LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 12
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Abram yn gadael Haran am Canaan (1-9)

        • Addewid Duw i Abram (7)

      • Abram a Sarai yn yr Aifft (10-20)

Genesis 12:2

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2023, t. 24

Genesis 12:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “eneidiau.”

Genesis 12:7

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

Genesis 12:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “i fyw yno fel estronwr.”

Genesis 12:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn fenyw.”

Genesis 12:14

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Genesis 12:15

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 12:1-20

Genesis

12 A dywedodd Jehofa wrth Abram: “Dos allan o dy wlad ac i ffwrdd oddi wrth dy berthnasau ac o dŷ dy dad i’r wlad bydda i’n ei dangos iti. 2 Bydda i’n dy wneud di’n genedl fawr, a bydda i’n dy fendithio di, a bydda i’n gwneud dy enw’n fawr, a byddi di’n dod yn fendith. 3 Bydda i’n bendithio’r rhai sy’n dy fendithio di, a bydda i’n melltithio’r un sy’n dweud ei fod eisiau i bethau drwg ddigwydd iti, a bydd holl deuluoedd y ddaear yn bendant yn cael eu bendithio drwyddot ti.”

4 Felly fe aeth Abram yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrtho, ac fe aeth Lot gydag ef. Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran. 5 Cymerodd Abram ei wraig Sarai a Lot, mab ei frawd, a’r holl eiddo roedden nhw wedi ei gasglu a’r bobl* roedden nhw wedi eu cymryd i mewn i’w teulu yn Haran, ac fe wnaethon nhw ei chychwyn hi am wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw wlad Canaan, 6 teithiodd Abram drwy’r wlad hyd at safle Sechem, wrth ymyl coed mawr More. Bryd hynny roedd y Canaaneaid yn byw yn y wlad. 7 Yna ymddangosodd Jehofa i Abram a dweud: “Rydw i’n mynd i roi’r wlad hon i dy ddisgynyddion* di.” Felly adeiladodd allor yno i Jehofa, a oedd wedi ymddangos iddo. 8 Yn ddiweddarach fe symudodd oddi yno i’r ardal fynyddig tua’r dwyrain o Bethel a chodi ei babell gyda Bethel tua’r gorllewin ac Ai tua’r dwyrain. Yno adeiladodd allor i Jehofa a dechreuodd alw ar enw Jehofa. 9 Ar ôl hynny, symudodd Abram ei wersyll a theithio tua’r Negef, gan symud o un lle i’r llall.

10 Nawr roedd ’na newyn yn y wlad, ac aeth Abram i lawr tua’r Aifft i fyw yno am ychydig,* oherwydd bod y newyn yn y wlad yn ddifrifol. 11 Pan oedd ar fin mynd i mewn i’r Aifft, dywedodd wrth ei wraig Sarai: “Plîs gwranda! Rwyt ti’n ddynes* hardd iawn. 12 Felly pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di, fe fyddan nhw’n siŵr o ddweud, ‘Hon ydy ei wraig.’ Yna fe fyddan nhw’n fy lladd i ond yn dy gadw di’n fyw. 13 Plîs dyweda mai fy chwaer wyt ti, er mwyn i bethau fynd yn dda imi o dy achos di, ac fe fydd fy mywyd yn cael ei arbed.”

14 Cyn gynted ag yr aeth Abram i mewn i’r Aifft, sylwodd yr Eifftiaid fod y ddynes* yn hardd iawn. 15 Ac fe welodd tywysogion Pharo hi hefyd, a dechreuon nhw ei chanmol hi wrth Pharo, felly cafodd y ddynes* ei chymryd i dŷ Pharo. 16 Gwnaeth ef drin Abram yn dda o’i hachos hi, ac fe gafodd Abram ddefaid, gwartheg, asynnod ac asennod, gweision a morynion, a chamelod. 17 Yna gwnaeth Jehofa daro Pharo a phawb yn ei dŷ â phlâu ofnadwy o achos Sarai, gwraig Abram. 18 Felly galwodd Pharo ar Abram a dweud: “Beth rwyt ti wedi ei wneud imi? Pam na wnest ti ddweud wrtho i mai dy wraig di oedd hi? 19 Pam gwnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi,’ fel fy mod i am ei chymryd hi yn wraig i mi? Dyma dy wraig. Cymera hi a dos!” 20 Felly rhoddodd Pharo orchmynion i’w ddynion ynglŷn ag ef, a dyma nhw’n ei anfon i ffwrdd gyda’i wraig a phopeth oedd ganddo.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu