Genesis
16 Nawr doedd gwraig Abram, Sarai, ddim wedi geni unrhyw blant iddo, ond roedd ganddi forwyn o’r Aifft a’i henw hi oedd Hagar. 2 Felly dywedodd Sarai wrth Abram: “Plîs gwranda arna i! Mae Jehofa wedi fy rhwystro i rhag cael plant. Plîs, cysga gyda fy morwyn. Efallai galla i gael plant drwyddi hi.” Felly gwrandawodd Abram ar beth ddywedodd Sarai. 3 Ar ôl i Abram fyw am ddeng mlynedd yng ngwlad Canaan, cymerodd gwraig Abram, Sarai, ei morwyn Hagar yr Eifftes a’i rhoi hi i’w gŵr Abram fel gwraig iddo. 4 Felly dyma ef yn cysgu gyda Hagar, a daeth hi’n feichiog. Ar ôl iddi sylweddoli ei bod hi’n feichiog, dechreuodd hi edrych i lawr ar ei meistres.
5 Ar hynny dywedodd Sarai wrth Abram: “Ti sydd ar fai am imi gael fy ngham-drin fel hyn. Fi oedd yr un a roddodd fy morwyn yn dy freichiau di, ond ar ôl iddi sylweddoli ei bod hi’n feichiog, dechreuodd hi edrych i lawr arna i. Bydd Jehofa’n barnu rhyngot ti a mi.” 6 Felly dywedodd Abram wrth Sarai: “Edrycha! Mae dy forwyn o dan dy awdurdod di. Gwna iddi hi beth bynnag rwyt ti’n meddwl sydd orau.” Yna dyma Sarai yn ei bychanu hi, a rhedodd Hagar i ffwrdd oddi wrthi.
7 Yn nes ymlaen gwnaeth angel Jehofa ddod o hyd iddi wrth ymyl ffynnon ddŵr yn yr anialwch, y ffynnon ar y ffordd i Sur. 8 A dywedodd ef: “Hagar, forwyn Sarai, o le rwyt ti wedi dod ac i le rwyt ti’n mynd?” Atebodd hithau: “Rydw i’n rhedeg i ffwrdd o fy meistres Sarai.” 9 Yna dywedodd angel Jehofa wrthi: “Dos yn ôl at dy feistres ac ymostwng o dan ei llaw hi.” 10 Yna dywedodd angel Jehofa: “Bydda i’n rhoi llawer iawn o ddisgynyddion* iti, fel bod ’na ormod ohonyn nhw i’w cyfri.” 11 Ychwanegodd angel Jehofa: “Dyma ti yn feichiog, a byddi di’n rhoi genedigaeth i fab, ac mae’n rhaid iti ei alw’n Ismael,* oherwydd mae Jehofa wedi clywed dy fod ti’n dioddef. 12 Fe fydd yn asyn* gwyllt o ddyn. Bydd ei law ef yn erbyn pawb, a bydd llaw pawb yn ei erbyn yntau, ac fe fydd yn byw ar wahân i’w holl frodyr.”*
13 Yna galwodd hi ar enw Jehofa, a oedd yn siarad â hi: “Rwyt ti’n Dduw sy’n gweld,” oherwydd dywedodd hi: “Ydw i wir wedi gweld yr un sy’n fy ngweld i?” 14 Dyna pam cafodd y ffynnon yr enw Beer-lahai-roi.* (Mae hi rhwng Cades a Bered.) 15 Felly rhoddodd Hagar enedigaeth i fab i Abram, a dyma Abram yn enwi ei fab, yr un a gafodd Hagar, yn Ismael. 16 Roedd Abram yn 86 mlwydd oed pan roddodd Hagar enedigaeth i Ismael.