Nehemeia
6 Nawr yn syth ar ôl i Sanbalat, Tobeia, Gesem yr Arabiad, a gweddill ein gelynion glywed fy mod i wedi ailadeiladu’r wal a doedd ’na ddim bylchau ar ôl ynddi (er nad oedden ni wedi gosod y drysau yn y pyrth bryd hynny), 2 anfonodd Sanbalat a Gesem y neges hon ata i ar unwaith: “Tyrd a gad inni drefnu amser i gyfarfod â’n gilydd yn un o’r pentrefi yng Ngwastatir Dyffryn Ono.” Ond cynllwynio i fy niweidio i oedden nhw. 3 Felly anfonais negeswyr atyn nhw gan ddweud: “Rydw i’n brysur â gwaith pwysig iawn, a dydw i ddim yn gallu dod i lawr. Pam dylwn i ddod i’ch cyfarfod chi a gadael i’r gwaith stopio?” 4 Felly anfonon nhw’r un neges ata i bedair gwaith, a rhoddais yr un ateb iddyn nhw bob tro.
5 Yna anfonodd Sanbalat ei was ata i gyda’r un neges am y pumed tro, gyda llythyr agored yn ei law. 6 Roedd y llythyr yn dweud: “Mae ’na si yn mynd o gwmpas ymysg y cenhedloedd, ac mae Gesem hefyd yn dweud, dy fod ti a’r Iddewon yn cynllwynio i wrthryfela. Dyna pam rwyt ti’n adeiladu’r wal; ac yn ôl yr adroddion rwyt ti’n bwriadu dod yn frenin arnyn nhw. 7 Hefyd, rwyt ti wedi penodi proffwydi i ddweud amdanat ti drwy Jerwsalem i gyd, ‘Mae ’na frenin yn Jwda!’ Ac nawr bydd y brenin yn clywed am hyn i gyd. Felly tyrd, a gad inni drafod hyn gyda’n gilydd er mwyn datrys y mater.”
8 Ond anfonais yr ateb hwn ato: “Does dim un o’r pethau yma rwyt ti’n sôn amdanyn nhw wedi digwydd; ffrwyth dy ddychymyg ydyn nhw i gyd.” 9 Oherwydd roedden nhw i gyd yn ceisio ein dychryn ni gan ddweud: “Byddan nhw’n llaesu eu dwylo, a fydd y gwaith ddim yn cael ei orffen.” Nawr, O fy Nuw, rydw i’n gweddïo, cryfha fy nwylo.
10 Yna es i i dŷ Semaia, mab Delaia, mab Mehetabel, ar yr adeg pan nad oedd ef yn gadael ei dŷ. Dywedodd ef: “Gad inni drefnu amser i gyfarfod yn nhŷ’r gwir Dduw, y tu mewn i’r deml, a gad inni gau drysau’r deml, oherwydd maen nhw’n dod i dy ladd di. Maen nhw’n dod i dy ladd di liw nos.” 11 Ond atebais: “A ddylai dyn fel fi redeg i ffwrdd? A allai dyn fel fi fynd i mewn i’r deml a chael byw? Fydda i ddim yn mynd i mewn!” 12 Yna sylweddolais nad oedd ef wedi cael ei anfon gan Dduw, ond ei fod wedi cael ei dalu gan Tobeia a Sanbalat i broffwydo yn fy erbyn i. 13 Roedd ef wedi cael ei dalu i fy nychryn i ac i achosi imi bechu, fel bod ganddyn nhw ffordd o niweidio fy enw da er mwyn codi cywilydd arna i.
14 Cofia, O fy Nuw, bopeth mae Tobeia a Sanbalat wedi ei wneud, a hefyd Noadeia y broffwydes a gweddill y proffwydi a oedd yn ceisio fy nychryn i drwy’r adeg.
15 Felly cafodd y wal ei chwblhau ar y pumed diwrnod ar hugain* o fis Elul, o fewn 52 diwrnod.
16 Unwaith i’n holl elynion glywed am hyn ac unwaith i’r cenhedloedd i gyd ei weld, teimlon nhw gywilydd mawr, a sylweddolon nhw mai gyda help ein Duw y cafodd y gwaith ei gwblhau. 17 Yn ystod y dyddiau hynny, roedd dynion pwysig Jwda yn anfon llawer o lythyrau at Tobeia, ac roedd Tobeia yn eu hateb nhw. 18 Gwnaeth llawer o bobl yn Jwda dyngu llw i gefnogi Tobeia, am ei fod yn fab-yng-nghyfraith i Sechaneia fab Ara, ac roedd ei fab Jehohanan wedi priodi merch Mesulam fab Berecheia. 19 Ar ben hynny, roedden nhw’n dweud pethau da am Tobeia wrtho i o hyd, ac yna’n adrodd yn ôl wrtho beth roeddwn i’n ei ddweud. Yna roedd Tobeia yn anfon llythyrau i fy nychryn i.