LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Cronicl 24
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Cronicl

      • Dafydd yn trefnu offeiriaid yn 24 grŵp (1-19)

      • Aseiniadau eraill i’r Lefiaid (20-31)

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Cronicl 24:1-31

Cyntaf Cronicl

24 Nawr dyma oedd grwpiau disgynyddion Aaron: Meibion Aaron oedd Nadab, Abihu, Eleasar, ac Ithamar. 2 Ond bu farw Nadab ac Abihu cyn eu tad, a chawson nhw ddim meibion; ond parhaodd Eleasar ac Ithamar i wasanaethu fel offeiriaid. 3 Gwnaeth Dafydd, yn ogystal â Sadoc o blith meibion Eleasar ac Ahimelech o blith meibion Ithamar, eu rhannu nhw’n grwpiau er mwyn aseinio dyletswyddau iddyn nhw. 4 Am fod gan feibion Eleasar fwy o benaethiaid nag oedd gan feibion Ithamar, dyma nhw’n eu rhannu nhw fel hyn: Roedd gan feibion Eleasar 16 yn bennau ar eu grwpiau o deuluoedd, ac roedd gan feibion Ithamar 8 yn bennau ar eu grwpiau o deuluoedd.

5 Ar ben hynny, dyma nhw’n taflu coelbren ar gyfer trefnu dyletswyddau’r ddau grŵp, oherwydd roedd penaethiaid y lle sanctaidd a phenaethiaid y gwir Dduw yn dod o blith meibion Eleasar ac o blith meibion Ithamar. 6 Yna dyma Semaia fab Nethanel, ysgrifennydd y Lefiaid, yn cofnodi eu henwau o flaen y brenin, y tywysogion, Sadoc yr offeiriad, Ahimelech fab Abiathar, a phennau teuluoedd estynedig yr offeiriaid a’r Lefiaid. Cafodd teuluoedd estynedig Eleasar ac Ithamar eu dewis bob yn ail.

7 Disgynnodd y coelbren cyntaf i Jehoiarib; yr ail i Jedaia, 8 y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim, 9 y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin, 10 y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia, 11 y nawfed i Jesua, y degfed i Sechaneia, 12 yr unfed ar ddeg i Eliasib, y deuddegfed i Jacim, 13 y trydydd ar ddeg i Huppa, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab, 14 y pymthegfed i Bilga, yr unfed ar bymtheg i Immer, 15 yr ail ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Hapises, 16 y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia, yr ugeinfed i Jehesecel, 17 yr unfed ar hugain i Jachin, yr ail ar hugain i Gamul, 18 y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maasia.

19 Dyma sut cawson nhw eu trefnu i wasanaethu yn nhŷ Jehofa, yn unol â’r drefn a gafodd ei gosod gan eu cyndad Aaron, yn union fel roedd Jehofa, Duw Israel, wedi gorchymyn iddo.

20 Ac o blith gweddill y Lefiaid: o feibion Amram, roedd Subael; o feibion Subael, Jehdeia; 21 o feibion Rehabia, Iseia y pen; 22 o’r Ishariaid, Selomoth; o feibion Selomoth, Jahath; 23 ac o feibion Hebron, Jereia oedd y pen, Amareia oedd yr ail, Jehasiel oedd y trydydd, Jecameam oedd y pedwerydd; 24 o feibion Ussiel, Micha; o feibion Micha, Samir. 25 Brawd Micha oedd Iseia; o feibion Iseia, Sechareia.

26 Meibion Merari oedd Mahli a Musi; o feibion Jaasei, Beno. 27 Meibion Merari: o Jaasei, Beno, Soham, Saccur, ac Ibri; 28 o Mahli, Eleasar, nad oedd ag unrhyw feibion; 29 o feibion Cis, Jerahmeel; 30 a meibion Musi oedd Mahli, Eder, a Jerimoth.

Dyma oedd meibion Lefi yn ôl eu grwpiau o deuluoedd. 31 A gwnaethon nhw hefyd daflu coelbren yn union fel gwnaeth eu brodyr, meibion Aaron, ym mhresenoldeb y Brenin Dafydd, Sadoc, Ahimelech, a phennau teuluoedd estynedig yr offeiriaid a’r Lefiaid. Ynglŷn â’r teuluoedd estynedig, roedd yr un uwch yn cael ei ystyried yr un fath â’r un is.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu