Actau’r Apostolion
26 Dywedodd Agripa wrth Paul: “Mae caniatâd iti siarad drostot ti dy hun.” Yna estynnodd Paul ei law a dechreuodd ei amddiffyniad:
2 “Ynglŷn â’r holl bethau mae’r Iddewon wedi fy nghyhuddo i ohonyn nhw, Frenin Agripa, rydw i’n fy ystyried fy hun yn hapus mai o dy flaen di rydw i’n fy amddiffyn fy hun heddiw, 3 yn enwedig oherwydd dy fod ti’n arbenigwr ar yr holl arferion yn ogystal â’r dadleuon sydd ymhlith yr Iddewon. Felly, rydw i’n erfyn arnat ti i wrando arna i’n amyneddgar.
4 “Yn wir, mae fy ffordd o fyw ers pan oeddwn i’n blentyn ymhlith fy mhobl ac yn Jerwsalem yn hysbys i’r holl Iddewon 5 a oedd yn fy adnabod gynt, os bydden nhw’n fodlon tystiolaethu, fy mod i wedi byw fel Pharisead yn ôl sect fwyaf caeth ein crefydd ni. 6 Ond nawr am obaith yr addewid a wnaeth Duw i’n cyndadau, rydw i’n sefyll fy mhrawf; 7 hwn ydy’r un addewid mae’r 12 llwyth yn gobeithio cael gweld ei gyflawniad drwy ei wasanaethu ef yn ddyfal nos a dydd. Ynglŷn â’r gobaith hwn rydw i’n cael fy nghyhuddo gan yr Iddewon, O Frenin.
8 “Pam dydych chi ddim yn credu bod Duw yn codi’r meirw? 9 Roeddwn innau’n hollol siŵr y dylwn i wneud pob math o bethau i wrthwynebu enw Iesu o Nasareth. 10 Dyna yn union beth wnes i yn Jerwsalem, a gwnes i roi llawer o’r rhai sanctaidd dan glo yn y carchar, oherwydd fy mod i wedi derbyn awdurdod gan y prif offeiriaid; a phan oedden nhw am gael eu dienyddio, gwnes i bleidleisio yn eu herbyn nhw. 11 Drwy eu cosbi nhw’n aml yn yr holl synagogau, gwnes i drio eu gorfodi nhw i wadu eu ffydd; ac oherwydd fy mod i’n wyllt gandryll â nhw, es i mor bell â’u herlid nhw mewn dinasoedd eraill hyd yn oed.
12 “Tra oeddwn i’n gwneud hyn, wrth imi deithio i Ddamascus gydag awdurdod a chomisiwn oddi wrth y prif offeiriaid, 13 gwelais ar y ffordd ar hanner dydd, O Frenin, oleuni a oedd yn fwy llachar na’r haul yn fflachio o’r nef o fy nghwmpas i ac o gwmpas y rhai a oedd yn teithio gyda mi. 14 A phan oedden ni i gyd wedi disgyn i’r llawr, clywais lais o’r nef yn dweud wrtho i yn yr iaith Hebraeg: ‘Saul, Saul, pam rwyt ti’n fy erlid i? Rwyt ti’n gwneud niwed i ti dy hun drwy frwydro yn fy erbyn i* o hyd.’ 15 Ond dywedais i: ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd: ‘Iesu ydw i, yr un rwyt ti’n ei erlid. 16 Ond cod a sefyll ar dy draed. Dyma pam rydw i wedi ymddangos iti, i dy ddewis di fel gwas ac fel tyst i’r pethau rwyt ti wedi eu gweld ac i’r pethau y bydda i’n gwneud iti eu gweld ynglŷn â mi. 17 A bydda i’n dy achub di rhag y bobl hyn a rhag y cenhedloedd rydw i’n dy anfon di atyn nhw 18 i agor eu llygaid nhw, i’w troi nhw oddi wrth y tywyllwch at y goleuni ac oddi wrth awdurdod Satan at Dduw, er mwyn iddyn nhw dderbyn, drwy eu ffydd yno i, faddeuant am eu pechodau ac etifeddiaeth ymhlith y rhai sy’n cael eu sancteiddio.’
19 “Felly, Frenin Agripa, doeddwn i ddim yn anufudd i’r weledigaeth nefol, 20 ond i’r rhai yn Namascus yn gyntaf ac yna i’r rhai yn Jerwsalem, a thrwy holl wlad Jwdea, a hefyd i’r cenhedloedd, roeddwn i’n cyhoeddi’r neges y dylen nhw edifarhau a throi at Dduw drwy wneud gweithredoedd sy’n deilwng o edifeirwch. 21 Dyma pam gwnaeth yr Iddewon fy nal yn y deml a cheisio fy lladd i. 22 Fodd bynnag, gan fy mod i wedi profi’r help sy’n dod oddi wrth Dduw, rydw i’n parhau hyd y dydd hwn i dystiolaethu i’r rhai bach a’r rhai mawr, heb ddweud dim byd heblaw’r pethau a ddywedodd y Proffwydi yn ogystal â Moses y byddai’n digwydd— 23 sef y byddai’r Crist yn dioddef ac y byddai ef, fel y cyntaf i gael ei atgyfodi o’r meirw, yn cyhoeddi goleuni i’r bobl hyn ac i’r cenhedloedd.”
24 Nawr, tra oedd Paul yn dweud y pethau hyn yn ei amddiffyniad, dywedodd Ffestus mewn llais uchel: “Rwyt ti’n wallgof, Paul! Mae’r addysg fawr yma yn dy yrru di’n wallgof!” 25 Ond dywedodd Paul: “Dydw i ddim yn wallgof, Ardderchocaf Ffestus, ond rydw i’n siarad geiriau sy’n wir ac sy’n gwneud sens. 26 Yn bendant, mae’r brenin rydw i’n siarad mor agored ag ef yn gwybod yn iawn am y pethau hyn; rydw i’n sicr nad oes dim un o’r pethau hyn wedi osgoi ei sylw, oherwydd dydy’r pethau hynny ddim wedi cael eu gwneud mewn congl guddiedig. 27 Wyt ti, Frenin Agripa, yn credu’r Proffwydi? Rydw i’n gwybod dy fod ti’n credu.” 28 Ond dywedodd Agripa wrth Paul: “Mewn byr o dro, fe fyddet ti’n fy mherswadio i i fod yn Gristion.” 29 Gyda hynny dywedodd Paul: “Rydw i’n gweddïo ar Dduw, nid am i ti yn unig, ond am i bawb sy’n gwrando arna i heddiw, yn hwyr neu’n hwyrach, fod yn ddynion yr un fath ag yr ydw i, ar wahân i’r rhwymau carchar hyn.”
30 Yna cododd y brenin a’r llywodraethwr a Bernice a’r dynion a oedd yn eistedd gyda nhw. 31 Ond tra oedden nhw’n gadael, dechreuon nhw ddweud wrth ei gilydd: “Dydy’r dyn hwn ddim yn gwneud unrhyw beth sy’n haeddu marwolaeth na rhwymau carchar.” 32 Yna dywedodd Agripa wrth Ffestus: “Byddai’r dyn hwn wedi gallu cael ei ryddhau oni bai ei fod wedi apelio at Gesar.”