Actau’r Apostolion
27 Oherwydd iddyn nhw benderfynu ein bod ni i hwylio i’r Eidal, rhoddon nhw Paul a rhai carcharorion eraill yn nwylo swyddog y fyddin o’r enw Jwlius, o gatrawd Awgwstus. 2 Aethon ni ar fwrdd llong o Adramytium a oedd ar fin hwylio i borthladdoedd ar hyd arfordir talaith Asia, a chodi hwyl; roedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica, gyda ni. 3 Y diwrnod wedyn glanion ni yn Sidon, a gwnaeth Jwlius drin Paul yn garedig a chaniatáu iddo fynd at ei ffrindiau a mwynhau eu gofal.
4 Ac oddi yno, hwylion ni allan yng nghysgod Cyprus, oherwydd bod y gwyntoedd yn ein herbyn ni. 5 Yna fe wnaethon ni groesi’r môr ar hyd arfordir Cilicia a Pamffylia ac angori ym mhorthladd Myra yn Lycia. 6 Yno daeth swyddog y fyddin o hyd i long o Alecsandria a oedd yn hwylio i’r Eidal, a gwneud inni fynd arni. 7 Yna ar ôl inni hwylio’n araf deg am ddyddiau lawer, daethon ni i Cnidus gyda chryn drafferth. Oherwydd doedd y gwynt ddim yn caniatáu inni symud ymlaen, hwylion ni yng nghysgod Creta gyferbyn â Salmone. 8 Ac yn hwylio gyda chryn drafferth ar hyd yr arfordir, daethon ni i le o’r enw Hafan Deg, sydd wrth ymyl dinas Lasea.
9 Roedd cryn dipyn o amser wedi mynd heibio ac erbyn hyn roedd hi’n rhy beryglus i groesi’r môr, ac roedd ympryd Dydd y Cymod eisoes drosodd, felly dyma Paul yn awgrymu 10 iddyn nhw: “Ddynion, rydw i’n gallu gweld y bydd y fordaith hon yn arwain at ddifrod a cholled fawr nid yn unig o ran ein cargo a’r llong ond ein bywydau ni hefyd.” 11 Fodd bynnag, gwrandawodd swyddog y fyddin ar y peilot ac ar berchennog y llong yn hytrach nag ar yr hyn roedd Paul yn ei ddweud. 12 Gan fod yr harbwr yn anaddas ar gyfer treulio’r gaeaf yno, roedd y mwyafrif yn cynghori i hwylio oddi yno er mwyn gweld a fydden nhw, rywsut neu’i gilydd, yn gallu cyrraedd Phenics, sef harbwr yn Creta sy’n wynebu’r gogledd-ddwyrain a’r de-ddwyrain, a threulio’r gaeaf yno.
13 Pan chwythodd gwynt y de yn ysgafn, roedden nhw’n meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd eu nod, a dyma nhw’n codi angor a dechrau hwylio ar hyd glannau Creta yn agos i’r tir. 14 Ar ôl ychydig o amser, fodd bynnag, rhuthrodd gwynt tymhestlog o’r enw Ewraculon.* 15 Gan fod y gwynt mawr wedi cipio’r llong, doedden ni ddim yn gallu dal ei thrwyn i’r gwynt, a dyma ni’n ildio iddo a chael ein gyrru ymlaen. 16 Yna gwnaethon ni hwylio’n gyflym i gysgod ynys fach o’r enw Cawda, ond eto roedden ni’n brwydro’n galed i achub y cwch bach* y tu ôl i’r llong. 17 Ond ar ôl iddyn nhw godi’r cwch ar fwrdd y llong, gwnaethon nhw glymu gwaelod y llong â rhaffau mawr fel nad oedd hi’n hollti’n ddarnau, ac oherwydd eu bod nhw’n ofni y byddai’r llong yn taro ar lawr y Syrtis,* dyma nhw’n gollwng y gêr hwylio i lawr ac felly cawson nhw eu gyrru ymlaen. 18 Oherwydd ein bod ni’n cael ein taflu’n wyllt gan y storm, dechreuon nhw ysgafnhau’r llong y diwrnod wedyn. 19 Ac ar y trydydd dydd, gwnaethon nhw daflu taclau’r llong i ffwrdd â’u dwylo eu hunain.
