Genesis
12 A dywedodd Jehofa wrth Abram: “Dos allan o dy wlad ac i ffwrdd oddi wrth dy berthnasau ac o dŷ dy dad i’r wlad bydda i’n ei dangos iti. 2 Bydda i’n dy wneud di’n genedl fawr, a bydda i’n dy fendithio di, a bydda i’n gwneud dy enw’n fawr, a byddi di’n dod yn fendith. 3 Bydda i’n bendithio’r rhai sy’n dy fendithio di, a bydda i’n melltithio’r un sy’n dweud ei fod eisiau i bethau drwg ddigwydd iti, a bydd holl deuluoedd y ddaear yn bendant yn cael eu bendithio drwyddot ti.”
4 Felly fe aeth Abram yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrtho, ac fe aeth Lot gydag ef. Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran. 5 Cymerodd Abram ei wraig Sarai a Lot, mab ei frawd, a’r holl eiddo roedden nhw wedi ei gasglu a’r bobl* roedden nhw wedi eu cymryd i mewn i’w teulu yn Haran, ac fe wnaethon nhw ei chychwyn hi am wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw wlad Canaan, 6 teithiodd Abram drwy’r wlad hyd at safle Sechem, wrth ymyl coed mawr More. Bryd hynny roedd y Canaaneaid yn byw yn y wlad. 7 Yna ymddangosodd Jehofa i Abram a dweud: “Rydw i’n mynd i roi’r wlad hon i dy ddisgynyddion* di.” Felly adeiladodd allor yno i Jehofa, a oedd wedi ymddangos iddo. 8 Yn ddiweddarach fe symudodd oddi yno i’r ardal fynyddig tua’r dwyrain o Bethel a chodi ei babell gyda Bethel tua’r gorllewin ac Ai tua’r dwyrain. Yno adeiladodd allor i Jehofa a dechreuodd alw ar enw Jehofa. 9 Ar ôl hynny, symudodd Abram ei wersyll a theithio tua’r Negef, gan symud o un lle i’r llall.
10 Nawr roedd ’na newyn yn y wlad, ac aeth Abram i lawr tua’r Aifft i fyw yno am ychydig,* oherwydd bod y newyn yn y wlad yn ddifrifol. 11 Pan oedd ar fin mynd i mewn i’r Aifft, dywedodd wrth ei wraig Sarai: “Plîs gwranda! Rwyt ti’n ddynes* hardd iawn. 12 Felly pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di, fe fyddan nhw’n siŵr o ddweud, ‘Hon ydy ei wraig.’ Yna fe fyddan nhw’n fy lladd i ond yn dy gadw di’n fyw. 13 Plîs dyweda mai fy chwaer wyt ti, er mwyn i bethau fynd yn dda imi o dy achos di, ac fe fydd fy mywyd yn cael ei arbed.”
14 Cyn gynted ag yr aeth Abram i mewn i’r Aifft, sylwodd yr Eifftiaid fod y ddynes* yn hardd iawn. 15 Ac fe welodd tywysogion Pharo hi hefyd, a dechreuon nhw ei chanmol hi wrth Pharo, felly cafodd y ddynes* ei chymryd i dŷ Pharo. 16 Gwnaeth ef drin Abram yn dda o’i hachos hi, ac fe gafodd Abram ddefaid, gwartheg, asynnod ac asennod, gweision a morynion, a chamelod. 17 Yna gwnaeth Jehofa daro Pharo a phawb yn ei dŷ â phlâu ofnadwy o achos Sarai, gwraig Abram. 18 Felly galwodd Pharo ar Abram a dweud: “Beth rwyt ti wedi ei wneud imi? Pam na wnest ti ddweud wrtho i mai dy wraig di oedd hi? 19 Pam gwnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi,’ fel fy mod i am ei chymryd hi yn wraig i mi? Dyma dy wraig. Cymera hi a dos!” 20 Felly rhoddodd Pharo orchmynion i’w ddynion ynglŷn ag ef, a dyma nhw’n ei anfon i ffwrdd gyda’i wraig a phopeth oedd ganddo.