Y Cyntaf at y Corinthiaid
6 A oes unrhyw un ohonoch chi sydd â chŵyn yn erbyn un arall yn meiddio mynd i’r llys gerbron dynion anghyfiawn, ac nid gerbron y rhai sanctaidd? 2 Onid ydych chi’n gwybod bod y rhai sanctaidd yn mynd i farnu’r byd? Ac os ydy’r byd yn mynd i gael ei farnu gynnoch chi, onid ydych chi’n gymwys i farnu materion sy’n ddibwys iawn? 3 Onid ydych chi’n gwybod y byddwn ni’n barnu angylion? Pam nad materion y bywyd hwn felly? 4 Os oes gynnoch chi felly faterion sy’n perthyn i’r byd hwn i’w barnu, a ydych chi’n penodi yn farnwyr y dynion y mae’r gynulleidfa yn edrych i lawr arnyn nhw? 5 Siarad rydw i er mwyn codi cywilydd arnoch chi. Onid oes ’na un dyn doeth yn eich plith sy’n gallu barnu rhwng ei frodyr? 6 Yn hytrach, mae brawd yn mynd i gyfraith yn erbyn brawd, ac o flaen anghredinwyr ar ben hynny!
7 Yn wir, rydych chi eisoes wedi colli pan fydd gynnoch chi achosion cyfreithiol yn erbyn eich gilydd. Pam na wnewch chi yn hytrach adael i chi’ch hunain gael cam? Pam nad ydych chi yn hytrach yn gadael i chi’ch hunain gael eich twyllo? 8 Yn hytrach, y chi sy’n gwneud cam ac yn twyllo, ac i’ch brodyr ar ben hynny!
9 Onid ydych chi’n gwybod na fydd pobl anghyfiawn yn etifeddu Teyrnas Dduw? Peidiwch â chael eich camarwain.* Ni fydd pobl sy’n anfoesol yn rhywiol,* addolwyr eilunod, godinebwyr, dynion sy’n ildio i weithredoedd cyfunrywiol, dynion sy’n arfer cyfunrywioldeb,* 10 lladron, pobl farus, pobl sy’n meddwi, pobl sy’n sarhau,* na phobl sy’n twyllo yn etifeddu Teyrnas Dduw. 11 Ac eto, dyna oedd rhai ohonoch chi. Ond rydych chi wedi cael eich golchi’n lân; rydych chi wedi cael eich sancteiddio; rydych chi wedi cael eich galw’n gyfiawn yn enw’r Arglwydd Iesu Grist a gydag ysbryd ein Duw.
12 Mae popeth yn gyfreithlon* i mi, ond dydy popeth ddim yn fanteisiol. Mae popeth yn gyfreithlon i mi, ond fydda i ddim yn gadael i unrhyw beth fy rheoli i. 13 Mae bwyd ar gyfer y stumog a’r stumog ar gyfer bwyd, ond bydd Duw yn dinistrio’r naill a’r llall. Nid ar gyfer anfoesoldeb rhywiol* y mae’r corff ond ar gyfer yr Arglwydd, a’r Arglwydd ar gyfer y corff. 14 Ond gwnaeth Duw atgyfodi’r Arglwydd a bydd ef hefyd yn ein hatgyfodi ni drwy ei rym.
15 Onid ydych chi’n gwybod bod eich cyrff yn rhannau o gorff Crist? A ddylwn i felly gymryd rhannau o gorff Crist a’u gwneud nhw’n rhannau o gorff putain? Ddim ar unrhyw gyfri! 16 Onid ydych chi’n gwybod bod unrhyw un sydd wedi ei uno â phutain yn un corff â hi? Oherwydd “bydd y ddau,” meddai ef, “yn un cnawd.” 17 Ond mae pwy bynnag sydd wedi ei uno â’r Arglwydd yn un ag ef mewn ysbryd. 18 Ffowch oddi wrth anfoesoldeb rhywiol!* Dydy pob pechod arall y mae dyn yn ei gyflawni ddim yn effeithio’n uniongyrchol ar ei gorff, ond mae pwy bynnag sy’n arfer anfoesoldeb rhywiol yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. 19 Onid ydych chi’n gwybod bod eich corff yn deml ar gyfer yr ysbryd glân sydd ynoch chi, ac sydd gynnoch chi oddi wrth Dduw? Hefyd, dydych chi ddim yn perthyn i chi’ch hunain, 20 oherwydd eich bod chi wedi cael eich prynu am bris. Ar bob cyfri, gogoneddwch Dduw yn eich corff.