystal â bwyd ar gyfer y daith. 22 Rhoddodd wisg newydd i bob un ohonyn nhw, ond i Benjamin rhoddodd 300 darn o arian a phum gwisg newydd. 23 Ac anfonodd hyn at ei dad: deg asyn yn cario pethau da o’r Aifft a deg asen yn cario grawn a bara a bwyd arall i’w dad ar gyfer y daith. 24 Felly anfonodd ei frodyr ar eu ffordd, ac wrth iddyn nhw adael, dywedodd wrthyn nhw: “Peidiwch â dadlau â’ch gilydd ar hyd y ffordd.”
25 Yna gadawon nhw yr Aifft a dod i mewn i wlad Canaan at eu tad Jacob. 26 Yna dywedon nhw wrtho: “Mae Joseff yn dal yn fyw, ac mae’n rheoli dros holl wlad yr Aifft!” Ond doedd gan Jacob ddim geiriau* oherwydd doedd ef ddim yn eu credu nhw. 27 Pan aethon nhw ymlaen i ddweud wrtho am bopeth roedd Joseff wedi ei ddweud wrthyn nhw, a phan welodd y wageni roedd Joseff wedi eu hanfon i’w gario, cododd calon* eu tad Jacob. 28 Dywedodd Israel: “Nawr rydw i’n eich credu chi! Mae fy mab Joseff yn dal yn fyw! Mae’n rhaid imi fynd a’i weld cyn imi farw!”