Numeri
15 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Siarada â’r Israeliaid a dweud wrthyn nhw, ‘Pan fyddwch chi wedi dod i mewn i’r wlad rydw i am ei rhoi ichi i fyw ynddi 3 ac rydych chi’n offrymu anifail o’r praidd neu o blith y gwartheg yn y tân i Jehofa—p’un a ydy hynny’n offrwm llosg, yn offrwm i gyflawni llw arbennig, yn offrwm gwirfoddol, neu’n offrwm yn ystod un o’r gwyliau tymhorol, er mwyn gwneud arogl sy’n plesio Jehofa— 4 bydd rhaid i’r un sy’n cyflwyno ei offrwm hefyd gyflwyno i Jehofa offrwm grawn o’r blawd* gorau, degfed ran o effa,* wedi ei gymysgu â chwarter hin* o olew. 5 Dylech chi hefyd offrymu chwarter hin o win fel offrwm diod pan ydych chi’n gwneud offrwm llosg neu’n aberthu oen gwryw. 6 Neu os ydych chi’n offrymu hwrdd,* dylech chi gyflwyno offrwm grawn o ddwy ran o ddeg o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag un rhan o dair o hin o olew. 7 A dylech chi gyflwyno gwin fel offrwm diod, un rhan o dair o hin, fel arogl sy’n plesio Jehofa.
8 “‘Ond os ydych chi’n offrymu tarw fel offrwm llosg neu aberth i gyflawni llw arbennig neu fel aberth heddwch i Jehofa, 9 dylech chi hefyd gyflwyno gyda’r tarw dair rhan o ddeg o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu â hanner hin o olew fel offrwm grawn. 10 Dylech chi hefyd gyflwyno hanner hin o win fel offrwm diod, fel offrwm yn y tân, fel arogl sy’n plesio Jehofa. 11 Dyna beth dylech chi ei wneud ar gyfer pob tarw neu hwrdd,* neu ar gyfer pob oen gwryw neu fwch gafr. 12 Ni waeth faint rydych chi’n ei offrymu, dyna beth dylech chi ei wneud ar gyfer pob un. 13 Dyna sut dylai pob un sydd wedi cael ei eni’n Israeliad gyflwyno offrwm yn y tân fel arogl sy’n plesio Jehofa.
14 “‘Os ydy rhywun estron sy’n byw yn eich plith neu rywun sydd wedi bod yn eich plith am lawer o genedlaethau hefyd yn gwneud offrwm yn y tân fel arogl sy’n plesio Jehofa, dylai ef wneud yn union fel chi. 15 Byddwch chi sydd yn y gynulleidfa a’r person estron yn eich plith yn dilyn yr un ddeddf. Bydd hynny’n ddeddf barhaol am eich cenedlaethau i gyd. Dylai’r person estron fod yr un fath â chi o flaen Jehofa. 16 Bydd ’na un gyfraith ac un farnedigaeth ar eich cyfer chi ac ar gyfer y person estron sy’n byw yn eich plith.’”
17 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 18 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Pan fyddwch chi’n dod i mewn i’r wlad rydw i’n eich arwain chi iddi 19 ac rydych chi’n bwyta bara’r wlad,* dylech chi wneud cyfraniad i Jehofa. 20 Dylech chi gyfrannu torthau siâp modrwy wedi eu gwneud allan o’ch blawd* bras cyntaf. Dylech chi eu cyfrannu yn yr un ffordd â chyfraniad sy’n dod o’r llawr dyrnu. 21 Ar hyd eich cenedlaethau, dylech chi gyfrannu i Jehofa ychydig o’ch blawd* bras cyntaf.
