LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Rhufeiniaid 13
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Rhufeiniaid

      • Ufuddhau i’r awdurdodau (1-7)

        • Talu trethi (6, 7)

      • Cariad ydy cyflawniad y Gyfraith (8-10)

      • Cerdded yng ngolau dydd (11-14)

Rhufeiniaid 13:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “i’r awdurdodau uwch,” hynny yw, y rheolwyr llywodraethol.

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2023, tt. 8-10

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2022, tt. 13-14

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 45

    Gwybodaeth, t. 131

Rhufeiniaid 13:2

Troednodiadau

  • *

    Neu “condemnio; cosbi.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2023, tt. 8-10

    Gwybodaeth, t. 133

Rhufeiniaid 13:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “Gweinidog.”

  • *

    Neu “awdurdod.”

  • *

    Neu “Gweinidog.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gwybodaeth, tt. 131-132

Rhufeiniaid 13:5

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 36

    Y Tŵr Gwylio,

    1/9/2011,

Rhufeiniaid 13:6

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 36

    Y Tŵr Gwylio,

    1/9/2011,

Rhufeiniaid 13:7

Troednodiadau

  • *

    Neu “ffioedd y llywodraeth.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2023, t. 8

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 36

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    3/2017, tt. 9-10

Rhufeiniaid 13:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “paid â chwennych.”

Rhufeiniaid 13:13

Troednodiadau

  • *

    Neu “inni gerdded yn weddus.”

  • *

    Neu “na chwffio; nac ymladd.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 43

Rhufeiniaid 13:14

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “chwantau’r cnawd.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Rhufeiniaid 13:1-14

At y Rhufeiniaid

13 Dylen ni ufuddhau i’r rhai mewn awdurdod sy’n rheoli droston ni.* Ni all unrhyw awdurdod fodoli oni bai bod Duw’n caniatáu hynny. Mae’r awdurdodau sydd nawr yn bodoli wedi cael eu gosod yn eu gwahanol safleoedd gan Dduw. 2 Os ydyn ni’n gwrthwynebu eu hawdurdod, rydyn ni’n gweithio’n erbyn Duw. Bydd y rhai sy’n gwrthsefyll y drefn hon yn cael eu barnu.* 3 Dydy’r rheolwyr ddim yn cael eu hofni gan y rhai sy’n gwneud daioni, ond gan y rhai sy’n gwneud drygioni. Does dim rhaid iti ofni’r awdurdodau. Os wyt ti’n gwneud daioni, fe fyddan nhw’n dy ganmol di. 4 Gwas* Duw ydyn nhw er dy les di. Ond os wyt ti’n gwneud yr hyn sy’n ddrwg, mae gen ti reswm dros fod yn ofnus. Maen nhw wedi cael yr hawl a’r grym* i gosbi’r rhai sy’n gwneud drwg. Gwas* Duw ydyn nhw i gosbi’r un sy’n gwneud drwg.

5 Mae gen ti resymau da dros ufuddhau, nid yn unig i osgoi eu llid ond hefyd i gadw cydwybod dda. 6 Dyna pam rydych chi hefyd yn talu trethi; oherwydd gweision cyhoeddus Duw ydyn nhw sy’n gwasanaethu’n barhaol i’r diben hwn. 7 Rhowch i bawb yr hyn y dylai ei dderbyn: Rhowch drethi i’r sawl sy’n gofyn am drethi; talwch y tollau* i’r rhai sy’n gofyn am y tollau; dangoswch barch tuag at y sawl sy’n gofyn am barch; dangoswch anrhydedd i’r sawl sy’n gofyn am anrhydedd.

8 Peidiwch â bod mewn dyled i neb ar wahân i garu eich gilydd. Mae pwy bynnag sy’n caru ei gyd-ddyn wedi cyflawni’r gyfraith. 9 Oherwydd mae’r Gyfraith sy’n dweud: “Paid â godinebu, paid â llofruddio, paid â dwyn, paid â dymuno’r hyn sy’n perthyn i eraill,”* ynghyd ag unrhyw orchymyn arall sydd yn y Gyfraith, wedi cael eu crynhoi yn y gorchymyn hwn: “Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.” 10 Dydy cariad ddim yn gwneud cam ag eraill; felly cariad ydy cyflawniad y Gyfraith.

11 Fe ddylech chi wneud hyn oherwydd eich bod chi’n gwybod bod yr amser wedi dod ichi ddeffro o’ch cwsg. Mae ein hachubiaeth ni yn llawer nes na phan ddaethon ni’n gredinwyr. 12 Mae’r nos bron â dod i ben; mae’r dydd ar fin gwawrio. Felly dylen ni stopio gwneud y pethau sy’n perthyn i’r tywyllwch a gwisgo arfau goleuni. 13 Gadewch inni ymddwyn yn iawn,* fel pobl sy’n gwneud pethau yng ngolau dydd. Ni ddylen ni gael partïon gwyllt na meddwi, nac ymddwyn mewn ffordd anfoesol neu ddigywilydd, na chodi twrw,* na bod yn genfigennus. 14 Yn hytrach, dilynwch yn ofalus esiampl yr Arglwydd Iesu Grist, a pheidiwch â chynllunio ymlaen llaw i fodloni chwantau pechadurus.*

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu