Genesis
9 Aeth Duw ymlaen i fendithio Noa a’i feibion ac i ddweud wrthyn nhw: “Byddwch yn ffrwythlon a chael plant a llanwch y ddaear. 2 A byddwch chi’n dychryn ac yn codi ofn ar bob creadur byw ar y ddaear, ar bob creadur sy’n hedfan yn y nefoedd, ar bopeth sy’n symud ar y tir, ac ar holl bysgod y môr. Rydw i’n eu rhoi nhw yn eich dwylo* nawr. 3 Rydw i’n rhoi pob anifail byw sy’n symud yn fwyd ichi. Yn union fel y gwnes i roi’r planhigion gwyrdd ichi, rydw i’n eu rhoi nhw i gyd ichi. 4 Ond peidiwch â bwyta cig sy’n dal i gynnwys ei fywyd, hynny yw, ei waed. 5 Hefyd, os ydy person neu anifail yn lladd dyn* bydda i’n mynnu tâl. Dylai anifail sy’n lladd dyn gael ei ladd; a dylai dyn sy’n lladd dyn arall dalu gyda’i fywyd. 6 Bydd unrhyw un sy’n lladd dyn hefyd yn cael ei ladd gan ddyn, oherwydd cafodd dyn ei greu yn debyg i Dduw. 7 Ond chithau, byddwch yn ffrwythlon a chael plant, a chynyddwch a llenwi’r ddaear.”
8 Yna dywedodd Duw wrth Noa a’i feibion a oedd gydag ef: 9 “Rydw i nawr yn sefydlu fy nghyfamod gyda chi a’ch disgynyddion ar eich ôl chi, 10 a gyda phob creadur byw sydd gyda chi, yr adar, yr anifeiliaid, a holl greaduriaid byw y ddaear sydd gyda chi, pob un a ddaeth allan o’r arch—pob creadur byw ar y ddaear. 11 Ydw, rydw i’n sefydlu fy nghyfamod gyda chi: Ni fydd popeth byw yn cael ei ddinistrio gan ddyfroedd dilyw byth eto, ac ni fydd dilyw yn difetha’r ddaear byth eto.”
12 Ac ychwanegodd Duw: “Dyma’r arwydd o’r cyfamod rydw i’n ei wneud rhyngo i a chi a phob creadur byw sydd gyda chi, ar gyfer pob cenhedlaeth sydd i ddod. 13 Rydw i’n rhoi fy enfys yn y cymylau, a bydd yn arwydd o’r cyfamod rhyngo i a’r ddaear. 14 Unrhyw adeg y bydda i’n dod â chymylau dros y ddaear, yna bydd yr enfys yn sicr o ymddangos yn y cymylau. 15 Ac yn sicr bydda i’n cofio’r cyfamod a wnes i rhyngo i a chi a phob creadur byw o bob math; ac ni fydd y dyfroedd byth eto’n dod yn ddilyw i ddinistrio popeth byw. 16 A bydd yr enfys yn codi yn y cymylau, a bydda i’n sicr o’i weld a chofio’r cyfamod tragwyddol rhyngo i a phob creadur byw o bob math ar y ddaear.”
17 Dyma Duw’n ailadrodd wrth Noa: “Dyma’r arwydd o’r cyfamod rydw i’n sefydlu rhyngo i a phopeth byw sydd ar y ddaear.”
18 Meibion Noa a ddaeth allan o’r arch oedd Sem, Ham, a Jaffeth. Yn hwyrach ymlaen daeth Ham yn dad i Canaan. 19 Y tri hyn oedd meibion Noa, a daeth holl boblogaeth y ddaear ohonyn nhw a byw mewn gwahanol rannau’r o’r ddaear.
20 Nawr dechreuodd Noa ffermio, a phlannodd winllan. 21 Pan yfodd beth o’r gwin, dyma’n meddwi, ac yn tynnu ei ddillad pan oedd y tu mewn i’w babell. 22 Gwelodd Ham, tad Canaan, ei dad yno yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd a oedd y tu allan. 23 Felly cymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn a’i roi ar ysgwyddau’r ddau ohonyn nhw a cherdded i mewn i’r babell gyda’u cefnau at eu tad. Felly dyma nhw’n gorchuddio noethni eu tad tra oedd eu hwynebau wedi troi oddi wrtho, a wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth.
24 Pan ddeffrôdd Noa ar ôl meddwi a dysgu beth roedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo, 25 dywedodd:
“Melltith ar Canaan.
Ef fydd caethwas isaf ei frodyr.”
26 Ac ychwanegodd:
“Clod i Jehofa, Duw Sem,
A bydd Canaan yn gaethwas i Sem.
27 Bydd Duw’n rhoi digonedd o dir i Jaffeth,
Ac yn gadael iddo fyw ym mhebyll Sem.
Bydd Canaan yn gaethwas i Jaffeth hefyd.”
28 Arhosodd Noa’n fyw am 350 o flynyddoedd ar ôl y Dilyw. 29 Felly cyfanswm dyddiau Noa oedd 950 o flynyddoedd, ac yna bu farw.