LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 11
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Teyrnasiad Rehoboam (1-12)

      • Lefiaid ffyddlon yn symud i Jwda (13-17)

      • Teulu Rehoboam (18-23)

2 Cronicl 11:15

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “y geifr.”

2 Cronicl 11:21

Troednodiadau

  • *

    Neu “a’i wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.

  • *

    Neu “o wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.

2 Cronicl 11:23

Troednodiadau

  • *

    Neu “gyda dealltwriaeth.”

  • *

    Neu “a gwasgarodd.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 11:1-23

Ail Cronicl

11 Unwaith i Rehoboam gyrraedd Jerwsalem, casglodd dŷ Jwda a Benjamin at ei gilydd, 180,000 o filwyr oedd wedi cael eu hyfforddi, i frwydro yn erbyn Israel er mwyn adfer y deyrnas i Rehoboam. 2 Yna daeth gair Jehofa at Semaia, dyn y gwir Dduw, gan ddweud: 3 “Dyweda wrth Rehoboam fab Solomon brenin Jwda ac wrth Israel gyfan yn Jwda a Benjamin, 4 ‘Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “Peidiwch â mynd i fyny a brwydro yn erbyn eich brodyr. Ewch, bob un ohonoch chi, yn ôl i’w dŷ, oherwydd y fi sydd wedi achosi i hyn ddigwydd.”’” Felly dyma nhw’n ufuddhau i air Jehofa ac yn mynd yn ôl adref, ac nid aethon nhw yn erbyn Jeroboam.

5 Roedd Rehoboam yn byw yn Jerwsalem ac adeiladodd ddinasoedd caerog yn Jwda. 6 Felly ailadeiladodd Bethlehem, Etam, Tecoa, 7 Beth-sur, Socho, Adulam, 8 Gath, Maresa, Siff, 9 Adoraim, Lachis, Aseca, 10 Sora, Ajalon, a Hebron, dinasoedd caerog a oedd yn Jwda a Benjamin. 11 Ar ben hynny, gwnaeth y dinasoedd caerog yn gryfach byth a rhoi arweinwyr ynddyn nhw ac anfon bwyd, olew, a gwin yno, 12 ac anfonodd darianau mawr a gwaywffyn i’r holl ddinasoedd gwahanol; gwnaeth nhw’n llefydd diogel iawn. A pharhaodd i deyrnasu dros Jwda a Benjamin.

13 A daeth yr offeiriaid a’r Lefiaid a oedd yn Israel gyfan i sefyll gydag ef, gan ddod allan o’u holl diriogaethau. 14 Gadawodd y Lefiaid eu tiroedd pori a’u heiddo a dod i Jwda a Jerwsalem, am fod Jeroboam a’i feibion wedi eu diswyddo nhw fel offeiriaid i Jehofa. 15 Yna penododd Jeroboam ei offeiriaid ei hun ar gyfer yr uchelfannau ac ar gyfer y cythreuliaid sydd fel geifr* ac ar gyfer y lloeau roedd ef wedi eu gwneud. 16 A dyma’r rhai o blith holl lwythau Israel a oedd yn dymuno yn eu calonnau i geisio Jehofa, Duw Israel, yn eu dilyn nhw i Jerwsalem i aberthu i Jehofa, Duw eu cyndadau. 17 Am dair blynedd roedden nhw’n cryfhau brenhiniaeth Jwda, ac yn cefnogi Rehoboam fab Solomon, gan ddilyn ôl traed Dafydd a Solomon am dair blynedd.

18 Yna priododd Rehoboam Mahalath, a oedd yn ferch i Jerimoth fab Dafydd ac i Abihail, merch Eliab fab Jesse. 19 Ymhen amser dyma hi’n geni meibion iddo: Jeus, Semareia, a Saham. 20 Ar ei hôl hi, priododd ef Maacha, wyres Absalom. Ymhen amser dyma hi’n geni Abeia, Attai, Sisa, a Selomith iddo. 21 O blith ei holl wragedd a’i wragedd eraill,* Maacha wyres Absalom a oedd yr un roedd Rehoboam yn ei charu fwyaf. Roedd ganddo 18 gwraig a 60 o wragedd eraill,* a daeth yn dad i 28 o feibion a 60 o ferched. 22 Felly dyma Rehoboam yn penodi Abeia fab Maacha yn bennaeth ac yn arweinydd dros ei frodyr, oherwydd roedd yn bwriadu ei wneud yn frenin. 23 Ond, gweithredodd yn ddoeth,* ac anfonodd* rai o’i feibion i holl ardaloedd Jwda a Benjamin, i bob dinas gaerog, a rhoddodd ddigonedd o fwyd iddyn nhw a dod o hyd i lawer o wragedd iddyn nhw.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu