Lefiticus
3 “‘Os bydd rhywun yn offrymu aberth heddwch ac yn cyflwyno tarw neu fuwch o flaen Jehofa, dylai’r anifail fod yn ddi-nam. 2 Dylai osod ei law ar ben ei offrwm, a bydd yr anifail yn cael ei ladd wrth fynedfa pabell y cyfarfod; a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn taenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 3 Fe fydd yn cyflwyno rhan o’r aberth heddwch fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa: y braster sy’n gorchuddio’r perfeddion, yr holl fraster sydd o amgylch y perfeddion, 4 a’r ddwy aren ynghyd â’u braster sy’n agos at y lwynau. Fe fydd hefyd yn tynnu i ffwrdd y braster sydd ar yr iau ynghyd â’r arennau. 5 Bydd meibion Aaron yn gwneud i fwg godi oddi ar y pethau hyn ar yr allor, ar ben yr offrwm llosg sy’n llosgi dros y tân; mae hyn yn offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, arogl sy’n ei blesio.
6 “‘Os bydd yn offrymu anifail o’r praidd fel aberth heddwch i Jehofa, bydd rhaid iddo gyflwyno anifail gwryw neu fenyw di-nam. 7 Os bydd yn cyflwyno hwrdd* ifanc fel offrwm, yna fe fydd yn ei gyflwyno o flaen Jehofa. 8 Bydd rhaid iddo osod ei law ar ben ei offrwm, a bydd yr anifail yn cael ei ladd o flaen pabell y cyfarfod. Bydd meibion Aaron yn taenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 9 Bydd ef yn cyflwyno braster yr aberth heddwch fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa. Bydd yn tynnu holl fraster y cynffon gan ei dorri wrth yr asgwrn cefn, a bydd hefyd yn tynnu’r braster sy’n gorchuddio’r perfeddion, yr holl fraster sydd o amgylch y perfeddion, 10 a’r ddwy aren ynghyd â’u braster sy’n agos at y lwynau. Yn ogystal â hynny, fe fydd yn tynnu’r braster sydd ar yr iau, ynghyd â’r arennau. 11 A bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi ar yr aberthau ar yr allor fel bwyd,* offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa.
12 “‘Os bydd yn offrymu gafr, yna bydd yn ei chyflwyno o flaen Jehofa. 13 Bydd rhaid iddo osod ei law ar ei phen, a bydd yr afr yn cael ei lladd o flaen pabell y cyfarfod. Yna bydd meibion Aaron yn taenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 14 Dyma’r rhannau bydd ef yn eu cyflwyno fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa: y braster sy’n gorchuddio’r perfeddion, yr holl fraster sydd o amgylch y perfeddion, 15 a’r ddwy aren ynghyd â’u braster sy’n agos at y lwynau. Bydd ef hefyd yn tynnu’r braster sydd ar yr iau, ynghyd â’r arennau. 16 Bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi ar yr aberthau ar yr allor fel bwyd,* fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân, arogl sy’n plesio Duw. Mae’r holl fraster yn perthyn i Jehofa.
17 “‘Mae hyn yn ddeddf barhaol ar gyfer eich cenedlaethau, ble bynnag byddwch chi’n byw: Peidiwch â bwyta unrhyw fraster nac unrhyw waed o gwbl.’”