Nehemeia
7 Unwaith i’r wal gael ei hailadeiladu, dyma fi’n gosod y drysau yn eu lle; ac yna cafodd y porthorion, y cantorion, a’r Lefiaid eu penodi. 2 Yna, dyma fi’n penodi fy mrawd Hanani i fod yn arolygwr dros Jerwsalem, yn ogystal â Hananeia, pennaeth y Gaer, am ei fod yn ddyn gonest iawn a oedd yn ofni’r gwir Dduw yn fwy nag yr oedd llawer o bobl eraill. 3 Felly dywedais wrthyn nhw: “Ni ddylai pyrth Jerwsalem gael eu hagor tan ganol dydd,* a thra bod y porthorion yn dal ar ddyletswydd, dylen nhw gau’r drysau a’u cloi nhw â bolltau. Dylai pobl Jerwsalem gael eu haseinio i fod yn wylwyr, pob un naill ai wrth ei safle neu o flaen ei dŷ ei hun.” 4 Nawr roedd y ddinas yn fawr ac yn eang, a dim ond ychydig o bobl a oedd y tu mewn iddi, a doedd y tai ddim wedi cael eu hailadeiladu.
5 Ond dyma fy Nuw yn cymell fy nghalon i gasglu’r dynion pwysig a’r dirprwy reolwyr a’r bobl at ei gilydd er mwyn eu cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd. Yna, des i o hyd i gofrestr achau teuluol y rhai cyntaf a ddaeth i fyny, a dyma beth roedd wedi ei ysgrifennu ynddi:
6 Y rhain oedd pobl y dalaith a ddaeth i fyny o blith yr alltudion, y rhai roedd Nebuchadnesar, brenin Babilon, wedi eu halltudio, ac a ddaeth yn ôl i Jerwsalem a Jwda yn nes ymlaen, pob un i’w ddinas ei hun, 7 y rhai a ddaeth gyda Sorobabel, Jesua, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum, a Baana.
Dyma niferoedd dynion Israel: 8 meibion Paros, 2,172; 9 meibion Seffateia, 372; 10 meibion Ara, 652; 11 meibion Pahath-moab, o blith meibion Jesua a Joab, 2,818; 12 meibion Elam, 1,254; 13 meibion Sattu, 845; 14 meibion Saccai, 760; 15 meibion Binnui, 648; 16 meibion Bebai, 628; 17 meibion Asgad, 2,322; 18 meibion Adonicam, 667; 19 meibion Bigfai, 2,067; 20 meibion Adin, 655; 21 meibion Ater, sef disgynyddion Heseceia, 98; 22 meibion Hasum, 328; 23 meibion Besai, 324; 24 meibion Hariff, 112; 25 meibion Gibeon, 95; 26 dynion Bethlehem a Netoffa, 188; 27 dynion Anathoth, 128; 28 dynion Beth-asmafeth, 42; 29 dynion Ciriath-jearim, Ceffira, a Beeroth, 743; 30 dynion Rama a Geba, 621; 31 dynion Michmas, 122; 32 dynion Bethel ac Ai, 123; 33 dynion y Nebo arall, 52; 34 meibion yr Elam arall, 1,254; 35 meibion Harim, 320; 36 meibion Jericho, 345; 37 meibion Lod, Hadid, ac Ono,721; 38 meibion Senaa, 3,930.
39 Yr offeiriaid: meibion Jedaia o deulu Jesua, 973; 40 meibion Immer, 1,052; 41 meibion Passur, 1,247; 42 meibion Harim, 1,017.
43 Y Lefiaid: meibion Jesua, o deulu Cadmiel, o blith meibion Hodefa, 74. 44 Y cantorion: meibion Asaff, 148. 45 Y porthorion: meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, 138.
46 Gweision y deml:* meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, 47 meibion Ceros, meibion Sia, meibion Padon, 48 meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Salmai, 49 meibion Hanan, meibion Gidel, meibion Gahar, 50 meibion Reaia, meibion Resin, meibion Necoda, 51 meibion Gassam, meibion Ussa, meibion Pasea, 52 meibion Besai, meibion Meunim, meibion Neffisesim, 53 meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 54 meibion Baslith, meibion Mehida, meibion Harsa, 55 meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Tama, 56 meibion Neseia, meibion Hatiffa.
57 Meibion gweision Solomon: meibion Sotai, meibion Soffereth, meibion Perida, 58 meibion Jala, meibion Darcon, meibion Gidel, 59 meibion Seffateia, meibion Hattil, meibion Pochereth-hassebaim, meibion Amon. 60 Cyfanswm gweision y deml* a meibion gweision Solomon oedd 392.
61 A dyma’r rhai a aeth i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adon, ac Immer, ond doedden nhw ddim yn gallu profi o ba deulu roedden nhw’n dod, nac yn gallu profi eu bod nhw’n Israeliaid: 62 meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, 642. 63 Ac o blith yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Haccos, meibion Barsilai a briododd un o ferched Barsilai y Gileadiad gan gymryd enw ei dad-yng-nghyfraith. 64 Ar ôl chwilio, doedden nhw ddim yn gallu cael hyd i’w hachau yn y cofnodion, felly cawson nhw eu gwahardd rhag bod yn offeiriaid.* 65 Dywedodd y llywodraethwr* wrthyn nhw na ddylen nhw fwyta o’r pethau mwyaf sanctaidd nes i offeiriad ymgynghori â Duw drwy’r Urim a’r Thummim.
66 Cyfanswm y gynulleidfa gyfan oedd 42,360, 67 heb gynnwys eu caethweision a’u caethferched, 7,337 ohonyn nhw; hefyd roedd ganddyn nhw 245 o gantorion—dynion a merched.* 68 Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 69 435 o gamelod, a 6,720 o asynnod.
70 Cyfrannodd rhai o benaethiaid y grwpiau o deuluoedd tuag at y gwaith. Rhoddodd y llywodraethwr* y pethau hyn i’r drysorfa: 1,000 drachma aur,* 50 powlen, a 530 mantell ar gyfer yr offeiriaid. 71 A gwnaeth rhai o benaethiaid y grwpiau o deuluoedd gyfrannu 20,000 drachma aur a 2,200 mina* o arian at drysorfa’r prosiect. 72 A rhoddodd gweddill y bobl 20,000 drachma aur, 2,000 mina o arian, a 67 mantell ar gyfer yr offeiriaid.
73 A dyma’r offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, gweision y deml,* a gweddill pobl Israel i gyd, yn setlo yn eu dinasoedd. Erbyn y seithfed mis, roedd yr Israeliaid wedi setlo yn eu dinasoedd.