Numeri
25 Pan oedd Israel yn aros yn Sittim, dechreuodd y bobl gyflawni anfoesoldeb rhywiol gyda merched Moab. 2 Dyma’r merched* yn gwahodd y bobl i fynd gyda nhw i aberthu i’w duwiau, a dechreuodd y bobl fwyta ac ymgrymu i’w duwiau. 3 Felly gwnaeth Israel ymuno â nhw i addoli Baal Peor, a gwylltiodd Jehofa ag Israel. 4 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Cymera holl arweinwyr y bobl a hongian eu cyrff meirw o flaen Jehofa yng ngolwg pawb, fel bod dicter tanbaid Jehofa yn troi i ffwrdd oddi wrth Israel.” 5 Yna dywedodd Moses wrth farnwyr Israel: “Dylai pob un ohonoch chi ladd ei ddynion a gymerodd ran yn addoli Baal Peor.”
6 Ond yna, daeth un o’r Israeliaid â dynes* o Midian i mewn i’r gwersyll, a hynny yng ngolwg Moses a holl gynulleidfa Israel, tra eu bod nhw’n wylo wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 7 Pan wnaeth Phineas fab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad weld hyn, cododd ar unwaith o ganol y gynulleidfa a gafael mewn gwaywffon. 8 Yna, dilynodd yr Israeliad i mewn i’r babell a thrywanu’r ddau ohonyn nhw—yr Israeliad, a’r ddynes* yn ei bol.* Gyda hynny, daeth y pla ar yr Israeliaid i ben. 9 Cyfanswm y rhai a fu farw o’r pla oedd 24,000.
10 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 11 “Mae Phineas fab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad wedi troi fy nicter i ffwrdd oddi wrth bobl Israel am nad ydy ef wedi goddef unrhyw anffyddlondeb tuag ata i yn eu plith. Dyna pam dydw i ddim wedi dinistrio’r Israeliaid, er fy mod i’n mynnu eu bod nhw’n fy addoli i yn unig. 12 Felly dyweda wrth Phineas fy mod i’n gwneud cyfamod heddwch ag ef. 13 A bydd y cyfamod hwn yn golygu y bydd ef a’i ddisgynyddion ar ei ôl yn gwasanaethu fel offeiriaid yn barhaol, am nad oedd ef wedi goddef unrhyw anffyddlondeb tuag at ei Dduw, ac mae wedi cael maddeuant i bobl Israel.”
14 Fel mae’n digwydd, enw’r Israeliad a gafodd ei ladd gyda’r ddynes* o Midian oedd Simri fab Salu, a oedd yn bennaeth ar un o deuluoedd estynedig Simeon. 15 Enw’r ddynes* o Midian a gafodd ei lladd oedd Cosbi ferch Sur; roedd ef yn bennaeth ar un o lwythau Midian.
16 Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Jehofa wrth Moses: 17 “Mae’n rhaid ichi drin y Midianiaid fel gelynion, a’u taro nhw i lawr, 18 oherwydd eu bod nhw wedi creu helynt ichi drwy eich twyllo chi i addoli Baal Peor a gwneud ichi bechu drwy beth wnaeth Cosbi, merch un o benaethiaid Midian, a gafodd ei rhoi i farwolaeth ar y diwrnod y daeth y pla yn eich erbyn am eich bod wedi addoli Baal Peor.”