LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 17
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Barnedigaeth ar “Babilon Fawr” (1-18)

        • Y butain fawr yn eistedd ar fwystfil ysgarlad (1-3)

        • Y bwystfil a oedd ‘yn bodoli, ond nid yw’n bodoli nawr, ond fe fydd yn bresennol’ (8)

        • Deg corn i ymladd yn erbyn yr Oen (12-14)

        • Deg corn i gasáu’r butain (16, 17)

Datguddiad 17:1

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2019, tt. 10-11

    Beibl Ddysgu, t. 220

Datguddiad 17:2

Troednodiadau

  • *

    Gweler Geirfa.

  • *

    Groeg, porneia. Gweler Geirfa.

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Beibl Ddysgu, t. 220

Datguddiad 17:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “gwelais fenyw.”

Datguddiad 17:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

  • *

    Groeg, porneia. Gweler Geirfa.

Datguddiad 17:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Datguddiad 17:7

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Datguddiad 17:8

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 100

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2022, t. 10

Datguddiad 17:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 100

Datguddiad 17:10

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2022, tt. 9-10

Datguddiad 17:11

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    7/2022, t. 5

    5/2022, t. 10

Datguddiad 17:16

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2022, tt. 11-14

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2019, tt. 10-11

Datguddiad 17:17

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2022, tt. 11-14

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2019, tt. 14-15

Datguddiad 17:18

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Beibl Ddysgu, tt. 219-220

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 17:1-18

Datguddiad i Ioan

17 Dyma un o’r saith angel a oedd â’r saith powlen yn dod ac yn dweud wrtho i: “Tyrd, fe wna i ddangos iti’r farnedigaeth ar y butain fawr sy’n eistedd ar lawer o ddyfroedd, 2 yr un mae brenhinoedd y ddaear wedi cyflawni anfoesoldeb rhywiol* â hi, a gwnaeth trigolion y ddaear feddwi ar win ei hanfoesoldeb rhywiol.”*

3 A dyma’n fy nghymryd i i ffwrdd yng ngrym yr ysbryd i mewn i’r anialwch. A gwelais ddynes* yn eistedd ar fwystfil gwyllt ysgarlad a oedd yn llawn enwau cableddus ac roedd ganddo saith pen a deg corn. 4 Roedd y ddynes* yn gwisgo porffor ac ysgarlad, ac roedd hi wedi ei haddurno ag aur a gemau gwerthfawr a pherlau, ac yn ei llaw roedd ganddi gwpan aur a oedd yn llawn pethau ffiaidd a phethau aflan ei hanfoesoldeb rhywiol.* 5 Ar ei thalcen roedd ’na enw dirgel wedi ei ysgrifennu: “Babilon Fawr, mam y puteiniaid a phethau ffiaidd y ddaear.” 6 Ac fe welais fod y ddynes* wedi meddwi ar waed y rhai sanctaidd ac ar waed tystion Iesu.

Wel, o’i gweld hi, roeddwn i’n rhyfeddu’n fawr iawn. 7 Felly dywedodd yr angel wrtho i: “Pam roeddet ti wedi rhyfeddu? Bydda i’n dweud wrthot ti am ddirgelwch y ddynes* a’r bwystfil gwyllt sy’n ei chario hi ac sydd â’r saith pen a’r deg corn: 8 Roedd y bwystfil gwyllt a welaist ti yn bodoli, ond nid yw’n bodoli nawr, ond eto, mae ar fin codi o’r dyfnder, ac fe fydd yn mynd i ffwrdd i ddinistr. A bydd trigolion y ddaear—y rhai nad ydy eu henwau wedi cael eu hysgrifennu yn sgrôl y bywyd ers seilio’r byd—yn rhyfeddu o weld sut roedd y bwystfil gwyllt yn bodoli, ond nid yw’n bodoli nawr, ond eto, fe fydd yn bresennol.

9 “Mae hyn yn gofyn am feddwl doeth: Mae’r saith pen yn golygu saith mynydd, lle mae’r ddynes* yn eistedd arnyn nhw. 10 Ac mae ’na saith brenin: Mae pump wedi syrthio, mae un yn bodoli, a dydy’r llall heb gyrraedd eto; ond pan fydd yn cyrraedd, bydd rhaid iddo aros am gyfnod byr. 11 A’r bwystfil gwyllt a oedd yn bodoli ond sydd ddim yn bodoli, mae yntau hefyd yn wythfed brenin, ond mae’n dod o’r saith, ac mae’n mynd i ffwrdd i ddinistr.

12 “Mae’r deg corn a welaist ti yn golygu deg brenin sydd ddim eto wedi derbyn teyrnas, ond maen nhw’n derbyn awdurdod fel brenhinoedd am un awr gyda’r bwystfil gwyllt. 13 Un meddwl sydd gan y rhain, felly maen nhw’n rhoi eu grym a’u hawdurdod i’r bwystfil gwyllt. 14 Bydd y rhain yn brwydro yn erbyn yr Oen, ond oherwydd ei fod yn Arglwydd ar arglwyddi ac yn Frenin ar frenhinoedd, bydd yr Oen yn eu concro nhw. Hefyd, bydd y rhai gydag ef sy’n cael eu galw a’u dewis ac sy’n ffyddlon yn gwneud hynny hefyd.”

15 Dywedodd wrtho i: “Mae’r dyfroedd a welaist ti, lle mae’r butain yn eistedd, yn golygu pobloedd a thyrfaoedd a chenhedloedd ac ieithoedd. 16 A bydd y deg corn a welaist ti a’r bwystfil gwyllt yn casáu’r butain ac yn cymryd popeth oddi arni hi ac yn ei gadael hi’n noeth, a byddan nhw’n bwyta ei chnawd ac yn ei llosgi hi’n llwyr â thân. 17 Oherwydd rhoddodd Duw ei feddwl ef yn eu calonnau i gyflawni ei fwriad, yn wir, i gyflawni’r un meddwl sydd ganddyn nhw drwy roi eu teyrnas i’r bwystfil gwyllt, nes i eiriau Duw gael eu cyflawni. 18 Ac mae’r ddynes* a welaist ti yn golygu’r ddinas fawr sydd â theyrnas dros frenhinoedd y ddaear.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu