LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Philipiaid 3
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Philipiaid

      • Peidio â seilio ein hyder ar y cnawd (1-11)

        • Popeth yn golled oherwydd y Crist (7-9)

      • Bwrw ymlaen at y nod (12-21)

        • Dinasyddion y nefoedd (20)

Philipiaid 3:7

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “rydw i wedi cefnu arnyn nhw o’m gwirfodd.”

Philipiaid 3:8

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 46

Philipiaid 3:11

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2020, tt. 6-7

Philipiaid 3:13

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2019, tt. 3-4

Philipiaid 3:16

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 60

Philipiaid 3:18

Troednodiadau

  • *

    Gweler Geirfa.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Philipiaid 3:1-21

At y Philipiaid

3 Yn olaf, fy mrodyr, parhewch i lawenhau yn yr Arglwydd. Dydy ysgrifennu’r un pethau atoch chi ddim yn drafferth imi, ac mae’n eich diogelu chi.

2 Gwyliwch rhag y cŵn; gwyliwch rhag y rhai sy’n achosi niwed; gwyliwch rhag y rhai sy’n enwaedu’r cnawd. 3 Oherwydd y ni ydy’r rhai sydd â’r enwaediad go iawn, y ni sy’n cyflawni gwasanaeth cysegredig drwy ysbryd Duw ac sy’n brolio am Grist Iesu ac sydd ddim yn seilio ein hyder ar y cnawd, 4 ond mae gen i, yn fwy na neb, reswm dros roi hyder yn y cnawd.

Os oes unrhyw ddyn arall yn meddwl bod ganddo reswm dros roi hyder yn y cnawd, mae gen i fwy o reswm: 5 ces i fy enwaedu ar yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebread o dras Hebreaid; o ran y Gyfraith, yn Pharisead; 6 o ran sêl, yn erlid y gynulleidfa; o ran cyfiawnder wedi ei seilio ar y Gyfraith, yn rhywun a brofodd ei fod yn ddi-fai. 7 Ond eto, y pethau a oedd yn elw i mi, rydw i’n eu hystyried yn golled* oherwydd y Crist. 8 Ac ar ben hynny, rydw i hefyd yn wir yn ystyried pob peth yn golled oherwydd gwerth rhagorol y wybodaeth am Grist Iesu fy Arglwydd. Drosto ef rydw i wedi cefnu ar bob peth ac rydw i’n ystyried y cwbl yn sbwriel, er mwyn imi ennill Crist 9 a chael fy ystyried yn ddilynwr iddo, nid oherwydd fy nghyfiawnder fy hun o ddilyn y Gyfraith, ond oherwydd y cyfiawnder sy’n dod trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder oddi wrth Dduw sy’n seiliedig ar ffydd. 10 Fy nod yw ei adnabod ef a grym ei atgyfodiad ac i rannu yn ei ddioddefaint, gan fy ildio fy hun i’r un fath o farwolaeth ag ef, 11 i weld a yw’n bosib imi dderbyn yr atgyfodiad cynharach o’r meirw.

12 Nid fy mod i eisoes wedi ei dderbyn, neu fy mod i eisoes wedi cael fy ngwneud yn berffaith, ond rydw i’n bwrw ymlaen i weld a alla i gael gafael yn y wobr, oherwydd rydw i’n gwybod bod Crist Iesu wedi fy newis i ar gyfer hyn. 13 Frodyr, dydw i ddim eto’n ystyried fy mod i wedi cael gafael ynddi; ond mae un peth yn sicr: Gan anghofio am y pethau sydd y tu ôl imi ac ymestyn at y pethau sydd o fy mlaen i, 14 rydw i’n bwrw ymlaen at y nod o dderbyn y wobr o gael fy ngalw i fyny i’r nef gan Dduw trwy gyfrwng Crist Iesu. 15 Felly, gadewch i’r rhai ohonon ni sy’n aeddfed fod o’r agwedd feddyliol hon, ac os ydych chi’n meddwl yn wahanol mewn unrhyw ffordd, bydd Duw’n datgelu’r agwedd uchod ichi. 16 Er hynny, pa bynnag gynnydd rydyn ni wedi ei wneud, gadewch inni ddal ati i gerdded mewn ffordd drefnus ar yr un llwybr hwn.

17 Byddwch yn efelychwyr unedig ohono i, frodyr, a chymerwch sylw o’r rhai sy’n cerdded mewn ffordd sy’n unol â’r esiampl rydyn ni wedi ei gosod ichi. 18 Oherwydd mae ’na lawer—roeddwn i’n arfer sôn amdanyn nhw’n aml ond nawr rydw i yn fy nagrau wrth sôn amdanyn nhw—sy’n cerdded fel gelynion i stanc dienyddio’r* Crist. 19 Dinistr yw eu diwedd, a’u bol yw eu duw, a’u gogoniant mewn gwirionedd yw eu cywilydd, ac mae eu meddyliau ar bethau daearol. 20 Ond dinasyddion y nefoedd ydyn ni, ac rydyn ni’n disgwyl yn awyddus am achubwr oddi yno, yr Arglwydd Iesu Grist, 21 a fydd yn trawsffurfio ein corff gwan ni i fod fel ei gorff gogoneddus ef drwy ei nerth mawr sy’n ei alluogi i ddarostwng pob peth iddo ef ei hun.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu