Numeri
1 A siaradodd Jehofa* â Moses yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y diwrnod cyntaf o’r ail fis, yn yr ail flwyddyn ar ôl iddyn nhw ddod allan o wlad yr Aifft. Dywedodd: 2 “Gwnewch gyfrifiad o gynulleidfa gyfan yr Israeliaid fesul unigolyn. Cofrestrwch enwau’r gwrywod i gyd yn ôl eu teuluoedd ac yn ôl eu teuluoedd estynedig. 3 Dylet ti ac Aaron gofrestru pawb sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn ac sy’n gallu gwasanaethu ym myddin Israel yn ôl eu grwpiau milwrol.
4 “Cymerwch un dyn o bob llwyth gyda chi; bydd pob un yn bennaeth ar ei lwyth. 5 Dyma enwau’r dynion a fydd yn eich helpu chi: o lwyth Reuben, Elisur fab Sedeur; 6 o lwyth Simeon, Selumiel fab Surisadai; 7 o lwyth Jwda, Naason fab Aminadab; 8 o lwyth Issachar Nethanel fab Suar; 9 o lwyth Sabulon, Eliab fab Helon; 10 o feibion Joseff: o lwyth Effraim, Elisama fab Ammihud; o lwyth Manasse, Gamaliel fab Pedasur; 11 o lwyth Benjamin, Abidan fab Gideoni; 12 o lwyth Dan, Ahieser fab Ammisadai; 13 o lwyth Aser, Pagiel fab Ocran; 14 o lwyth Gad, Eliasaff fab Deuel; 15 o lwyth Nafftali, Ahira fab Enan. 16 Dyma’r rhai a gafodd eu dewis o blith y gynulleidfa. Nhw ydy penaethiaid llwythau eu tadau, y pennau ar grwpiau o filoedd o ddynion Israel.”
17 Felly dyma Moses ac Aaron yn anfon am y rhai hynny a oedd wedi cael eu henwi. 18 Casglon nhw’r gynulleidfa gyfan at ei gilydd ar y diwrnod cyntaf o’r ail fis, er mwyn i bob unigolyn gael ei gofrestru yn ôl ei enw, ei deulu, a’i deulu estynedig, pawb a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn, 19 yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. Felly gwnaeth ef eu cofrestru nhw yn anialwch Sinai.
20 Cafodd meibion Reuben, disgynyddion mab cyntaf-anedig Israel, eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 21 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Reuben oedd 46,500.
22 Cafodd disgynyddion Simeon eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 23 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Simeon oedd 59,300.
24 Cafodd disgynyddion Gad eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 25 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Gad oedd 45,650.
26 Cafodd disgynyddion Jwda eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 27 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Jwda oedd 74,600.
28 Cafodd disgynyddion Issachar eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 29 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Issachar oedd 54,400.
30 Cafodd disgynyddion Sabulon eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 31 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Sabulon oedd 57,400.
32 Cafodd disgynyddion Joseff trwy Effraim eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 33 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Effraim oedd 40,500.
34 Cafodd disgynyddion Manasse eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 35 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Manasse oedd 32,200.
36 Cafodd disgynyddion Benjamin eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 37 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Benjamin oedd 35,400.
38 Cafodd disgynyddion Dan eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 39 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Dan oedd 62,700.
40 Cafodd disgynyddion Aser eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 41 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Aser oedd 41,500.
42 Cafodd disgynyddion Nafftali eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 43 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Nafftali oedd 53,400.
44 Cafodd y rhain eu cofrestru gan Moses, Aaron, a 12 pennaeth Israel, pob un yn cynrychioli ei lwyth. 45 Cafodd pob Israeliad a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu ym myddin Israel ei gofrestru yn ôl ei lwyth, 46 a chyfanswm y rhai a gafodd eu cofrestru oedd 603,550.
47 Ond ni chafodd teuluoedd y Lefiaid eu cofrestru yn eu mysg. 48 Felly dywedodd Jehofa wrth Moses: 49 “Paid â chofrestru llwyth Lefi, na’u cyfri nhw gyda’r Israeliaid eraill. 50 Dylet ti benodi’r Lefiaid dros dabernacl y Dystiolaeth a thros ei holl offer, a thros bopeth sy’n gysylltiedig â’r tabernacl. Byddan nhw’n cario’r tabernacl a’i holl offer, a byddan nhw’n gwasanaethu ynddo, a dylen nhw wersylla o amgylch y tabernacl. 51 Bryd bynnag mae angen symud y tabernacl, dylai’r Lefiaid ei dynnu i lawr, a phryd bynnag mae angen ailgodi’r tabernacl, y Lefiaid a ddylai wneud hynny; a dylai unrhyw un arall sy’n dod yn agos ato gael ei roi i farwolaeth.
52 “Dylai pob Israeliad godi ei babell yn y gwersyll sydd wedi cael ei aseinio iddo, pob dyn yn ôl ei grŵp o dri llwyth* ac yn ôl ei grŵp milwrol. 53 Dylai’r Lefiaid wersylla o amgylch tabernacl y Dystiolaeth, fel na fydd dicter Duw yn codi yn erbyn cynulleidfa’r Israeliaid; ac mae’n rhaid i’r Lefiaid fod yn gyfrifol am ofalu am dabernacl y Dystiolaeth.”*
54 Gwnaeth pobl Israel bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. Gwnaethon nhw yn union felly.