20 Pan nad oedd yr haul na’r sêr wedi ymddangos am ddyddiau lawer a storm fawr yn curo yn ein herbyn ni, dechreuodd pob gobaith o gael ein hachub ddiflannu o hynny allan. 21 Ar ôl iddyn nhw fynd am amser hir heb fwyd, safodd Paul yn eu plith a dweud: “Ddynion, fe ddylech chi fod wedi gwrando ar fy nghyngor i a pheidio â hwylio o Creta ac yna dioddef y difrod a’r golled hon. 22 Ond nawr, rydw i’n eich annog chi i fod yn ddewr, oherwydd ni fydd yr un ohonoch chi yn colli ei fywyd, dim ond y llong fydd yn cael ei cholli. 23 Neithiwr gwnaeth angel y Duw rydw i’n ei wasanaethu a’i addoli sefyll wrth fy ymyl i 24 a dweud: ‘Paid ag ofni, Paul. Mae’n rhaid iti sefyll o flaen Cesar, ac edrycha! bydd Duw yn dy achub di a phawb sy’n hwylio gyda ti.’ 25 Felly byddwch yn ddewr, ddynion, oherwydd rydw i’n credu y bydd Duw’n gwneud yn union fel y clywais i. 26 Fodd bynnag, mae’n rhaid inni gael ein bwrw i’r lan ar ryw ynys.”
27 Nawr ar ôl bod ar y môr am 14 diwrnod roedden ni’n cael ein taflu yma a thraw ar Fôr Adria, am hanner nos dechreuodd y morwyr feddwl eu bod nhw’n agosáu at ryw dir. 28 Dyma nhw’n plymio ac yn cael dyfnder o 20 gwryd,* felly aethon nhw ymlaen am ychydig a dyma nhw unwaith eto’n plymio a chael dyfnder o 15 gwryd.* 29 Ac yn ofni y bydden ni efallai’n mynd ar y creigiau, taflon nhw bedair angor o’r starn ac yna disgwyl yn bryderus am iddi wawrio. 30 Ond pan ddechreuodd y morwyr geisio dianc o’r llong a gollwng y cwch bach i’r môr gan ffugio eu bod nhw’n bwriadu gollwng angorau o’r pen blaen, 31 dywedodd Paul wrth swyddog y fyddin a’r milwyr: “Os na fydd y dynion hyn yn aros yn y llong, allwch chi ddim cael eich achub.” 32 Yna torrodd y milwyr raffau’r cwch bach a gadael iddo syrthio i ffwrdd.
33 Nawr tra oedd y dydd ar fin gwawrio, gwnaeth Paul annog pawb i gymryd ychydig o fwyd, gan ddweud: “Heddiw ydy’r pedwerydd diwrnod ar ddeg rydych chi wedi bod yn disgwyl yn bryderus, heb gymryd unrhyw fwyd o gwbl. 34 Felly rydw i’n eich annog chi i fwyta ychydig o fwyd; mae hyn er eich lles chi, oherwydd ni fydd blewyn oddi ar ben yr un ohonoch chi yn cael ei golli.” 35 Ar ôl iddo ddweud hyn, cymerodd fara, diolchodd i Dduw o’u blaenau nhw i gyd, a’i dorri, a dechrau bwyta. 36 Felly cododd pawb eu calon a dechreuon nhwthau hefyd gymryd bwyd. 37 Rhwng pawb roedd ’na 276 o bobl* yn y llong. 38 Pan oedden nhw’n llawn ar ôl bwyta digon o fwyd, dyma nhw’n ysgafnhau’r llong drwy daflu’r gwenith i’r môr.
39 Pan ddaeth hi’n olau dydd, doedden nhw ddim yn gallu adnabod y tir, ond dyma nhw’n gweld bae gyda thraeth ac roedden nhw’n benderfynol o ddod â’r llong i’r lan yno petasen nhw’n gallu. 40 Felly torron nhw’r angorau i ffwrdd a gadael iddyn nhw syrthio i’r môr, a datod rhwymau’r llywiau yr un pryd; ac ar ôl codi’r hwyl flaen i’r gwynt, dyma nhw’n anelu at y traeth. 41 Pan wnaethon nhw daro banc tywod, aeth y llong ar lawr ac aeth y pen blaen yn sownd ac aros yn ddisymud, ond dechreuodd y starn gael ei dorri’n ddarnau gan y tonnau gwyllt. 42 Gyda hyn penderfynodd y milwyr ladd y carcharorion rhag i neb nofio i ffwrdd a dianc. 43 Ond roedd swyddog y fyddin yn benderfynol o achub Paul a dyma’n eu rhwystro nhw rhag cyflawni eu bwriad. Gorchmynnodd i’r rhai a oedd yn medru nofio neidio i’r môr a mynd i’r lan yn gyntaf, 44 ac roedd y lleill i ddilyn, rhai ar blanciau a rhai ar ddarnau o’r llong. Felly cyrhaeddodd pawb y tir yn saff.