22 “‘Nawr os byddwch chi’n gwneud camgymeriad a heb ddilyn yr holl orchmynion a roddodd Jehofa i Moses, 23 popeth a orchmynnodd Jehofa ichi drwy Moses o’r diwrnod y rhoddodd Jehofa orchymyn ac ar hyd eich cenedlaethau, 24 ac os cafodd hyn ei wneud yn anfwriadol, a heb ichi fel cynulleidfa wybod am y peth, dylai’r gynulleidfa gyfan offrymu un tarw ifanc fel offrwm llosg fel arogl sy’n plesio Jehofa, ynghyd â’i offrwm grawn a’i offrwm diod yn ôl y drefn arferol, ac un bwch gafr ifanc fel offrwm dros bechod. 25 Bydd yr offeiriad yn offrymu’r rhain er mwyn ceisio maddeuant ar gyfer holl gynulleidfa’r Israeliaid. A byddan nhw’n cael maddeuant, am fod eu camgymeriad yn anfwriadol, ac am eu bod nhw wedi cyflwyno offrwm drwy dân i Jehofa ac offrwm dros bechod o flaen Jehofa ar gyfer eu camgymeriad. 26 A bydd y gynulleidfa gyfan o Israeliaid a’r person estron sy’n byw yn eu plith yn cael maddeuant, am fod y bobl i gyd wedi gwneud camgymeriad anfwriadol.
27 “‘Os ydy rhywun yn pechu’n anfwriadol, bydd rhaid iddo gyflwyno gafr fenyw sy’n llai na blwydd oed fel offrwm dros bechod. 28 A bydd yr offeiriad yn helpu’r person a wnaeth bechu’n anfwriadol o flaen Jehofa i wneud pethau’n iawn, er mwyn cael maddeuant, a bydd Duw yn maddau iddo. 29 Ac ynglŷn â gwneud rhywbeth anfwriadol, bydd ’na un gyfraith ar gyfer rhywun sydd wedi cael ei eni’n Israeliad ac ar gyfer y person estron sy’n byw yn eu plith.
30 “‘Ond ynglŷn â’r person sy’n gwneud rhywbeth yn fwriadol, p’un a ydy ef wedi cael ei eni’n Israeliad neu’n berson estron, mae’n cablu Jehofa ac mae’n rhaid iddo gael ei roi i farwolaeth.* 31 Am ei fod wedi dirmygu gair Jehofa ac wedi torri ei orchymyn, bydd rhaid i’r person hwnnw gael ei ladd heb os nac oni bai. Bydd yn atebol am ei drosedd ei hun.’”
32 Tra oedd yr Israeliaid yn yr anialwch, daethon nhw ar draws dyn a oedd yn casglu coed ar y Saboth. 33 Dyma’r rhai a ddaeth o hyd iddo yn mynd ag ef at Moses ac Aaron a’r gynulleidfa gyfan. 34 Fe wnaethon nhw ei roi o dan warchodaeth oherwydd nad oedd y gyfraith yn manylu ar beth i’w wneud ag ef.
35 A dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dylai’r dyn gael ei roi i farwolaeth heb os nac oni bai, a dylai’r gynulleidfa gyfan ei labyddio y tu allan i’r gwersyll.” 36 Felly aeth y gynulleidfa gyfan ag ef allan o’r gwersyll a’i labyddio i farwolaeth, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
37 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 38 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw i roi ymylon addurniadol* ar waelod eu dillad drwy eu cenedlaethau i gyd, ac i roi llinyn glas uwchben yr ymylon addurniadol. 39 ‘Dylech chi gael yr ymyl addurniadol hwn fel y byddwch chi’n cofio holl orchmynion Jehofa bob tro rydych chi’n ei weld er mwyn ichi eu dilyn nhw. Ddylech chi ddim dilyn eich calonnau na’ch llygaid eich hunain, sy’n achosi ichi eich puteinio eich hunain yn ysbrydol. 40 Bydd hyn yn eich helpu chi i gofio, a byddwch chi’n ufudd i fy ngorchmynion i gyd a byddwch chi’n sanctaidd yng ngolwg eich Duw. 41 Fi yw Jehofa eich Duw, a ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft er mwyn profi mai fi yw eich Duw chi. Fi yw Jehofa eich Duw.’”